Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rwyt Ti'n Fy Ngweld I Yn Y Tywyllwch

Dangos i’r plant nad yw Duw byth yn eu gadael o’i olwg.

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos i’r plant nad yw Duw byth yn eu gadael o’i olwg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Byddwch angen clip byr o unrhyw ffilm boblogaidd i blant, a chwestiynau wedi eu paratoi o flaen llaw yn seiliedig ar y darn ffilm.  Gwobrau bach (dewisol).
  • Cyfeiriad yn y Beibl: Luc 19.1–10.
  • Cannwyll ar gyfer yr amser i feddwl.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch glip byr o ffilm boblogaidd i blant. Holwch gwestiynau i brofi pa mor dda y gwnaeth y plant arsylwi. Fe allech chi roi gwobrwyon bach, os ydych yn dymuno, i’r sawl sy’n rhoi atebion cywir i chi.

  2. Gofynnwch i’r plant pa fath o bobl y mae’n ofynnol iddyn nhw fod os ydyn nhw eisiau bod yn rhai da am sylwi ar bethau? Pwy sy’n gorfod bod yn graff wrth eu gwaith? Er enghraifft, aelodau o’r heddlu (ditectif), newyddiadurwyr, arlunwyr.

  3. Pam ei bod hi’n bwysig sylwi ar bobl? Pa fath o deimlad yw cael eich anwybyddu?

    Adroddwch yn eich geiriau eich hun, stori Sacheus o bennod 19 yn Efengyl Luc. Pwysleisiwch y prif bwynt yn y stori, sef bod Iesu wedi sylwi ar Sacheus pan oedd neb arall wedi gwneud hynny. Roedd hynny wedi gwneud i Sacheus deimlo’n bwysig. 

  4. Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid. Mae’r Beibl yn dweud: ‘Nid yw tywyllwch yn dywyllwch i ti.  Rwyt yn fy ngweld hyd yn oed yn y dirgel’ (aralleiriad o ran o Salm 139). Pan ydyn ni’n teimlo’n unig, mae Duw yn sylwi arnom ni.  Pan fyddwn ni’n flinedig, mae Duw yn sylwi arnom ni.  Pan fyddwn ni’n credu ein bod yn anweledig, mae Duw yn sylwi arnom ni. Nid yw byth yn peidio â sylwi arnom ni.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll a darllenwch yr adnodau o’r Beibl unwaith eto.  Rhowch amser i’r plant fyfyrio eu hunain, a meddwl am ystyr y geiriau.

Gweddi

Arglwydd, diolch dy fod ti yn sylwi arnaf bob amser.
Rho i mi lygaid i weld y bobl hynny sy’n teimlo’n unig, a helpa fi i sylwi arnyn nhw. 

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon