Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cymdogion Da

Ystyried bod y modd rydyn ni’n trin ein cymdogion, a sut rydyn ni’n cael ein trin ganddyn nhw, yn gallu cael effaith arwyddocaol ar ba mor hapus ydyn ni yn ein cartref.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried bod y modd rydyn ni’n trin ein cymdogion, a sut rydyn ni’n cael ein trin ganddyn nhw, yn gallu cael effaith arwyddocaol ar ba mor hapus ydyn ni yn ein cartref.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi 12 o blant i gymryd rhan mewn 6 golygfa fer.
  • Fe fydd arnoch chi angen 6 o fedalau neu dystysgrifau, ac fe allech chi ddefnyddio props priodol eraill hefyd os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

Gwasanaeth

  1. Yn ystod yr amser yma gyda’n gilydd yn y gwasanaeth heddiw, rydyn ni’n mynd i feddwl am ein cymdogion. Cymdogion yw’r bobl sy’n byw yn y tai sydd agosaf atom ni. Efallai bod rhai ohonoch chi’n adnabod eich cymdogion yn dda. Ond efallai bod rhai eraill ohonoch chi sydd ddim hyd yn oed yn gwybod enwau eich cymdogion. Efallai ein bod yn tybio nad yw ein cymdogion yn bwysig iawn i ni, ond meddyliwch am y rhaglenni y bydd aelodau o’n teuluoedd ni yn eu gwylio ar y teledu. Mae llawer o’r rhaglenni yn ymwneud â chymdogion, fel:

    pobl Ramsay Street yn Neighbours
    pobl Coronation Street yn Coronation Street
    pobl Albert Square yn EastEnders.

  2. Meddyliwch am rai o’ch cymdogion chi nawr. Beth yw eu henwau? Sut rai ydyn nhw o ran eu golwg? Sut fath o bobl ydyn nhw? Beth maen nhw’n ei wneud?

    Gofynnwch i’r plant droi at yr un sydd agosaf atyn nhw a disgrifio’u cymdogion. (Rhowch ychydig o funudau i’r plant wneud hyn fel y caiff y naill a’r llall ddisgrifio’u cymdogion yn ei dro.)

  3. Mae’n bwysig bod yn gymydog da. Tybed sut y byddai cymydog da yn edrych? Tybed beth fyddai cymydog da yn ei wneud? Dychmygwch pe byddai gwobr i’w chael am fod yn gymydog da.

    Golygfa Un
    (Mae Darllenydd 1 yn garddio.)
    Darllenydd 2: Alla i eich helpu chi gyda’r gwaith garddio? Fyddech chi’n hoffi i mi wneud rhywbeth?
    Darllenydd 1: Wel, rwyt ti’n garedig iawn yn cynnig fy helpu. Diolch.
    Arweinydd: Beth wyt ti’n wneud?
    Darllenydd 2: Rydw i’n helpu fy nghymydog gyda’r gwaith garddio.
    Arweinydd: Llongyfarchiadau am fod yn gymydog da.
    (Rhowch fedal o amgylch gwddf Darllenydd 2.)

    Golygfa Dau
    (Mae Darllenydd 3 yn chwilio am ei chi, sydd ar goll.)
    Darllenydd 3: Pero, Pero. Tyrd yma! Ble’r wyt ti? Tyrd yma!
    Darllenydd 4: O, na, ydi’ch ci chi wedi rhedeg i ffwrdd? Fyddech chi’n hoffi i mi eich helpu chi i ddod o hyd iddo fo?
    Darllenydd 3: Os gwelwch chi’n dda. Rydw i’n methu deall i ble mae wedi mynd, ac rydw i braidd yn bryderus.
    Darllenydd 4: Pero, Pero. Tyrd yma! Dyna gi da!
    Arweinydd: Beth wyt ti’n wneud?
    Darllenydd 4: Rydw i’n helpu fy nghymydog i chwilio am ei chi, sydd ar goll.
    Arweinydd: Llongyfarchiadau am fod yn gymydog da.
    (Rhowch fedal o amgylch gwddf Darllenydd 4.)

    Golygfa Tri
    (Mae Darllenydd 5 yn mynd â llythyr i’r ty iawn. Mae Darllenydd 5 yn cario llythyr ac yn curo ar ddrws ty Darllenydd 6.)
    Darllenydd 6: O helo, sut wyt ti? Beth sydd gen ti?
    Darllenydd 5: Fe ddaeth y llythyr yma i chi, ond fe ddaeth i’n ty ni mewn camgymeriad. Felly, dyma’r llythyr i chi.
    Darllenydd 6: Wel, diolch o galon. Rydw i wedi bod yn disgwyl i’r llythyr yma gyrraedd.
    Arweinydd: Beth wyt ti’n wneud?
    Darllenydd 5: Rydw i’n mynd â llythyr i dy fy nghymydog.
    Arweinydd: Llongyfarchiadau am fod yn gymydog da.
    (Rhowch fedal o amgylch gwddf Darllenydd 5.)

    Golygfa Pedwar
    (Mae Darllenydd 7 yn gwrando ar gerddoriaeth swnllyd iawn.)
    Darllenydd 8: Allwch chi droi’r gerddoriaeth i lawr, os gwelwch yn dda? Rwy’n siwr ei fod yn tarfu ar y bobl drws nesa i chi.
    Darllenydd 7: Iawn, mae’n ddrwg gen i. Doeddwn i ddim yn sylweddoli ei fod mor uchel.
    Arweinydd: Beth wyt ti’n wneud?
    Darllenydd 7: Rydw i’n troi’r gerddoriaeth i lawr am fod y sain yn tarfu ar y cymdogion.
    Arweinydd: Llongyfarchiadau am fod yn gymydog da.
    (Rhowch fedal o amgylch gwddf Darllenydd 7.)

    Golygfa Pump
    (Mae Darllenydd 9 yn chwarae pêl, ac mae’n cicio’r bêl dros yffens.)
    Darllenydd 9: Helo … Oes rywun yna? Rydw i wedi cicio fy mhêl dros eich ffens yn anfwriadol. Allwch chi ei thaflu’n ôl i mi, os gwelwch chi’n dda?
    Darllenydd 10: Iawn, dyma ti. Dal hi!
    Arweinydd
    : Beth wyt ti’n wneud?
    Darllenydd 10
    : Rydw i’n taflu’r bêl yn ôl i fy nghymydog.
    Arweinydd
    : Llongyfarchiadau am fod yn gymydog da.
    (Rhowch fedal o amgylch gwddf Darllenydd 10.)

    Golygfa Chwech
    (Mae Darllenydd 11 a Darllenydd 12 yn cerdded gyda’i gilydd ac mae’r ddau yn gollwng sbwriel ar y llawr.)
    Darllenydd 11: Ddylen ni ddim gollwng sbwriel ar y llawr, na ddylem, yn enwedig o flaen drws ty ein cymydog. Well i ni godi’r papurau yma dwi’n meddwl.
    Darllenydd 12: Ie. Rwyt ti’n iawn, dydi o ddim yn beth neis iawn cael sbwriel pobl eraill yn dy ardd.
    Arweinydd: Beth wyt ti’n wneud?
    Darllenydd 11: Rydw i’n codi’r sbwriel y gwnes i ei daflu ar lawr o flaen ty fy nghymydog.
    Arweinydd: Llongyfarchiadau am fod yn gymydog da.
    (Rhowch fedal o amgylch gwddf Darllenydd 11.)

Amser i feddwl

Mewn bywyd go iawn, fyddwch chi ddim yn cael gwobr am fod yn gymydog da.

Ond mae bod yn gymydog da yn dal i fod yn rhywbeth pwysig iawn.

Mae’n bwysig trin pobl eraill yn y ffordd yr hoffem ni ein hunain gael ein trin.

Os ydych chi’n dymuno i bobl fod yn garedig wrthych chi, rhaid i chi fod yn garedig wrthyn nhw.
Os ydych chi eisiau i bobl eich parchu chi, rhaid i chithau eu parchu nhw.
Os ydych chi eisiau i’ch cymdogion fod yn gymdogion da, rhaid i chithau fod yn gymydog da hefyd.

Treuliwch foment yn meddwl sut y gallwch chi fod yn gymydog da.

Gweddi

Dduw cariad,
Helpa ni i garu’r bobl sy’n byw o’n cwmpas.
Dduw heddwch,
Helpa ni i greu heddwch, nid i greu gwrthdaro.
Dduw trugaredd,
Helpa ni i faddau i’r bobl sy’n byw o’n cwmpas, fel rwyt ti’n maddau i ni.
Dduw llawenydd,
Helpa ni i gael hwyl yn ein cartrefi gyda’n cymdogion.
Dduw caredigrwydd,
Helpa ni i drin pobl eraill yn y ffordd yr hoffem ni ein hunain gael ein trin.
Bydded pethau felly.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon