Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byw Bywyd Iach

Dysgu plant am y dewis sydd i’w gael o fwydydd iach, a’u hannog i wneud y dewisiadau gorau pan fyddan nhw’n dewis beth maen nhw’n ei fwyta.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dysgu plant am y dewis sydd i’w gael o fwydydd iach, a’u hannog i wneud y dewisiadau gorau pan fyddan nhw’n dewis beth maen nhw’n ei fwyta.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae angen cofio bod yn sensitif wrth ddefnyddio’r gwasanaeth neilltuol yma.
  • Lluniwch collage neu gyflwyniad PowerPoint o ddelweddau sy’n dangos pobl sy’n ordew – oedolion, plant a babanod – a defnyddiwch wybodaeth ac ystadegau ynghylch gordewdra ym Mhrydain ac yn Unol Daleithiau America.
  • Paratowch enghreifftiau o ‘fwydydd iach’ i’r plant gael eu profi.
  • Casglwch luniau neu glipiau fideo o bobl sy’n gaeth i’w gwely oherwydd problemau gyda’u gordewdra. (Er enghraifft, ar YouTube, ond byddwch yn ofalus rhag defnyddio clipiau sydd â hawlfraint arnyn nhw.)
  • Cannwyll ar gyfer yr Amser i feddwl.

Gwasanaeth

  1. Defnyddiwch rai lluniau a delweddau i ysgogi’r plant i feddwl am ordewdra, a thrafodwch sut mae pobl yn mynd yn ordew, a pham y mae pobl yn mynd yn ordew - gall y rheswm fod yn ymwneud â metaboledd neu resymau gwyddonol eraill (diabetes, meddyginiaeth, ac ati).

  2. Cyflwynwch y syniad o bolisi’r llywodraeth ar gyfer ‘ysgolion iach’. Beth yw barn y plant am bolisi o’r fath?

  3. Holwch y plant beth yw eu hoff fwyd. Gofynnwch i nifer o wirfoddolwyr ddod atoch chi i’r tu blaen i brofi'r enghreifftiau sydd gennych chi o ‘fwydydd iach’. Fe allech chi ddefnyddio system sgorio pwyntiau (e.e. 1 pwynt am flasu’r bwyd a’i boeri allan, 2 bwynt am brofi’r bwyd a’i fwyta, a 3 pwynt am wneud hynny gyda mwgwd dros y llygaid.)

  4. Sgwrsiwch gyda’r plant am sut y gwnaeth yr eglwys yn y blynyddoedd cynnar ddyfeisio’r syniad o saith pechod marwol, sef saith peth y dylai’r bobl geisio eu hosgoi. Un o’r pethau rheini oedd glythineb (gluttony). Beth mae’r plant yn ei feddwl ydi hynny?

  5. Nawr sgwrsiwch am y ffaith bod pobl yn cynyddu yn eu pwysau os yw’r bwyd y maen nhw’n ei fwyta yn rhoi mwy o egni iddyn nhw nag y maen nhw’n ei ddefnyddio. Fe allech chi berthnasu hyn i’r ffordd mae injan car yn gweithio. Fe fyddwn ni’n rhoi tanwydd yn y car, ond does dim rhaid ail lenwi’r tanc nes bydd y car wedi symud tipyn ac wedi teithio nifer o filltiroedd.

    Fe ddylem ni ofalu mai dim ond yr hyn o fwyd sydd arnom ni ei angen y byddwn ni’n ei fwyta, a gofalu bod y bwyd hwnnw’n fwyd iach, a’n bod hefyd yn ymarfer yn gyson.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll, a dangoswch y montage neu’r collage o bobl ordew unwaith eto.

Yn awr, gofynnwch i’r plant feddwl am sut y maen nhw’n gallu cadw cydbwysedd rhwng yr egni y maen nhw’n ei gymryd i mewn a’r egni maen nhw’n ei ddefnyddio.

Gweddi

Helpa ni i wneud penderfyniadau cywir am yr hyn rydyn ni’n ei fwyta ac am sut rydyn ni’n ymarfer.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon