Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Hen Wal Gerrig

Dangos pa mor bwysig yw lloches i bob peth byw.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos pa mor bwysig yw lloches i bob peth byw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch ddarn mawr o gardfwrdd i lunio ‘hen wal gerrig’, darn sy’n ddigon mawr i blant guddio y tu ôl iddo.
  • Nifer o ddarnau o gerdyn i wneud llun y creaduriaid y mae cyfeiriad atyn nhw yn y gerdd, a darn o ffon ar gyfer pob ‘creadur’.
  • Gwnewch y model fel a ganlyn:

    Paentiwch y cardfwrdd i edrych fel hen wal gerrig. Fe allech chi osod y ‘wal’ ar fwrdd, neu ar fyrddau wedi eu troi ar eu hochrau er mwyn i’r wal fod yn gadarn. Fe allech chi osod pentyrrau o ddail yr hydref wrth fôn y wal.

    Gwnewch lun y creaduriaid canlynol ar y darnau cerdyn, a’u paentio: pen ceffyl, pryf copyn,  pryfyn, chwiler (chrysalis), pili-pala, madfall, chwilen ddu, chwrli-bwm (bumble bee), nifer o forgrug, llyffant a draenog. Torrwch y siapiau a gosodwch bob un ar ben ffon.
  • Mae’n bosib i’r athro ddarllen y gerdd, neu fe allech chi ffurfio parti i’w chyd-lefaru, neu fe allech chi rannu llinellau’r gerdd rhwng nifer o blant iddyn nhw eu cyflwyno. Fe fydd angen i’r darllenwyr oedi rhwng pob llinell er mwyn rhoi cyfle i’r creaduriaid gael eu gosod ar y wal yn eu tro. (Mae’n bosib cuddio’r draenog yng nghanol y dail, a dod a’r llun i’r golwg pan ddaw ei dro, felly fydd dim angen ffon ar gyfer y draenog.)
  • Os byddwch chi’n rhoi darnau llefaru i’r plant, rhowch gyfle iddyn nhw o flaen llaw i ymarfer rhannau’r gerdd.

Gwasanaeth

Mae tipyn o waith paratoi ar gyfer y gwasanaeth yma, ond gall fod yn effeithiol am ei fod mor weladwy. Fe allech chi ei ddefnyddio hefyd fel rhan o brosiect celf a chrefft.

  1. Darllenydd: Dyma hen wal gerrig. Mae’n edrych yn llonydd a thawel iawn, ond mae llawer o weithgaredd yn mynd ymlaen yma. Gwrandewch ar y gerdd yma, a cheisiwch gyfrif faint o greaduriaid sy’n defnyddio’r wal fel lloches.

    Yr Hen Wal Gerrig
    addasiad o gerdd gan Jan Edmunds

    Pan fyddwn ni’n swatio yn ein gwelyau bach clyd, ar ddiwedd diwrnod prysur,
    Fe fyddwn yn ddiddos a diogel, waeth beth fydd y tywydd.
    Tu allan i’r ty, fe welwn ni hen wal gerrig,
    Sy’n rhoi lloches i greaduriaid mewn cilfachau sych cuddiedig.

    Yn agos i’r wal, bydd y ceffyl mawr yn llechu rhag y tywydd.
    Mae’r wal yn rhoi cysgod iddo nes daw’r haul eto ar ôl y cawodydd.
    Bydd pryf copyn yn gwylio’i we o’i guddfan yn y wal,
    A phan ddaw pryfyn i’r we, daw’r pryf copyn allan, yn barod i’w ddal.

    Fe welwn ni chwiler yn cuddio yma’n barod i newid ei ffurf yn ymdrechgar,
    A throi’n bili-pala hardd, un dydd, gyda’i adenydd prydferth, lliwgar.
    Fe ddaw’r fadfall allan i fwynhau pelydrau’r haul ar y cerrig cynnes,
    A’r chwilen ddu, ac fe welwn ni’r morgrug yn fyddin weithgar yn cyflawni eu busnes.

    Mae’r chwrli-bwm yn brysur iawn yn hedfan yma ac acw trwy’r dydd.
    Mae’n treulio’r haf rhwng cerrig y wal cyn hedfan i ffwrdd yn rhydd.
    Mae’r llyffant yn llochesu rhwng y cerrig mawr nes daw’r gwanwyn i’r tir.
    Yna, fe fydd yn cropian allan gyda’r nos neu’r wawr, fe fydd i’w weld ambell dro, mae’n wir.

    Ymysg y dail wrth droed y wal, cuddia’r draenog bach pigog yn glyd.
    Mae’n ddiddos yno, yn ystod y gaeaf, o olwg creaduriaid mwy sydd yn y byd.
    Felly, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r wal gerrig yn gysgod rhag y gwynt a’r glaw,
    Yn lloches ddiogel i’r holl greaduriaid beth bynnag a ddaw.
  1. (Saib) Faint o greaduriaid allwch chi eu gweld? (Rhowch gyfle i’r plant eu cyfrif a thrafod yr ateb.)

    Darllenydd
    : Mae ar bob peth byw angen lloches, yn ogystal â bwyd a diod ac aer.

Amser i feddwl

Mae cartref gan bob un ohonom lle gallwn ni deimlo’n ddiogel ac yn gynnes. Efallai bod pob cartref yn edrych yn wahanol, o’r tu mewn a’r tu allan, ond yn achos y rhan fwyaf ohonom, ein cartref yw’r lle gorau yn y byd, lle gallwn ni fod gyda’r bobl rydyn ni’n eu caru.

Gweddi

Diolch i ti, Arglwydd Dad, am dy holl ofal di,
Am fwyd a dillad, am gysgod, a phopeth da roist ti yn ein byd i ni.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon