Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Seren Fechan Yn Y Nen

Darparu cyflwyniad syml yn adrodd stori’r Nadolig.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Darparu cyflwyniad syml yn adrodd stori’r Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Penderfynwch pa un yw’r ffordd orau i ddefnyddio’r deunydd ar gyfer cyflwyniad dosbarth.
  • Gallai gwisgoedd syml ychwanegu at y diddordeb. Mae lleoliad y rhai sy’n cymryd rhan yn bwysig hefyd. Yn achos plant ifanc iawn, fe fyddai’n well iddyn nhw ganu mewn grwpiau bach na disgwyl i unigolion ganu gyda lleisiau bach tawel fyddai’n anodd eu clywed. Dylai’r plant gael eu gosod ar flaen y llwyfan.

  • Fe fyddai’n bosib i athro neu blant hyn wneud y gwaith llefaru.

  • Wrth ganu pob pennill, gall y cymeriadau y cyfeirir atyn nhw ddod ymlaen i’r llwyfan, ac o dipyn i beth fe fydd golygfa Gwyl y Geni yn dod ynghyd.

  • Mae’r geiriau i’w canu ar yr alaw ‘Twinkle, twinkle, little star’.

Gwasanaeth

  1. Daw grwp o blant wedi’u gwisgo fel sêr ymlaen i’r llwyfan gan ddawnsio i gerddoriaeth yr hwiangerdd ‘Twinkle, twinkle’. Wedi i’r ddawns ddod i ben, fe all y plant ffurfio grwp i eistedd ar ochr chwith y llwyfan. A bydd un o’r sêr yn aros ar ei thraed gan sefyll uwch ben y gweddill.

  2. Roedd y seren fach wedi bod yn disgleirio yn yr awyr am ddwy fil o flynyddoedd, ac roedd hi wedi gweld llawer o bethau rhyfeddol. Dyma’r stori:

    Grwp 1
    Seren fechan yn y nen, 
    yn gwenu’n ddisglair, uwch fy mhen.
    Gwenu’n ddisglair uwch y byd, 
    Gwenu’n ddisglair wnei o hyd,
    Seren fechan yn y nen, 
    yn gwenu’n ddisglair, uwch fy mhen.

    Grwp 2 
    Seren fechan yn y nen, 
    yn gwenu’n ddisglair, uwch fy mhen.
    Dywed wrthym y stori dlos.
    Beth ddigwyddodd ymhell yn ôl?
    Seren fechan yn y nen, 
    yn gwenu’n ddisglair, uwch fy mhen.

    Grwp 3
    Mewn stabl dlawd ganwyd baban Mair, 
    a chysgai’n dawel ar y gwair.
    Angylion ddaeth i’w weled ef, 
    y baban bach a ddaeth o’r nef.
    Mewn stabl dlawd ganwyd baban Mair, 
    a chysgai’n dawel ar y gwair.

    Grwp 4
    Seren fechan, fe wnest dy ran, 
    i arwain pobl at y fan.
    Fe ddisgleiriaist yn y nos, 
    golau disglair, seren dlos.
    Seren fechan, fe wnest dy ran, 
    i arwain pobl at y fan.

    Grwp 5
    Daeth angylion at fugeiliaid lu 
    i ddweud am eni’n baban cu.
    Roedden nhw’n gwylio’r defaid a’r wyn, 
    yng ngoleuni’r seren fwyn.
    Daeth angylion at fugeiliaid lu 
    i ddweud am eni’n baban cu..

    Grwp 6
    Daeth doethion yno, oddi draw, 
    ac anrhegion ym mhob llaw.
    Wedi dilyn dy olau clir, 
    am filltiroedd dros y tir.
    Daeth doethion yno, oddi draw, 
    ac anrhegion ym mhob llaw.

    Grwp 7
    Seren fechan yn y nen, 
    yn gwenu’n ddisglair, uwch fy mhen.
    Gwenu’n ddisglair uwch y byd, 
    Gwenu’n ddisglair wnei o hyd,
    Seren fechan yn y nen, 
    fe wyddom nawr beth wnei uwch ben.

Amser i feddwl

Os bydd hynny’n briodol, fe allech chi oleuo cannwyll, a gofyn i’r plant ganolbwyntio ar y fflam wrth iddyn nhw feddwl eto am y stori y maen nhw newydd ei hadrodd.

Rydyn ni wedi adrodd stori’r seren fach a stori’r Nadolig cyntaf.
Pan fyddwch chi’n edrych i fyny i’r awyr ac yn gweld seren ddisglair, gobeithio y byddwch chi’n cofio am y stori ac am ystyr arbennig y Nadolig. Nadolig Llawen i bawb!

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon