Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Eira, Eira, Eira!

Defnyddio’r ddelwedd o eira i gofio sut y gall pethau fynd yn fwy ac yn fwy heb i ni ddeisyfu hynny.

gan Susan Maclean

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Defnyddio’r ddelwedd o eira i gofio sut y gall pethau fynd yn fwy ac yn fwy heb i ni ddeisyfu hynny.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi o flaen llaw.

Gwasanaeth

  1. Rydw i wrth fy modd yn chwarae yn yr eira. Rydw i wrth fy modd yn mynd ar y sled, yn taflu peli eira, ac yn gwneud dynion eira. Oes rhywun yn gwybod sut i wneud dyn eira? Mae gwneud dyn eira yn ein hatgoffa o beth all ddigwydd pan fyddwn ni’n dweud neu’n gwneud rhywbeth na ddylem ni.

  2. Er enghraifft, os byddai eich rhieni’n eich gadael mewn ystafell gyda thun mawr yn llawn siocledi, ac yn eich siarsio i beidio â bwyta dim un o’r siocledi, tybed beth fyddech chi’n ei wneud? Efallai y byddech chi’n cymryd un, byddai hynny’n golygu eich bod wedi anufuddhau i’ch rhieni - dyna chi wedi gwneud y peth cyntaf na ddylech chi. Yna, daw eich rhieni’n ôl i’r ystafell, ac mae ychydig o siocled i’w weld yng nghornel eich ceg, ac maen nhw’n gofyn i chi ‘Wnest ti gymryd un o’r siocledi?’ Tybed beth fyddech chi’n ei ddweud? Efallai y byddech chi’n dweud celwydd ac yn ateb, ‘Na’. A dyna chi wedi gwneud yr ail beth na ddylech chi. Wedyn, fe allen nhw ddweud wrthych chi ‘Wnest ti ddwyn un o’r siocledi?’ A dyna rywbeth arall na ddylech chi ei wneud: roeddech chi wedi eich siarsio i beidio cymryd un o’r siocledi, felly roeddech chi wedi dwyn. Felly, rydych chi’n meddwl beth nesaf, ac rydych chi’n rhoi’r bai ar rywun arall: ‘Y brawd neu’r chwaer gymrodd y siocled’ - celwydd arall. Ac fe all y cwestiynu a’r celwyddau fynd ymlaen ac ymlaen. Dyna stori fawr wedi cychwyn o un digwyddiad bach!

  3. Yn union fel y belen eira fach – mae’n dechrau’n belen fach ond wedi i chi ei rowlio yn yr eira mae’n tyfu’n fuan yn gaseg eira fawr, yr union beth i wneud bol dyn eira anferth! A phen  wedyn!

  4. Gall dweud a gwneud pethau na ddylem ni, fynd yn rhywbeth mawr a chynyddu’n sydyn fel y belen eira. Felly, beth allwn ni ei wneud am y peth?

    Gall Duw waredu pethau drwg sydd y tu mewn i ni. Mae Duw eisiau i ni ddweud sori pan fyddwn ni wedi gwneud rhywbeth na ddylem ni. Pa fath o bethau y dylem fod yn edifar amdanyn nhw, a dweud sori os byddwn ni wedi eu gwneud? Fe ddylem ni bob amser ddweud ei bod hi’n ddrwg gennym ni os byddwn ni wedi  gwneud rhywbeth o’i le, dweud sori wrth ein hathrawon, ein rhieni, a’n ffrindiau neu frodyr a chwiorydd. Ac os byddwn ni’n gwybod ein bod wedi brifo teimladau Duw, mae’n beth da dweud sori wrth Dduw hefyd!

  5. Mae Duw yn dweud ei fod yn gallu gwneud ein pechodau drwg ‘mor wyn â’r eira’ os byddwn ni o ddifrif yn edifarhau. Ac fe fydd pobl eraill hefyd yn gallu maddau i ni, os ydyn ni o ddifrif yn meddwl hynny pan fyddwn ni’n dweud wrthyn nhw ei bod hi’n ddrwg gennym.

  6. Felly, mae eira’n gallu gwneud i ni feddwl a chofio:

    – gwylio beth fyddwn ni’n ei ddweud a’i wneud, am fod rhywbeth bach rydyn ni’n ei ddweud neu ei wneud o’i le yn gallu tyfu’n fawr fel y gaseg eira a dynion eira mawr, mawr
    – dweud sori pan fyddwn ni’n dweud neu’n gwneud rhywbeth o’i le a fydd yn brifo teimladau pobl eraill.

Amser i feddwl

Gweddi

Diolch i ti, Dduw, am yr amser da y gallwn ni ei gael yn yr eira. Helpa ni i beidio â dweud a gwneud pethau na ddylem, a maddau i ni pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon