Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydych Chi'n Ddiogel Yn Ei Ddwylo

Annog y plant i fod yn ffyddiog y bydd Duw’n eu gwarchod.

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Annog y plant i fod yn ffyddiog y bydd Duw’n eu gwarchod.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llun o’r gôl-geidwad Edwin van der Sar - fe fyddai llun ohono’n ‘arbed’ gôl yn ddelfrydol. Edrychwch ar y wefan: http://tinyurl.com/qbj3o99
  • Dysgl wydr – gorau oll os bydd yn un wedi’i haddurno.
  • Marshmallows neu rawnwin.
  • Dewisol: wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth, chwaraewch y clip fideo Van der Sar Compilation, oddi ar YouTube, yn y cefndir.

Gwasanaeth

  1. Galwch ar un o’r plant i ddod atoch chi i’r tu blaen. Gofynnwch iddo ef neu hi ddal y ddysgl wydr i chi. Tra bydd yn ei dal, dywedwch wrth bawb fod y ddysgl wydr yn un werthfawr iawn - yn werth tua miliwn o bunnoedd! Felly, mae’n bwysig gafael ynddi’n ofalus. Fe fydd y plentyn yn aros yno’n dal y ddysgl tra byddwch chi’n mynd ymlaen â’r gwasanaeth.

  2. Dangoswch y llun o Edwin van der Sar. Eglurwch ei fod, fel gôl-geidwad tîm pêl-droed Manchester United, yn berchen ar bâr o ddwylo ‘diogel’. Fe gadwodd Edwin van der Sar y bêl rhag mynd i mewn i gôl ei dîm am 1,302 o funudau, dyna record byd mewn un tymor! Mewn geiriau eraill, fe lwyddodd am 15 gêm bron, 15 gêm bêl-droed o 90 munud yr un, i rwystro unrhyw un sgorio hyd yn oed un gôl yn erbyn ei dîm tra roedd o’n geidwad rhwng pyst y gôl. Ond, gydag un gôl gan chwaraewr tîm arall ym mis Mawrth 2009, fe ddaeth ei record i ben.

  3. Dywedwch fod rhai dwylo’n gallu eich cadw’n ddiogel, rhai dwylo’n gallu dal llawer iawn.

Gofynnwch i ddau blentyn geisio gweld faint o rawnwin neu farshmallows y gallan nhw’u dal ar un llaw. Rhowch tua 30 eiliad iddyn nhw wneud hyn. Yna, ceisiwch gyfrif pa un sydd wedi gallu dal y nifer fwyaf. (Cewch chi benderfynu a yw’n briodol i chi rannu’r grawnwin neu’r marshmallows wedyn i’r plant eu bwyta).

  1. Mae’r Beibl yn dweud bod Duw bob amser yn dal pob un ohonom yn ei law. Fe gafodd y Brenin Dafydd, un o arwyr mwyaf y Beibl, gysur yn y dwylo mwyaf diogel - dwylo Duw. Fe ysgrifennodd Dafydd am y modd yr oedd Duw’n ei warchod, yn Salm 138: ‘Er imi fynd trwy ganol cyfyngder, adfywiaist fi; estynnaist dy law yn erbyn llid fy ngelynion, a gwaredaist fi â’th ddeheulaw.’ (adnod.7).

  2. Gofynnwch i’r plentyn sy’n dal y ddysgl wydr gamu ymlaen. Eglurwch y byddai’r plentyn, ymhen amser, wedi blino ei dal ac yn y pen draw fe fyddai wedi ei gollwng - cofiwch egluro nad yw’r ddysgl o ddifrif yn werth miliwn o bunnoedd! Ond rydyn ni, bob un ohonom ni, yn fwy gwerthfawr yng ngolwg Duw nag unrhyw ddysgl wydr. Mae dwylo Duw’n fwy diogel na dwylo neb, fy nwylo i na’ch dwylo chi, yn fwy diogel na dwylo Edwin van der Sar hyd yn oed, ac mae’n gallu dal pob un ohonom yn ddiogel.

Amser i feddwl

Gweddi
Diolch i ti, Dduw,
nad wyt ti byth yn gollwng dy afael arnom.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon