Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Grym Geiriau

Dangos sut mae rhai geiriau’n gallu achosi pryder i eraill weithiau, yn ogystal â bod geiriau eraill dro arall yn gallu bod yn eiriau o anogaeth.

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos sut mae rhai geiriau’n gallu achosi pryder i eraill weithiau, yn ogystal â bod geiriau eraill dro arall  yn gallu bod yn eiriau o anogaeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dwy dudalen o bapur gyda brawddegau doniol wedi’u hysgrifennu arnyn nhw (ar gyfer chwarae gêm Sibrwd Stori).
  • Fe fydd arnoch chi angen hefyd un glustog blu, bocs matsis, ac ychydig o halen.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i chwech o blant sefyll mewn rhes yn y blaen yn wynebu’r gynulleidfa.  Heb  ddatgelu'r frawddeg iddyn nhw, dangoswch i weddill y plant sydd yn y gynulleidfa un o’ch brawddegau doniol, gan eu siarsio i beidio â’i dweud yn uchel.

    Yn awr, sibrydwch y frawddeg yng nghlust y plentyn cyntaf yn y rhes a gofynnwch i hwnnw neu honno basio’r frawddeg ymlaen o’r naill i’r llall yn y dull ‘Sibrwd Stori’ (Chinese Whispers). Os yw’r plentyn olaf yn y  rhes wedi cael y frawddeg yn gywir, rhowch gymeradwyaeth iddyn nhw.  Gwnewch yr un peth eto gyda brawddeg arall gan ddefnyddio’r un grwp, neu grwp gwahanol. 

  2. Gofynnwch i’r plant beth yw clebran neu fân siarad? Mynnwch atebion gan y plant. Dywedwch fod yr hyn sy’n cael ei ddweud, a’i gredu, am bethau a phobl yn gallu newid yn gyflym oherwydd bod clebran yn lledaenu mor hawdd. Weithiau mae pobl yn gallu dweud pethau amdanom ni.  Mae pawb ohonom yn gallu cofio rhyw achlysur pan gawsom ein brifo gyda’r geiriau a ddwedodd pobl eraill.

  3. Adroddwch y stori hon tra’r rydych yn dal y glustog i fyny.

    Roedd yna ddyn oedd bob amser yn lledaenu storïau dychrynllyd am yr offeiriad lleol o gwmpas y dref. Ond, un diwrnod, fe sylweddolodd y drwg yr oedd wedi ei wneud i’r offeiriad ac aeth ato i geisio maddeuant ganddo. Gofynnodd i’r offeiriad a oedd yna unrhyw beth y gallai ei wneud er mwyn gwneud pethau’n well.

    Rhoddodd yr offeiriad gyfarwyddyd iddo fynd i sgwâr y dref gyda chlustog llawn plu, ei agor a gwasgaru’r plu. Gwnaeth yr offeiriad fel y cafodd ei gyfarwyddo a chafodd y plu eu chwythu i bob cornel, pob cwter, a ffenestr a drws.

    Aeth yn ei ôl at yr offeiriad a dweud wrtho ei fod wedi dilyn y cyfarwyddyd a gafodd ac wedi gwasgaru’r plu i bob man. Yna dywedodd yr offeiriad wrtho, ‘Dos yn ôl yn awr a chasgla’r plu i gyd, oherwydd mae dy glebran di wedi lledaenu cyn belled â’r plu rheini.’ 

  4. Dywedwch fod gan eiriau rym nerthol. Unwaith y byddwn yn dweud rhywbeth am rywun arall, mae’n anodd iawn eu cymryd yn ôl. 

  5. Cyneuwch fatsien. Mae’r Beibl yn dweud wrthym fod y tafod fel matsien. Efallai bod y fflam yn fach, ond beth pe byddwn i’n rhoi’r fflam honno i gydio mewn pentwr o bapur neu goed?  Buan iawn y byddai’n llosgi’n wyllt ac yn mynd allan o reolaeth efallai.

  6. Gall geiriau dynnu i lawr, ond fe allan nhw hefyd adeiladu.   Beth yw rhai o’r pethau da sydd wedi cael eu dweud gan bobl wrthych chi?  Sut roeddech chi’n teimlo?

  7. Dangoswch yr halen.  Mae’r Beibl yn dweud bod ein geiriau yn gallu bod fel halen. Bydd ychydig bach o halen yn rhoi gwell  blas ar fwyd - mae’n fodd i gyfoethogi’r blas, ond cofiwch beidio â rhoi gormod ohono ychwaith. 

Amser i feddwl

Rhowch ychydig funudau i’r plant feddwl mewn tawelwch am un peth calonogol y gallan nhw gynnig i rywun heddiw, fel anogaeth,. 

Gweddi
Arglwydd Iesu,
Gad i fy ngeiriau fod yn galonogol ac yn fodd i adeiladu pobl heddiw.
Gad i fy ngeiriau ddangos bod y bobl y byddaf yn eu cyfarfod yn arbennig.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon