Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pryf Copyn Y Nadolig

Atgoffa’r plant am wir ysbryd y Nadolig.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r plant am wir ysbryd y Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r deunydd canlynol wedi’i fwriadu i fod yn fframwaith ar gyfer cyflwyniad byr y mae modd i athrawon ei addasu i’w pwrpas eu hunain.
  • Mae’n bosib i’r plant gyflwyno meim syml wrth i’r athro neu’r arweinydd adrodd y stori. Gallwch ychwanegu mwy o ddeialog. Yn achos plant ifanc iawn, gall yr athro ddweud y stori. Mae’n hanfodol cael lleisiau a symudiadau clir.
  • Dewiswch y cymeriadau: y fam, y tad, hyd at bump o adroddwyr, hyd at bump o blant, un pryf copyn, un dylwythen deg, Siôn Corn, Mair, Joseff, ynghyd ag unrhyw faint a fynnoch o gymeriadau yng ngolygfa Gwyl y Geni, e.e. angylion, bugeiliaid, doethion ac ati, fel bydd y dosbarth cyfan yn cael cymryd rhan.
  • Coeden Nadolig fechan (sy’n hawdd ei symud, mewn potyn ysgafn), tinsel ac addurniadau ysgafn tebyg fyddai’n cynrychioli gwe pryf copyn, i’w roi ar y goeden.
  • Gall y gwisgoedd a’r props fod mor syml neu mor wych ag y mynnwch chi.
  • Casglwch gerddoriaeth Nadoligaidd a charolau i’w chwarae ar y dechrau, ar y diwedd, ac yn ystod y golygfeydd.
  • Os oes llenni ar y llwyfan, fe allwch chi eu hagor i ddangos y teulu yn eu bwthyn. Os nad oes llenni, gall y teulu ddod i mewn pan fydd y llefarydd yn dweud ei ran.

Gwasanaeth

Golygfa 1

Llefarydd 1: Dyma gartref teulu tlawd. Does ganddyn nhw ddim esgidiau am eu traed, mae eu dillad yn racsiog, a does ganddyn nhw ddim llawer o fwyd i’w fwyta.

(Daw’r tad i mewn yn cario coeden fechan. Mae’r plant yn edrych yn hapus iawn. Maen nhw’n gosod y goeden ar y llwyfan ychydig i un ochr.)

Llefarydd 2: Y noson cyn y Nadolig yw hi, ac mae’r tad wedi codi coeden fach o’r goedwig a dod â hi i’r ty. Mae’r plant wrth eu bodd, ond fe fydden nhw’n hoffi pe byddai ganddyn nhw anrhegion i’w rhoi o dan y goeden.

Llefarydd 3: Wrth iddyn nhw sefyll o gwmpas y goeden maen nhw’n gweld pryf copyn yn dod at y goeden. Mae’r pryf copyn yn gwau gwe o edau arian ac yn addurno brigau’r goeden.

(Daw’r pryf copyn at y goeden. Mae’n dawnsio o’i hamgylch ac yn gosod y tinsel dros y brigau. Mae’r plant yn gwylio ac yn ymateb wrth weld y pryf copyn. Chwaraewch gerddoriaeth addas.)

Plentyn 1
: Ych-a-fi! Mae’r hen bryf copyn yma’r difetha ein coeden ni! Anfonwch o i ffwrdd.

(Mae’r plant yn ceisio ymlid y pryf copyn.)

Mam: Na, na! Peidiwch! Does dim eisiau i chi wneud hyn. Un o greaduriaid Duw yw’r pryf copyn - gadewch lonydd iddo.

(Mae’r pryf copyn yn dianc.)

(Mae un o’r plant yn pwyntio at y goeden.)

Plentyn 2: Edrychwch, mae’r pryf copyn wedi gwau ei we dros ein coeden ni!

Plentyn 3. Mae wedi gwneud iddi edrych yn hardd!

Tad: Dyna chi, doedd y pryf copyn ddim yn gwneud unrhyw ddrwg.

Mam: Dewch blant, mae’n amser gwely. Mae yfory’n ddiwrnod arbennig  iawn, a rhaid i ni beidio ag anghofio gwir ystyr y Nadolig.

Plentyn 4: Dywedwch stori’r Nadolig wrthym ni cyn i ni fynd i’r gwely.

(Mae pawb yn dod at ei gilydd wrth ymyl y goeden.)

(Gall pawb gydganu unrhyw garol sy’n sôn am Mair a’r Baban Iesu, ac sydd â chyfeiriad at wahanol gymeriadau stori Gwyl y Geni yn y penillion sy’n dilyn.)

(Gallwch drefnu pwy sy’n canu’r penillion fel y gwelwch chi orau. Er enghraifft fe allai un o’r cymeriadau (y tad neu’r fam), ganu’r penillion a phawb yn uno yn y cytgan os bydd cytgan i’r garol.  Wrth i’r plant ganu pob pennill, fe ddaw’r cymeriadau y mae sôn amdanyn nhw yn y pennill hwnnw ymlaen i’r llwyfan yn eu tro, a llunio’r tablo. Felly, ar ddiwedd y garol fe fydd pawb ar y llwyfan ac yn eu lle. Daw Joseff gyda Mair yn cario’r ‘baban Iesu’ ac fe allan nhw eistedd ar ganol y llwyfan; gall angylion ddod a sefyll y tu ôl iddyn nhw; daw’r bugeiliaid i mewn gydag ‘wyn bach’ gan ymgrymu o flaen y baban a’u cyflwyno iddo; gall y doethion wneud yr un peth a chyflwyno’r anrhegion sydd ganddyn nhw. Fe fydd y lleoli a’r amseru yn bwysig iawn wrth wneud hyn.)

Plentyn 5: O dyna stori ryfeddol! Rhaid bod Mair a Joseff yn dlawd fel ni os oedd eu babi bach wedi cael ei eni mewn stabl.

Mam: Oedden, mae’n debyg eu bod nhw’n dlawd fel ninnau. Ond dewch, mae’n amser i chi fynd i’r gwely. (Mae pawb yn gadael y llwyfan.)

(Diwedd golygfa 1, llenni, neu chwaraewch gerddoriaeth briodol tra mae’r cymeriadau’n  gadael y llwyfan yn drefnus.)

Golygfa 2

(Mae’r llwyfan mewn tywyllwch, cerddoriaeth yn chwarae, ac fe ddaw’r pryf copyn i’r golwg eto. Mae’n rhoi rhagor o dinsel arian ysgafn dros frigau’r goeden Nadolig. Yna, mae’r pryf copyn yn mynd oddi ar y llwyfan.)

Llefarydd 4. Dyma rywun arall yn dod i weld y goeden.

(Daw Siôn Corn i mewn a’r dylwythen deg. Maen nhw’n rhoi anrhegion o dan y goeden; gallwch chwarae cerddoriaeth ysgafn wrth iddyn nhw wneud hyn.)

Tylwythen Deg. Fe fydd yfory’n ddechrau newydd i’r teulu bach yma.

(Mae’n chwifio’i ffon hud. Os yw’n bosib, fe fyddai’n dda cael llifolau i dywynnu ar y goeden i amlygu ei disgleirdeb. Mae’r ddau gymeriad yn mynd oddi ar y llwyfan wedyn.)

Golygfa 3: Bore’r Nadolig

(Daw’r plant i mewn. Maen nhw’n llawn cyffro wrth weld yr anrhegion a’r goeden ariannaidd.)

Plant
: Mam! Dad! Dewch i weld - mae gwyrth wedi digwydd!

(Daw’r rhieni i mewn. Fe fydd y tad yn mynd at y goeden ac yn astudio’r edau arian.)

Tad: Wel! Edrychwch! Mae’r edau yma’n arian go iawn, ac o ble daeth yr holl anrhegion yma? Beth sydd wedi digwydd? Pwy fuodd yma? Dyma beth yw gwyrth!

Mam: Fyddwn ni ddim yn dlawd yn awr! Fe allwn ni werthu’r edau arian i brynu bwyd a dillad. Dyna dda!

Plant: Dyma’r Nadolig gorau erioed!

(Mae’r plant yn dawnsio o gwmpas y goeden wrth i bawb ganu carol sy’n nodi ei bod hi’n ddiwrnod Nadolig. Daw’r holl gymeriadau i’r llwyfan unwaith eto mewn ffordd drefnus wrth i bawb ganu.

Yn olaf, daw’r pryf copyn ymlaen, a daw i flaen y llwyfan gan godi ei fodiau i fyny a rhoi winc ar y gynulleidfa.)

Llefarydd 5: Ar ôl hynny, doedd y teulu ddim yn dlawd. Doedden nhw ddim wedi anafu’r pryf copyn ac fe gawson nhw wobr am fod yn garedig. Nadolig Llawen i bob un ohonoch chi!

Dosbarth Cyfan: Nadolig Llawen i bawb! (Llenni, neu bawb yn mynd oddi ar y llwyfan yn drefnus yn swn cerddoriaeth addas.)

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon