Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ser Yn Disgleirio

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dathlu cael bod yn wahanol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â stori Elmer, gan David McKee (cyhoeddwyd gan Red Fox).
  • Tortsh.
  • Darn o ddefnydd.
  • Dewisol: coes brwsh neu ysgubell wedi’i gosod ar gefn ddwy gadair.

Gwasanaeth

  1. Ewch dros stori Elmer gyda’r plant os ydyn nhw’n gyfarwydd â hi, neu adroddwch y stori yn eich geiriau eich hun.

    Pwysleisiwch y pwyntiau canlynol:

    - Roedd Elmer yn wahanol, yn hardd o wahanol.
    - Roedd Elmer yn llawen ac yn siriol.
    - Roedd Elmer yn gwneud i bobl wenu.
    - Roedd Elmer eisiau bod yr un fath â phawb arall.
    - Fe geisiodd fod yr un fath â phawb arall, ond yn y diwedd roedd yn rhaid iddo fodloni a bod yn ef ei hun.
    - Roedd pawb yn falch o gael yr Elmer go iawn yn ôl!

  2. Eglurwch fod Elmer yn debyg i seren mewn ffordd. (Goleuwch y dortsh.) Roedd yn gallu dod â goleuni a llawenydd i fywydau pobl, neu yn yr achos yma i fywydau eliffantod!

  3. Nodwch beth oedd problem Elmer: roedd eisiau bod yr un fath â phawb arall. O ganlyniad, fe aeth yn greadur llwydaidd a chyffredin. Diffoddodd ei oleuni. Doedd dim mwyach yn dod â disgleirdeb a sirioldeb i’r rhai a oedd o’i gwmpas. Doedd y bobl ddim hyd yn oed yn ei adnabod mwyach

    (yn araf, gorchuddiwch y dortsh â’r darn defnydd)

    . . . nes iddo fethu cuddio’i bersonoliaeth ddim mwy!

    Ydych chi’n cofio beth a fyrstiodd allan? BW!

  4. Awgrymwch y gallwn ni i gyd fod rhywbeth yn debyg i Elmer, ambell waith.

    (Goleuwch y dortsh eto.)

    Efallai ein bod, weithiau, yn anghofio pa mor arbennig ydyn ni. A gwaeth na hynny, ein bod weithiau ddim yn hoffi pwy ydyn ni.

    Efallai ein bod yn anghofio ein bod fel seren ddisglair ac yn ceisio bod fel rhywun arall, eisiau bod fel ffrind i ni yn y dosbarth, hwyrach. Efallai ein bod yn ceisio siarad fel y ffrind; yn dechrau ymddwyn yr un fath, ac yn dechrau gwneud pethau yn un fath â hi neu fo.

    (Wrth i chi ddweud hyn, gorchuddiwch y dortsh unwaith eto yn araf gyda’r darn defnydd.)

    Mae ein goleuni arbennig yn diffodd ac mae’r athro neu’r athrawes yn meddwl: ‘I ble’r aeth y ferch/bachgen bach annwyl [enw’r plentyn], tybed?’

Amser i feddwl

Dangoswch rai siapiau sêr aur gydag enwau rhai o’r athrawon, neu rai sy’n helpu yn yr ysgol, wedi’u hysgrifennu arnyn nhw. (Fe allech chi hongian y rhain ar y coes brwsh sy’n groes i’r ddwy gadair.)
Dewiswch enw un person a chwblhewch y disgrifiad.
Dyma Mrs . . . Mae hi’n arbennig iawn yn ein golwg. Mae hi’n llonni ein bywyd ni yn yr ysgol trwy . . .

Nawr, darllenwch ychydig rhagor o enwau’r ‘sêr, a dilynwch yr un patrwm.
Dyma Mrs . . . Mae hi’n arbennig iawn yn ein golwg.
Dyma Mr . . . Mae e’n arbennig iawn yn ein golwg.

Gofynnwch i’r plant feddwl am foment neu ddwy am y ffordd y mae pob un o’r sêr hyn yn llonni eu dyddiau.

Wrth i’r plant ymadael â’r gwasanaeth, fe allech chi roi seren aur i bob un iddyn nhw ysgrifennu eu henwau arnyn nhw. Yna, fe allech chi arddangos y sêr i gyd i bawb allu eu gweld, a chofio mor pa arbennig yw pob un.

Gweddi

Diolch i ti, Dduw, am yr holl bobl arbennig sydd yn y gwasanaeth yma heddiw. Diolch i ti fod pob un ohonom yn cael ein gwerthfawrogi yn ein hysgol, a diolch am gael bod yn rhan o deulu’r ysgol. Diolch bod pob un ohonom yn wahanol. Helpa ni i fwynhau bod y rhai ydym ni.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon