Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Agweddau ar Malawi 5

Rhoi cipolwg i’r plant ar sut mae pobl yn gweithio yng ngwlad Malawi.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Rhoi cipolwg i’r plant ar sut mae pobl yn gweithio yng ngwlad Malawi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch bedwar plentyn i ddarllen.
  • Fe fydd arnoch chi angen bag o siwgr masnach deg o’r arch farchnad sy’n gwerthu cynnyrch masnach deg yn eich ardal leol (gwelwch yn dilyn, rhif 4).
  • Fe fydd arnoch chi angen hefyd rai enghreifftiau o eitemau crefft gwaith llaw o Affrica, os yn bosib (gwelwch yn dilyn, rhif 5).
  • Mae delweddau ar gael i’w llwytho i lawr, oddi ar y we, sy’n cyd-fynd â´r gwasanaeth yma.

Gwasanaeth

  1. Yn union fel yn y wlad hon, mae llawer o wahanol swyddi i’w cael ym Malawi. Mae pobl yn gweithio mewn ffatrïoedd, ysbytai a swyddfeydd.  Mae pobl yn adeiladu ffyrdd, casglu sbwriel a gyrru bysiau.  Dyma bedwar math o swyddi y mae llawer o bobl yn eu gwneud ym Malawi.

  2. Darllenydd 1:  Fy enw i yw David ac rwy’n bysgotwr ar Lyn Malawi. Byddwn yn pysgota gydol y nos ac yn cysgu drwy’r dydd. Gyda’r hwyr, byddaf yn rhoi fy nghanw ar gwch modur Samuel a bydd ef yn fy nghludo i a’r pysgotwyr eraill allan i’r lle y mae’r pysgod i’w cael.
    Malawi - fishing

    Malawi - pysgota

    Dangos llun maint llawn >>

     

    Byddaf  yn gollwng fy nghanw i lawr i’r dwr a disgwyl i’r pysgod gael eu denu at y goleuni sydd ar un pen o’r canw.

    Byddaf yn gwagio fy rhwyd i waelod y canw.

    Pan fyddaf yn dychwelyd i’r lan ar godiad yr haul, byddaf yn gwagio’r pysgod o waelod y cwch a’u gosod ar fyrddau i’w sychu yn yr haul.
    Malawi - fishing - drying the catch

    Malawi - sychu pysgod yn yr haul

    Dangos llun maint llawn >>

     

    Mae’n waith caled a phrin y byddaf yn gweld fy nheulu.

  3. Darllenydd 2:  Fy enw i yw Hansen ac rydw i’n ffarmwr. Rwy’n tyfu India corn, er mwyn bwydo fy nheulu ac i’w werthu yn y farchnad. 

    Rydw i’n gorfod gweithio’n galed bob dydd, hyd yn oed pan fyddaf yn sâl, neu bydd y cnwd yn difetha a bydd fy nheulu yn llwgu.

    Mae’n anodd cael digon o ddwr yn ystod y tymor sych i ddyfrio’r planhigion a galluogi’r India corn i dyfu.

    Cafodd cnwd fy nghymydog ei niweidio wythnos yn ôl pan sathrodd eliffant ar lawer o’r planhigion. Nid wyf yn gwybod beth fyddwn i’n ei wneud pe byddai hynny’n digwydd i mi. 

  4. Darllenydd 3:  Fy enw i yw Leiciais ac rydw i’n gweithio mewn planhigfa siwgr. Enw’r cwmni yw Sacem, sydd yn golygu Sugar Corporation of Malawi.

    Mae’r siwgr y byddwn ni yn ei dyfu yn cael ei werthu am bris masnach deg i’ch siop (archfarchnad leol) yn y Deyrnas Unedig. (Dangos y bag siwgr).

    Mae hynny’n golygu fy mod i’n cael cyflog teg am y gwaith yr wyf yn ei wneud ac felly rydw i’n gallu fforddio anfon fy mhlant i ysgol. 

  5. Darllenydd 4:  Fy enw i yw Benty ac rydw i’n grefftwr. Rydw i’n cael hyd i weiren ac yn prynu gleiniau i wneud torchau allwedd a mwclis ar gyfer twristiaid. (Dangoswch enghreifftiau os yn bosib.)

    Mae’n cymryd dipyn o amser i wneud pob eitem. Pan fyddaf wedi gwneud digon, byddaf yn mynd â nhw i’r farchnad dwristiaid a’u gosod nhw’n ofalus ar ddarn o frethyn.

    Bydd llawer o grefftwyr eraill yn gwneud nwyddau hardd i’w gwerthu hefyd, felly rydw i’n gorfod perswadio’r twristiaid i brynu'r rhai yr ydw i wedi eu gwneud.  Dim ond felly y gallaf gael bwyd a dillad ar gyfer fy nheulu.

  6. Diolch o galon i’n pedwar gweithiwr o Malawi. Tybed pa un o’r swyddi yna y byddech chi’n ei hoffi ei wneud fwyaf?

    Pwy fyddai’n hoffi bod yn bysgotwr?
    Pwy fyddai’n hoffi bod yn ffarmwr?
    Pwy fyddai’n hoffi gweithio mewn planhigfa siwgr?
    Pwy fyddai’n hoffi gwneud eitemau o grefftwaith i’w gwerthu i dwristiaid?

Amser i feddwl

Cymerwch amser i ddychmygu sut brofiad fyddai gweithio ym Malawi.

Mae’n anodd iawn ennill digon o gyflog i fyw arno ym Malawi.

Gadewch i ni fod yn ddiolchgar am y swyddi y mae ein ffrindiau ac aelodau ein teulu yn eu gwneud.

Wrth i ni feddwl am wlad Malawi, gadewch i ni agor ein meddyliau i ddysgu am y ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.

Gadewch i ni agor ein calonnau i werthfawrogi’r cyfan sydd gennym.

Gadewch i ni agor ein dychymyg i sicrhau bod gobeithion pobl Malawi yn cael eu gwireddu.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon