Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pranciau'r Camel (Ydw i’n arbennig?)

Annog y plant i werthfawrogi ei gilydd.

gan John Fryer

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Annog y plant i werthfawrogi ei gilydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi ddangos sleidiau o’r anifeiliaid neilltuol.
  • Fe fyddai’n bosib i’ch dosbarth gyflwyno stori Gideon fel drama.

Gwasanaeth

  1. Beth ydych chi’n ei wybod am gamelod? Wedi eu gweld mewn sw? Wedi gweld lluniau ohonyn nhw mewn llyfrau, mewn ffilmiau, neu ar y teledu? Maen nhw’n anifeiliaid sy’n poeri, yn anifeiliaid sydd â chrwb ar eu cefn, neu ddau (!) ac, yn ôl pob sôn, maen nhw’n anifeiliaid sarrug! Ond maen nhw’n anifeiliaid rhyfeddol! Wyddech chi, er enghraifft, bod camel yn . . .? (Gwelwch y ffeithiau rhyfeddol am y camel ar ddiwedd y testun yma - fe fydd y cyfeiriad at wrin a dom y camel yn sicr o wneud i’r plant chwerthin, a dal eu sylw.) Ffeithiau rhyfeddol - dyna greadur rhagorol yw’r camel, er gwaetha’i olwg od.

  2. Ond, a ydych chi’n meddwl y byddai anifeiliaid eraill yn teimlo’n drist am eu bod nhw ddim fel y camel? Fydd yr eliffant yn cwyno am nad oes ganddo grwb fel y camel ar ei gefn? Fydd ceffyl yn cwyno am ei fod yn chwysu? Na! Mae’r eliffant a’r ceffyl yn anifeiliaid rhyfeddol hefyd - mae rhai nodweddion yn perthyn iddyn nhw sydd ddim yn perthyn i’r camel - ac mae hynny’n wir am bob anifail. Mae pob un yn rhyfeddol, ac mae gan bob un nodweddion unigryw, pob un yn ei wneud yn addas i’r man lle mae’n byw, a’r hyn mae’n ei fwyta, ac ati.

  3. Felly, pam y mae pobl yn mynnu cymharu eu hunain a phobl eraill o hyd? Efallai nad ydw i mor dda am ennill ras mewn mabolgampau ag yw Emyr, neu efallai nad oes gen i wallt tlws fel Amy . . . ond, rydyn ni i gyd yn arbennig. Mae Duw wedi ein gwneud ni yn arbennig, a does neb tebyg i ni wedi bod ar y ddaear erioed o’r blaen, a fydd neb arall yn union yr un fath a ni ar y ddaear eto ychwaith!

  4. Yn eich geiriau eich hun, adroddwch stori Gideon.

(Yn Llyfr y Barnwyr, penodau 6 a 7, cewch stori buddugoliaeth Gideon dros bobl Midian.)

Dyn hollol gyffredin oedd Gideon yn byw yng ngwlad Israel, ond fe allodd (gyda help Duw) wneud gwahaniaeth enfawr i’w genedl a newid byd ei bobl. Ceisiwch adrodd y stori mewn ffordd fywiog gan bwysleisio’r hiwmor sydd ynddi (er enghraifft pan fydd sôn am y freuddwyd a’r rholiau bara).

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll, ac ail adroddwch stori Gideon unwaith eto.

Roedd Gideon yn unigolyn arbennig a gafodd ddylanwad enfawr ar y rhai oedd o’i gwmpas. Mae pob un ohonom yn arbennig, ac fe allwn ni i gyd wneud neu ddweud pethau arbennig, na all neb arall eu gwneud neu eu dweud, am mai ni ydyn ni!

Pwy a wyr? - Efallai y bydd rhywun ohonoch chi sy’n eistedd yn y gwasanaeth yma heddiw yn dyfeisio’r math nesaf o gyfrifiadur, neu’n paentio darlun arbennig, neu’n dod yn rheolwr ar gwmni enwog, neu efallai’n helpu rhywun sydd mewn trwbl . . . . Beth bynnag, fe fydd pawb sydd yma’n gallu newid rhywfaint bach ar y byd trwy fod yn ni ein hunain . . . .

Ydych chi’n dal i deimlo’n wan? . . . Wel, cofiwch, fe allwch chi ofyn am help - yn union fel y gwnaeth Gideon.

Fe wnaeth Duw (a’r Angel) ei helpu - fe allwn ninnau ofyn i bobl eraill rydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw am eu help er mwyn gweld beth allwn ni ei wneud.

Ffeithiau am Gamelod

Mae 160 gair Arabaidd am ‘camel’.

Mae’r camel yn ‘gefnder’ i’r lama.

Mae gan gamel dair set o amrannau ac aeliau mawr.

Gall camel fynd am hyd at 50 diwrnod heb yfed dwr.

Mae wrin y camel ddwywaith mor hallt â dwr y môr.

Mae baw'r anifail, neu’r dom, mor sych fe allech chi ei ddefnyddio i gynnau tân gynted ag y mae’n cael ei ysgarthu.

Mae’r cyfan o fraster y camel yn cael ei storio yn y crwb.

Un crwb – Dromedari; dau grwb – Bactrian.

Mae camelod yn gallu cario llwythi o dros 450-kg, a theithio dros 190 km bob dydd.

Ar bob troed mae gan y camel bad fel lledr, ac mae’r droed yn hollti’n ddau fawd troed sy’n lledu oddi wrth ei gilydd wrth iddo gerdded trwy’r tywod .

Mae’r aeliau mawr yn rhoi cysgod i lygaid y camel rhag yr haul llachar.

Mae’r camel yn gallu cau ei ffroenau rhag i’r tywod fynd i mewn i’w drwyn.

Maen nhw’n gallu yfed hyd at 110 litr o ddwr mewn 10 munud.

Nid yw camelod yn chwysu.

Maen nhw’n gallu rhedeg ar gyflymder o 30 km yr awr am bellter sydd heb fod yn rhy hir.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon