Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gyda Balchder Yn Ein Calon

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu Gemau Olympaidd y Gaeaf a dathlu’r teimlad o falchder wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhai lluniau o gemau gaeaf, er enghraifft, fel sydd i’w cael ar y wefan www.vancouver2010.com (yn ôl yr hawlfraint). Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth gyfredol ynghylch Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010.
  • (Dewisol) Capiau sgïo maint plentyn a sbectolau eira, mat bach gwrthslip a nifer o ‘fedalau’.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy gyfeirio at Gemau Olympaidd y Gaeaf, fydd yn cael eu cynnal yn Vancouver, Canada, o 12 hyd at 28 Chwefror. Fe gynhelir Gemau Olympaidd y Gaeaf bob pedair blynedd, a bydd mabolgampwyr o wahanol wledydd yn teithio i gymryd rhan yn y cystadlu.  Eglurwch eu bod yn cael eu galw’n Gemau Olympaidd y Gaeaf oherwydd bod y gemau fydd yn digwydd yn rhai fydd yn cymryd lle mewn tywydd oer, ar eira a rhew!

  2. Gwahoddwch y disgyblion i rannu eu gwybodaeth am ddigwyddiadau’r mabolgampau.  Fe fyddan nhw’n cynnwys sgïo (dull alpaidd, traws-gwlad a’r dull rhydd), sglefrio (cyflym, ffigwr, a sglefrio iâ), sledio (bobsleigh, luge a skeleton) ac eira-fyrddio. Dwy gystadleuaeth eraill i dimau ar yr iâ fydd hoci iâ a chyrlio. 

  3. Edrychwch ar rai delweddau sydd i’w gweld ar wefan Gemau Olympaidd y Gaeaf.  Sylwch fod y cystadleuwyr yn gwisgo dillad lliwgar llachar, a llawer ohonyn nhw’n gwisgo gogls a helmedau. Pam? Cyfeiriwch at faterion diogelwch a phwysigrwydd cadw’n gynnes.

  4. (Dewisol) Cyfeiriwch at gystadleuaeth sgïo o’r enw ‘slalom.’ Mae ‘slalom’ yn ras sgïo i lawr cwrs igam-ogam.  Bydd y sgiwyr yn cymryd eu tro i rasio trwy lawer o ystumiau a throadau sydd wedi eu nodi gan bolion, neu gatiau. Caiff amser pob sgïwr ei gofnodi’n ofalus.  Bydd y cyflymaf yn ennill y fedal aur! Eglurwch mai rhan o eiliad sydd weithiau yn gwahanu’r enillwyr, a bod y camgymeriad lleiaf yn gallu achosi i’r cystadleuydd gael cwymp difrifol.  Mae gallu adweithio’n gyflym ac ymarfer am oriau hir yn hanfodol!

  5. (Dewisol) Mwynhewch yr hwyl o sgïo slalom llonydd.  Gwahoddwch wirfoddolwr i wisgo’r cap sgïo a’r gogls.  Gan sefyll ar fat gwrthslip rhaid iddo ef neu hi adweithio i’r cyfarwyddiadau i sgïo - ymlaen, i’r chwith neu’r dde - trwy wneud y symudiadau priodol (dangoswch chi sut i wneud hyn!)

    Dylid rhoi’r un cyfarwyddiadau i sawl gwirfoddolwr.  Er enghraifft: ymlaen - ymlaen - chwith - dde - chwith - chwith - ymlaen - dde - chwith - dde - chwith - dde - ymlaen - chwith - dde - dde - chwith - ymlaen - ymlaen - ymlaen!  

    Yr enillydd fydd yr un a fydd wedi gallu ‘symud’ gyflymaf a llyfnaf - gallwch hyd yn oed roi’r cloc i fynd.  Gallwch roi gwobrau hefyd, os hoffech chi, am arddull ac ymdrech.  Trefnwch eich seremoni rhoi medalau eich hun.

  6. Yn y fan hon byddai’n addas i ddweud tra bod Gemau Olympaidd y Gaeaf yn ysbrydoledig, NI DDYLAI’R plant byth fentro ar byllau dwr sydd wedi rhewi na sledio i lawr llethrau peryglus.

  7. Arwyddair Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yw ‘Â Chalonnau sy’n Llawn Balchder’ (With Glowing Hearts). Beth allai hynny olygu? Mae’r arwyddair yn gwahodd pawb sy’n cymryd rhan i dywynnu â balchder. Bydd yr athletwyr yn naturiol yn cymryd balchder yn eu perfformiad.

    Fodd bynnag, nid yw pawb yn athletwr. Mae balchder yn codi o wahanol fathau o  lwyddiannau. Bydd swyddogion a chynorthwywyr gwirfoddol hefyd yn falch o’u cyfraniad. Heb eu gwaith cynllunio caled nhw ni fyddai’n bosib cael y Gemau.  Bydd Canada hefyd yn teimlo balchder cenedlaethol wrth i’r byd edrych ar y Gemau yn Vancouver ac ar y teledu ledled y byd. Dywedodd un o’r trefnwyr hyn: ‘Mae yna bencampwr yn bodoli ym mhob un ohonom ac mae’r arwyddair yn gwahodd pawb i gamu i fyny i’w podiwm a gwneud eu gorau glas.’

    Gwahoddwch bawb i gymryd balchder yn eu llwyddiannau personol neu yn y cymorth y maen nhw wedi’i roi yn yr ysgol neu i ryw fudiad arall.

  8. Gorffennwch y gwasanaeth trwy gyflwyno unrhyw wobrwyon neu dystysgrifau sydd wedi cael eu hennill gan aelodau o’r ysgol. Arsylwch fod y rhai sy’n cyflwyno’r gwobrwyon a’r rhai sy’n eu derbyn yn gwneud hynny â ‘chalonnau sy’n llawn balchder’.

Amser i feddwl

Cyflwynwch y geiriau ymatebol hyn o fawl, sy’n dilyn, ac sy’n codi o galonnau balch. Ystyr ‘tra-dyrchafu’ yw ‘canmol yn fawr’ neu yn fwy cyffredinol, ‘bod yn falch o rywbeth’. Efallai y gallech chi ddefnyddio lluniau neu ddelweddau er mwyn helpu i ysgogi’r myfyrdod.

Bendithiwch yr Arglwydd, holl weithredoedd yr Arglwydd:

Molwch ef, a’i dra-dyrchafu dros byth.

Bendithiwch yr Arglwydd, chwi fynyddoedd a bryniau:

Molwch ef, a’i dra-dyrchafu dros byth.

Bendithiwch yr Arglwydd, chwi lwydrew ac oerni:

Molwch ef, a’i dra-dyrchafu dros byth.

Bendithiwch yr Arglwydd, chwi rew ac eira:
Molwch ef, a’i dra-dyrchafu dros byth.

Bendithiwch yr Arglwydd, holl bobl y ddaear:

Molwch ef, a’i dra-dyrchafu dros byth.

Rhannau wedi eu codi allan o Gân Creadigaeth: Benedicte, ac wedi eu haddasu. (Addaswyd yn wreiddiol o ‘A Song of Creation’, Alternative Service Book 1980)

Gwahoddwch y plant i ddiolch am yr eira a’r rhew sy’n peri teimlad o gyffro a chynnwrf hapus ynom – ac am y balchder sydd i’w gael mewn gwaith a chwaraeon sy’n gwneud i ni deimlo’n falch yn ein calon.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon