Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bwyta 'Fish Fingers' I Ddathlu'r Pasg!

Helpu’r plant i feddwl am ystyr y Pasg a meddwl am stori sy’n gysylltiedig â’r Pasg nad ydyn nhw wedi ei chlywed o’r blaen, efallai.

gan The Revd Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i feddwl am ystyr y Pasg a meddwl am stori sy’n gysylltiedig â’r Pasg nad ydyn nhw wedi ei chlywed o’r blaen, efallai.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth yma’n addas ar gyfer y cyfnod cyn y Pasg, pan fydd arnoch chi angen gwasanaeth sy’n trafod dydd Gwener y Groglith a Sul y Pasg.
  • Fe fydd arnoch chi angen nifer o Fyns y Grog (hot cross buns), wy Pasg mawr, a bocs fish fingers gwag.
  • Darlleniad o’r Beibl: Ioan 21.1–14. Gallwch baratoi un o’r plant i ddarllen hwn.
  • Cannwyll ar gyfer yr Amser i Feddwl.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod yn mynd i sôn heddiw am fwydydd sy’n gysylltiedig â’r Pasg. Cyn i chi ddangos yr eitemau sydd gennych chi, rhowch gyfle i’r plant ddyfalu pa fwydydd y byddwch chi’n sôn amdanyn nhw.

  2. Dangoswch y byns (hot cross buns). Eglurwch fod yr arferiad o fwyta byns fel y rhain yn bodoli ers canrifoedd. Roedd yn arferiad poblogaidd iawn ar wyliau crefyddol fel y Nadolig a’r Pasg. Mae’r groes sy’n cael eu rhoi ar y byns yn ein hatgoffa o farwolaeth Iesu ar y groes. Felly fe ddaeth yn arferiad i gysylltu’r rhain ag adeg y Pasg yn bennaf, a’u bwyta ar Ddydd Gwener y Groglith.

  3. Dewch a’r wy Pasg mawr i’r golwg. Siaradwch am y pleser o fwyta siocled, yn enwedig yr wyau siocled hyfryd a gawn ni adeg y Pasg. Eglurwch fod wyau’n cael eu hystyried yn bethau moethus i’w bwyta ers talwm, ac efallai y byddai rhai pobl wedi rhoi’r gorau i’w bwyta trwy gydol y Garawys. (Atgoffwch y plant, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn trafod hyn yn ystod y Garawys, am y ffaith y byddai pobl ar Ddydd Mawrth Ynyd yn arfer defnyddio'r wyau oedd ganddyn nhw yn y ty i wneud crempogau.) Mae wyau hefyd yn ein hatgoffa am fywyd newydd, ac am y gwanwyn. Fe fydd rhai pobl yn dweud hefyd bod yr wy siocled gwag yn debyg i fedd gwag Iesu.

  4. A beth tybed yw’r drydedd eitem sydd gennych chi sy’n fwyd y gallech chi ei gysylltu â’r Pasg? Dangoswch y bocs… fish fingers! Beth … fish fingers? Dyna ddewis rhyfedd! Dydyn ni ddim fel arfer yn cysylltu fish fingers â’r pethau y byddwn ni’n eu bwyta ar adeg y Pasg?

    Na, ond rydyn ni’n clywed llawer o sôn am bysgod yn y storïau gan Iesu. Ac mae un stori sydd â sôn am bysgod ynddi yn adrodd hanes am rywbeth a ddigwyddodd wedi i Iesu ddod yn ôl o farw’n fyw.

  5. Darllenwch neu aralleiriwch yr adnodau o Efengyl Ioan 21.1-14. Fe ymddangosodd Iesu i’w ddisgyblion, ac fe wnaeth goginio pysgod iddyn nhw i frecwast ar fath o farbeciw allan yn yr awyr agored. Hwn oedd y trydydd tro iddo ymddangos i’w ffrindiau ar ôl iddo farw. Roedden nhw’n llawn cyffro am eu bod yn gweld Iesu’n fyw unwaith eto.

  6. Diweddwch y gwasanaeth trwy siarad am sut y gwaeth Iesu farw ar adeg y Pasg, ond fe ddaeth yn fyw yn ei ôl wedyn. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu gyda ni o hyd, fel ffrind i ni, er na fedrwn ei weld.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll, a gadewch i’r plant edrych ar y gwahanol eitemau sydd gennych chi o bethau i’w bwyta.

Gweddi

Annwyl Dduw, rydyn ni’n diolch i ti am Iesu
Ac yn diolch ei fod y ffrind i ni.
Helpa ni i gofio amdano
pan fyddwn ni’n bwyta byns y Grog, ac yn bwyta wyau Pasg …
a hyd yn oed pan fyddwn ni’n bwyta fish fingers!

Cân/cerddoriaeth

Awgrymir cyflwyno’r emyn ‘Arglwydd y Ddawns’. Cofiwch gynnwys y pennill am y pysgotwyr.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon