Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Neges I Bawb

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am y rhai hynny a glywodd neges y Nadolig am y tro cyntaf, a meddwl beth oedd eu hymateb i’r neges.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd angen i chi baratoi tri llefarydd: Joseff, bugail, ac un gwr doeth.

Gwasanaeth

  1. Siaradwch am achlysuron hapus diweddar sydd wedi dod i ran rhai o’r plant os ydyn nhw’n gwybod am unrhyw fabanod bach sydd newydd gael eu geni. Pwy sy’n debygol o ddod i weld y babi bach newydd-anedig?

    Gofynnwch i’r plant restru cymeriadau stori Gwyl y Geni, fel y mae cyfeiriad atyn nhw yn y stori o’r Beibl. Nodwch mai dynion yw’r rhan fwyaf o’r cymeriadau y mae sôn amdanyn nhw, ar wahân i Mair. Dynion oedd y rhai ddaeth i weld y baban yn y stabl. Ym mhob fersiwn o’r stori, dynion oedd y rhai a ddaeth i addoli’r baban. Ym mhob darlun enwog o’r olygfa yn y stabl, fe welwn ni ddynion yn eistedd neu’n penlinio ac yn addoli’r baban. (Mae’n debyg fod pob un ohonyn nhw wedi dotio wrth weld y baban, ond dim ond Mair a Joseff eu hunain fyddai’n gallu dweud wrthych chi beth yn union wnaeth y dynion hyn ei ddweud wrth weld y baban bach!)

    Eglurwch fod Duw eisiau i ddyn a oedd yn saer coed ofalu am ei fab a’i fagu. Roedd ar Dduw eisiau i Joseff fod yn dad i’w fab ar y ddaear.

    Fe drefnodd Duw bod gwr llety prysur iawn yn helpu i baratoi lle i’w fab gael ei eni.

    Roedd ar Dduw eisiau i ddynion cryf gweithgar, dynion a fyddai’n gweithio allan yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid, glywed am enedigaeth ei fab. Y dynion hynny fyddai rhai o’r bobl gyntaf i ddod i weld y baban.

    Roedd ar Dduw eisiau i arweinwyr crefyddol, dysgedig, o genhedloedd eraill deithio pellter maith a dod ag anrhegion arbennig iawn i’w fab newydd-anedig.

    Roedd y merched, yn y dyddiau hynny, yn gweithio yn y ty ac anaml y bydden nhw’n cwrdd â dieithriaid. Felly, dynion yw’r rhan fwyaf o’r bobl a welwn ni yn y stori. Mae’n debyg mai’r eglurhad am hyn yw bod dynion yn fwy rhydd i grwydro yma a thraw yn eu bywyd o ddydd i ddydd, peth na allai’r merched ei wneud. Mae pethau’n wahanol yn ein byd ni erbyn heddiw.
  1. Gofynnwch i’r plant feddwl tybed beth fyddai’r cymeriadau’n ei ddweud wrth ei gilydd yn y stabl y noson honno? Am beth y bydden nhw wedi bod yn siarad? Pe byddech chi’n un o’r bugeiliaid, beth tybed fyddech chi wedi’i ddweud wrth y bobl eraill oedd yno? Os mai chi fyddai Joseff, tybed beth fyddech chi wedi’i ddweud wrth y bobl oedd wedi dod i’r stabl? Eglurwch i’r plant eich bod yn awr yn mynd i wrando ar sgwrs debyg i’r sgwrs a allai fod wedi ei chynnal rhwng y bobl yn y stabl y noson honno. (Fe fyddwch wedi paratoi rhai o’r plant i’ch helpu chi wneud hyn.)

    Llefarydd 1 (Joseff): Fe gefais i wybod bod Mair yn mynd i gael babi. Roedd hynny’n dipyn o sioc i mi, a dweud y gwir. Dim ond wedi dyweddïo roedden ni! Nid fi oedd tad go iawn y babi! Duw oedd ei dad. Felly, fe fyddai’r babi bach yma, bachgen bach, yn dod gan Dduw. Roedden ni fod i alw’r babi bach yn Iesu, ac fe gefais i wybod y byddai Iesu’n achub pobl y byd rhag pechod. Fyddwn i ddim wedi credu hyn oni bai bod angel wedi dweud y cyfan wrthyf fi ar y dechrau. Ac edrychwch, dyma’r babi bach wedi cyrraedd! Beth ydych chi’n feddwl ydi ystyr hyn?

    Llefarydd 2 (Un o’r bugeiliaid): Roedd hi’n nos - fel unrhyw noson gyffredin arall - ac roedden ni’n gwylio ein defaid, fel bydden ni’n arfer gwneud. Yn sydyn, roedd golau llachar yn llenwi’r awyr, ac fe ddaeth angel i’r golwg. Roedden ni wedi dychryn yn ofnadwy! Ond fe ddywedodd yr angel wrthym ni am beidio ag ofni, roedd ganddo fo newydd da i ni ac i ddynion yr holl fyd. Fe ddywedodd fod babi bach wedi ei eni yma ym Methlehem. Fe ddywedodd yr angel y bydden ni’n dod o hyd iddo yma wedi’i lapio mewn cadachau ac yn gorwedd yn y preseb. A dyma fo, ar fy ngwir! Beth ydych chi’n feddwl ydi ystyr hyn?

    Llefarydd 3 (Un o’r doethion): Roedden ni wedi bod yn disgwyl clywed am enedigaeth arbennig ers peth amser. Roedden ni wedi bod yn astudio ysgrifau a oedd yn nodi y byddai rheolwr yn cael ei eni ryw ddydd ym Methlehem, yng ngwlad Jwdea. Fe fyddai seren newydd yn arwyddo’i enedigaeth. Ac ychydig yn ôl , fe welson ni seren ddisglair iawn yn yr awyr, doedd hi ddim yno cyn hynny. Fe wnaethon ni ddilyn y seren honno am wythnosau, o’n gwlad ni yn y dwyrain, ac fe arweiniodd y seren ni i’r stabl dlawd yma, ac at y babi bach. Rhaid i ni gyfaddef, doedden ni ddim yn meddwl y bydden ni’n dod o hyd i’r babi mewn stabl! Beth ydych chi’n feddwl ydi ystyr hyn?

  2. Roedd y dynion yma, dynion o wahanol gefndiroedd wedi cael eu harwain at ei gilydd i un lle, i fod yn dystion o foment arbennig iawn mewn hanes, dyfodiad mab Duw i’r byd. Roedd pob un ohonyn nhw’n synhwyro cyffro go iawn, a theimladau cynhyrfus iawn o lawenydd a rhyfeddod. Ond doedd yn un ohonyn nhw’n deall yn iawn beth oedd ystyr hyn.

  3. Peth felly yw ffydd - dydyn ni ddim yn deall pob peth! Fydd hyd yn oed y bobl fwyaf doeth a dysgedig ddim yn deall popeth am Dduw. Doedd Mair ychwaith ddim yn deall y cyfan. Mae’r Beibl yn dweud bod Mair wedi cadw popeth yn ei chalon fel trysor, ac wedi meddwl llawer am y pethau hyn. Mae’n rhaid ei bod wedi meddwl llawer am beth fyddai’n digwydd i’w mab. Ond doedd hi, hyd yn oed, ddim yn gwybod yr atebion ychwaith.

Amser i feddwl

Tybed ble roedd y merched yn y stori yma? Mae Mair yma, ac weithiau fe fyddwn ni’n clywed sôn am wraig y llety, efallai. Yn y dyddiau hynny, doedd dim cymaint o le i ferched mewn storïau o’u cymharu â’r dynion; dyna sut roedd pethau bryd hynny. Pe bai’r stori wedi’i digwydd yn ein dyddiau ni, yna fe fyddai mwy o sôn am ferched ynddi - y merched na chlywsom sôn amdanyn nhw.

Enw arall am Iesu y byddwn ni’n ei glywed ar adeg y Nadolig yw Emaniwel. Ystyr yr enw hwnnw yw, ‘Duw gyda ni’.

Treuliwch ychydig funudau yn meddwl am ba wahaniaeth fyddai hynny’n ei wneud i’ch diwrnod.

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am anfon dy fab, Iesu, atom ni.
Diolch nad oeddet ti eisiau bod yn Dduw pell, anodd ei gyrraedd, ond yn Dduw y gallen ni ddod i’w adnabod a’i ddeall.
Fe ddaeth Iesu i’r byd i ddangos i ni sut un wyt ti.
Diolch dy fod ti’n Dduw cariad, ac yn Dduw sydd eisiau bod yn ffrind i ni.
Helpa ni i ddeall mwy amdanat ti wrth i ni wrando ar stori’r Nadolig unwaith eto.

Cân/cerddoriaeth

Canwch un o hoff garolau plant yr ysgol.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon