Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Adfent

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i feddwl am dymor Cristnogol yr Adfent, a meddwl pa mor anodd yw hi i ddisgwyl am rywbeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch nifer o wahanol galendrau Adfent, rhai yn cynnwys siocledi, a rhai mwy traddodiadol.
  • Plethdorch Adfent gyda chanhwyllau arni.

Gwasanaeth

  1. Trafodwch y ddihareb ‘Hir pob ymaros’, neu’r dywediad Saesneg, ‘Good things come to those who wait.’ Holwch y plant beth yw ystyr dywediadau fel rhain.

Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod am unrhyw ddathliadau Cristnogol sy’n ymwneud ag aros am rywbeth da.

Rhowch y cliwiau canlynol i’r plant:

Mae’r lliw porffor yn lliw arwyddocaol.

Fe fyddwn ni’n goleuo canhwyllau yn ystod y cyfnod yma.

Fe fyddwn ni’n gosod addurniadau yn ein cartrefi.

Fe fydd gennym ni galendr arbennig, ac mewn rhai o’r rhain fe fydd siocledi.

Erbyn y cliw olaf, mae’n debyg y bydd y plant wedi dyfalu mai am gyfnod yr Adfent rydych chi’n meddwl.

  1. Oes rhywun yn gwybod beth yw ystyr y gair ‘Adfent’? Eglurwch i’r plant mai ystyr syml y gair Adfent yw ‘dyfodiad rhywbeth’ neu ‘rhywbeth yn cyrraedd’. Mae cyfnod yr Adfent, y cyfnod y byddwn ni’n ei fesur trwy agor y ‘ffenestri’ ar ein calendrau Adfent bob dydd, yn adeg y byddwn ni’n aros neu’n disgwyl am rywbeth sy’n mynd i ddigwydd.

  2. Gofynnwch i’r plant beth yw’r rhywbeth hwnnw sy’n mynd i ddigwydd? Cyfeiriwch nhw at enedigaeth Iesu Grist.

  3. Yn yr Eglwys Gristnogol, caiff yr Adfent ei nodi gyda phedwar dydd Sul, sy’n cael eu hadnabod fel y Sul Cyntaf, yr Ail Sul, y Trydydd Sul a’r Pedwerydd Sul yn Adfent. Rhaid i Sul Cyntaf yr Adfent fod yn ddydd Sul sy’n digwydd rhwng 27 Tachwedd a 3 Rhagfyr. Felly, eleni, 28 Tachwedd fydd y Sul hwnnw.

Eleni, y tri Sul arall fydd 5, 12 a 19 Rhagfyr. Ar bob un o’r Suliau rheini, fe fydd Cristnogion yn gweddïo ac yn meddwl am ddyfodiad y baban Iesu.

  1. Holwch y plant, ai dim ond Cristnogion fydd yn gallu dathlu’r Adfent?

    Edrychwch ar yr amrywiaeth sydd gennych chi o galendrau Adfent. Arweiniwch y plant i feddwl am y ffaith mai traddodiad Cristnogol yw agor calendr Adfent, ond mae pobl o grefyddau eraill yn aml yn mwynhau cyfnod y Nadolig, a does dim rheswm pam na ddylen nhw hefyd fwynhau agor calendr Adfent. Mae’n ffordd dda o nodi’r dyddiau sy’n arwain at y Nadolig.

Amser i feddwl

Gan ddangos y canhwyllau Adfent, dywedwch wrth y plant eich bod yn bwriadu goleuo cannwyll bob wythnos ac am adael iddyn nhw oleuo yn ystod y gwasanaethau am y cyfnod, nes y bydd pob un o’r pedair wedi’u goleuo yn y diwedd.

Fe fyddwch chi’n goleuo’r gannwyll wen yn y canol ar ddiwrnod olaf y tymor, sef y diwrnod y bydd yr ysgol yn cau am wyliau’r Nadolig. Mewn eglwysi, fe fydd y gannwyll yma’n cael ei goleuo ar ddydd Nadolig. Beth mae’r gannwyll honno’n ei gynrychioli?

Gall aros am rywbeth fod yn anodd. Gall aros am y Nadolig fod yn anodd. Felly, yn hytrach na gwneud dim ond eistedd yno, neu neidio i fyny ac i lawr gan obeithio y daw’r Nadolig yn fuan, rydyn ni’n rhannu’r amser hir o ddisgwyl – mae pethau angen eu gwneud, cyngherddau i baratoi ar eu cyfer, cardiau i’w hysgrifennu. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni’r calendr Adfent i’n helpu i gyfri’r dyddiau, fesul un.

Mae aros yn rhan o fywyd. Mae dysgu ymdopi ag aros yn rhan o dyfu i fyny.

Gweddi

Arglwydd, rydyn ni’n aros am y Nadolig, sydd ar ddod, gyda theimladau o lawenydd a chyffro.

Wrth i ni aros, gad i ni gofio am bopeth y mae’n rhaid i ni ei wneud wrth fynd ymlaen, a gad i ni gofio bob amser am y bobl hynny y mae’r adeg yma’n adeg drist ac unig iddyn nhw.
Ac, ar yr adeg arbennig yma, bydd gyda phob teulu sy’n disgwyl i fabi bach newydd gael ei eni, fel yr oedd Mair a Joseff yn disgwyl dyfodiad y baban Iesu.

Cân/cerddoriaeth

Cerddoriaeth arall a awgrymir

Sitting, waiting, wishing’, gan Jack Johnson (ar gael i’w llwytho i lawr)

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon