Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Peidiwch A Barnu Llyfr Yn Ol Ei Glawr

Dangos nad yw sut rai ydyn ni ar y tu allan mor bwysig â sut rai ydyn ni ar y tu mewn.

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dangos nad yw sut rai ydyn ni ar y tu allan mor bwysig â sut rai ydyn ni ar y tu mewn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhywfaint o ddilladau gwisg ffansi. 
  • Dau lun (oddi ar y rhyngrwyd): un o droseddwr golygus, a llun arall o weithiwyr cyffredin sy’n gweithio i elusen.

Gwasanaeth

  1. Dewiswch bedwar o blant. Rhowch funud i ddau ohonyn nhw wisgo’r ddau arall mewn gwisg ffansi.  Trefnwch bleidlais i ddweud pa un yw’r gorau.

  2. Gofynnwch i’r ddau sydd mewn gwisg ffansi a ydyn nhw’n teimlo’n wahanol oherwydd eu bod yn gwisgo dillad gwahanol.  Gofynnwch i’r gynulleidfa a yw’r hyn yr ydych yn ei wisgo, neu’r ffordd yr ydych chi´n edrych, yn effeithio ar ba mor bwysig yr ydych chi fel person.

  3. Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n ei gredu y mae’r dywediad, ‘Human beings look on the outside, but God looks at the heart’ yn ei feddwl. Hynny yw, bod pobl yn edrych ar y tu allan, ond bod Duw’n edrych ar y galon.  Yna adroddwch y fersiwn byr hwn sydd wedi ei sylfaenu ar stori’r Samariad Trugarog.

    Un diwrnod roedd myfyriwr yn cerdded i lawr stryd, fel yr oedd yn ei wneud bob dydd.  Yn sydyn, fe neidiodd rhyw ddrwgweithredwyr allan o’r cysgodion, ei guro, dwyn ei arian, a’i adael ar ochr y stryd, a rhedeg i ffwrdd.

    Ymhen ychydig, fe gerddodd un o athrawon ei goleg prifysgol heibio - dyn dysgedig iawn.  Ond yn lle stopio, fe benderfynodd nad oedd ganddo’r amser i helpu’r myfyriwr ac aeth yn ei flaen heibio iddo.  

    Rhyw ddwy funud yn ddiweddarach, daeth un arall o’i ‘ffrindiau’ heibio - ficer.  Fe welodd hwnnw’r myfyriwr, ond roedd ganddo gymaint o embaras, fe benderfynodd gerdded heibio.

    Bron iawn fel yr oedd y myfyriwr yn anobeithio na fyddai neb yn ei helpu, fe welodd rywun arall yn cerdded yr ochr arall i´r stryd.  Ceisiodd weld pwy oedd hwn, ond suddodd ei galon pan welodd mai Moi Milain oedd yno, newydd ei ryddhau o’r carchar.

    Yna, er mawr syndod i’r myfyriwr, cerddodd Moi ato gan ei helpu i godi ar ei draed.  Fe ddywedodd Moi wrtho, ‘Wel rwyt ti mewn tipyn o strach, ddywedwn i!  Tyrd adref efo fi ac fe wna’ i roi tipyn o drefn arnat ti.’

Amser i feddwl

Dangoswch y ddau lun. Dywedwch wrth y plant mai troseddwr yw un, ac mai un yn gweithio i elusen yw´r llall. Ydyn nhw´n gallu dweud wrth edrych ar y lluniau pa un yw pa un?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i weld pobl fel rwyt ti´n eu gweld. 
Nid yn ôl sut maen nhw´n edrych, neu yn ôl beth maen nhw´n ei wisgo,
Ond yn ôl yr hyn ydyn nhw o´r tu mewn.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon