Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dathlu Gwahaniaethau

Gwneud y plant yn ymwybodol o’r ffaith fod cael bod yn wahanol i´n gilydd yn rhywbeth i´w ddathlu.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Gwneud y plant yn ymwybodol o’r ffaith fod cael bod yn wahanol i´n gilydd yn rhywbeth i´w ddathlu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch i arddangos y grwpiau canlynol o eiriau ar y bwrdd gwyn:
    oren, afal, grawnwin, banana, mafon
    Citroen, Ford, Peugeot, Volkswagen, Vauxhall, Renault
    pensel, bwrdd gwyn, desg, geiriadur, brwsh paent, cyfrifiannell
    Llundain, Paris, Nairobi, Stockholm, Beijing, Washington
    meconopsis, nigella, alium, leucojum, adonis, echinopsis.
  • Casglwch ddelweddau cyfrifiadurol o´r blodau a enwir uchod (e.e. delweddau oddi ar Google).

  • Paratowch chwech o blant i gymryd rhan yn y gwasanaeth (gwelwch rhif 3).

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y grwpiau geiriau, un ar y tro.  Gofynnwch i’r plant paham y mae’r geiriau wedi cael eu gosod gyda’i gilydd?  Beth sydd yn gyffredin amdanyn nhw? Rhowch enghreifftiau wedi eu graddio fel bo’r plant lleiaf yn gallu ymuno gyda’r plant hyn i gynnig atebion.

  2. Dangoswch ddelweddau o’r blodau.  Maen nhw’n flodau eithaf anghyffredin, ond maen nhw i gyd yn tyfu yn ein gwlad ni (y D.U. ac Iwerddon).  Maen nhw’n rhai hardd i gyd gyda nifer o flodau ar bob coes. 

    * Blodyn tebyg i’r pabi glas yw’r meconopsis - un o’r ychydig flodau glas sydd o gwmpas.  Mae ganddo goes hir gyda nifer o flodau ar bob coes.

    Nigella: Beth sy’n gyffredin am y blodyn hwn?  Efallai ei fod yr un lliw ond dyna’r cyfan.  Mae’n tyfu fel llwyn, yn dda i’w dorri, gyda dail pluog a chodau hadau trawiadol.

    * Mae’r alium yn perthyn i deulu’r nionyn ac mae’n tyfu o fwlb.  Mae ganddo bennau blodau piws hardd ar ben coesyn hir.  A ydych chi wedi gweld nionod yn yr archfarchnad sydd mor ddeniadol â hwn?

    Leucojum: Fel yr alium, mae’r leucojum yn fwlb.  Mae’n cael ei alw’n bluen eira,  mae´n debyg i’r Lili Wen Fach ond bod y blodyn yn fwy crwn.  Mae pob un o’r chwe phetal yr un maint, yn wahanol i’r Lili Wen Fach sydd â’i dri phetal mewnol yn llai na’r tri phetal sydd ar y tu allan.

    * Mae gan yr adonis flodau melyn llachar hardd siâp bowlen.  Efallai y gallwch weld y blodyn hwn yn blodeuo’n gynnar yn y flwyddyn mewn gerddi creigiog.

    * Cactus, planhigyn ty gwydr, yw’r echinopsis.  Mae’n hoffi gwres a rhaid ei gadw’n hollol sych yn y gaeaf. Gall ei flodau fod yn wyn, melyn euraid, neu binc, ac mae arogl hyfryd arnyn nhw.  Mewn rhai mathau bydd y blodau yn agor gyda’r nos ac yn parhau am oddeutu dau ddiwrnod.  Os gwnewch chi gau’ch llygaid, fe allech chi ar amrantiad golli’r olygfa odidog tan y flwyddyn nesaf!

  3. Yn awr, gofynnwch beth sydd yn gyffredin yn y grwp canlynol.  Rhowch enwau chwech o blant sydd yn yr ysgol, sy’n wahanol o ran maint, oed, rhyw, ethnigedd, gallu, etc.  Gofynnwch i’r plant hyn ddod allan i sefyll o flaen y gynulleidfa. 

    Eglurwch mai’r hyn sy’n gyffredin rhyngddyn nhw, fel grwp, yw’r ffaith eu bod i gyd yn blant sy’n perthyn i´r ysgol ac sy’n cael croeso yn yr ysgol.  Dyma deulu ein hysgol, ac rydym ni i gyd yn rhan ohono.

  4. Mae Cristnogion yn credu bod ein creawdwr, sef  Duw, yn hoffi amrywiaeth.  Fe wnaeth filoedd o wahanol rywogaethau o flodau ac oddi mewn i bob rhywogaeth o flodau fe wnaeth filoedd o amrywiol rai.  Fe gymerodd lawer mwy o ofal wrth ein gwneud ni, fel ein bod ni i gyd yn wahanol.  Dydy efeilliaid hyd yn oed ddim yn union yr un fath!  Dyna ryfeddol ynte!

  5. Fe fyddai’n ddiflas iawn pe byddai gennym 100 o ddisgyblion yn yr ysgol a phob un yn union yr un fath â … er enghraifft …(enwch un o ddisgyblion sydd yn y pen blaen), neu pe byddai’r athrawon i gyd yr un fath â fi! 

    Fe fyddai’n debyg wedyn i ardd fawr, wedi ei llenwi ag un math o flodyn yn unig.  Yr hyn sydd yn wahanol ynom ni, y ffordd yr ydym yn edrych, ein gallu, ein cefndir, ein talentau a’n doniau, ein potensial ar gyfer y dyfodol, yw’r pethau sydd yn gwneud ein hysgol yn lle mor fendigedig i ddod iddi bob dydd.  Gadewch i ni fwynhau cwmni’n gilydd heddiw!

Amser i feddwl

Dychmygwch wely blodau mewn gardd. Yn y gwely blodau hwnnw, mae´r holl flodau rydyn ni wedi eu henwi heddiw yn tyfu. Dyna hardd fyddai´r gwely blodau hwnnw!

Nawr, meddyliwch am eich dosbarth a´i holl wahanol aelodau. Y cyfuniad o blant, a phob un yn wahanol, sy’n ei wneud yn lle mor gyfoethog.


Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni´n diolch i ti am harddwch dy greadigaeth,
am yr holl flodau tlws rydym heb eu gweld eto.
Diolch i ti am ein hysgol,
ac am yr holl wahanol bobl sy´n aelodau o deulu´r ysgol.
Diolch fod gennym gymaint i´w ddysgu eto am ein gilydd.
Bendithia ni wrth i ni ddechrau blwyddyn ysgol newydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon