Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Neiniau: Ar gyfer Sul y Fam

Dathlu sgiliau y mae neiniau yn eu dysgu i ni.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu sgiliau y mae neiniau yn eu dysgu i ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Lluniau o anifeiliaid bach wedi’u gwau (Shamwaris) oddi ar y wefan http://www.gogo-olive.com/.
  • Gweill, edafedd, a rhywbeth sydd ar ganol cael ei wau.
  • (Dewisol) Set o 4 gweillen (e.e. ar gyfer gwau hosanau) a hosan ar ei chanol, efallai.
  • (Dewisol) Mapiau i ddangos ble mae Iwerddon, Ynysoedd Orkney, a Zimbabwe.

Gwasanaeth

  1. Sgwrsiwch am yr arferiad o roi cardiau ar Sul y Fam.
    Nodwch mai ffordd o ddangos gwerthfawrogiad am yr hyn y mae mamau’n ei wneud yw rhoi cerdyn neu anrheg ar Sul y Fam.

  2. Holwch y plant a oes unrhyw un yn anfon cerdyn at rywun arall ar Sul y Fam (Yr ateb yr hoffech chi ei glywed yn yr achos yma yw ‘i Nain’, a byddwch yn sensitif hefyd yn achos rhai plant sydd â llysfam.)

  3. Arweiniwch y sgwrs i drafod pa mor bwysig yw cyfraniad neiniau ym mywyd teuluol y plant.
    Soniwch fel mae llawer o neiniau’n helpu i ofalu am eu hwyrion a’u hwyresau os bydd angen i’r fam fynd i weithio.

  4. Adroddwch y stori ganlynol am nain a ddysgodd ei hwyres i wau.

    Mam i dad merch o’r enw Julie oedd Nain Olive, ac roedd hi’n byw yn Iwerddon. (Dewisol - nodwch ble mae Iwerddon ar y map.)

    Roedd ei hwyres, Julie, yn byw ar un o Ynysoedd Orkney. (Dewisol - nodwch ble mae Ynysoedd Orkney ar y map.)

    Bob tro y byddai Julie yn mynd ar ei gwyliau at Nain Olive, fe fyddai ei nain yn gwau neu’n gwnïo, neu’n gwneud rhyw waith crefft arall. Pan oedd Julie tua saith oed, fe ofynnodd i’w nain allai hi ei dysgu i wau. Fe hoffai Julie allu gwau pethau hardd fel roedd ei nain yn eu gwneud. Ond fe welodd Julie’n fuan fod yr hyn oedd yn edrych yn hawdd iawn i’w nain yn waith caled iawn iddi hi!
    Dangoswch y gweill a’r gwaith sydd gennych chi ar ganol ei wau. Daliwch y gweill mewn modd lletchwith,  a smaliwch eich bod yn cael tipyn o drafferth!

    Wrth i chi ddechrau dysgu gwau, fe allwch chi fynd yn rhwystredig yn hawdd iawn. Mae’n anodd gafael yn y gweill yn y ffordd iawn, rhaid canolbwyntio ar y pwythau rhag i chi eu colli, ac weithiau efallai bydd y gath yn penderfynu ei bod eisiau chwarae â’r belen wlân. Ac ar y dechrau roedd adegau pan oedd Julie’n mynd yn rhwystredig iawn fel hyn wrth ddysgu gwau. Ond roedd Nain Olive yn athrawes amyneddgar iawn.

    Erbyn hyn mae Julie wedi tyfu’n oedolyn ac mae’n byw ym mhen arall y byd. Mae’n gweithio yn Zimbabwe. (Dewisol - nodwch ble mae Zimbabwe ar y map.)

  5. Eglurwch mai gwlad dlawd iawn yw Zimbabwe, gwlad lle mae’n anodd iawn dod o hyd i waith, ac felly mae’n waith caled gofalu am eich teulu yno. Daeth Julie i adnabod llawer o ferched tlawd a oedd yn ei chael hi’n anodd bwydo’u teuluoedd ac i gael digon o arian i anfon eu plant i’r ysgol. Roedd hi’n awyddus iawn i’w helpu, ond sut y gallai wneud hynny?

    Un diwrnod, cafodd Julie y syniad yr hoffai hi ddysgu’r merched i wau, dysgu iddyn nhw’r sgil a ddysgodd hi gan ei nain. Dim ond y deunyddiau sylfaenol, gweill ac edafedd sydd ei angen i wau, ac mae’n bosib i unrhyw un, ar unrhyw adeg, yn unrhyw le yn y byd wneud hynny. Fe fyddai hynny’n gweddu i ffordd o fyw’r gwragedd hyn yn Zimbabwe.

    Dechreuodd Julie gyda grwp o chwech o ferched, a chafodd y chwech hwyl fawr wrth ddysgu’r sgil newydd. Erbyn hyn mae tua 50 o ferched yn ymwneud â’r project.

  6. Beth allen nhw ei wau a fyddai’n bosib ei werthu yn Zimbabwe, ac yng ngwledydd eraill Affrica, a hyd yn oed yn Iwerddon ac ar Ynysoedd Orkney?

    Nain arall Julie, Nain Nan, gafodd y syniad. Roedd hi’n hoffi gwau hefyd, ac roedd ganddi batrwm ar gyfer gwau hosanau. Yr unig wahaniaeth oedd bod yr hosanau’n cael eu gwau ar bedair gweillen yn hytrach na dwy. Tybed ydi hi’n anoddach gwau gyda phedair gweillen? (Dewisol - Dangoswch yr hosan sydd gennych chi ar ganol cael ei gwau ar bedair gweillen.) Ond credai Julie pe gallai hi helpu’r merched i feistroli’r grefft yma eto, fe allai hi gyflwyno rhai syniadau creadigol oedd ganddi hi iddyn nhw. A dyna beth mae’r merched yn ei wneud yno erbyn hyn.

    (Dangoswch rai o’r teganau sydd gennych chi wedi’u gwau.)

  7. Fe wnaethon nhw benderfynu eu bod eisiau enw ar eu  project newydd. Roedd Julie eisiau dangos ei gwerthfawrogiad o’i nain. Wedi’r cyfan, oni bai bod Nain Olive wedi ei dysgu hi i wau yn y lle cyntaf, fyddai Julie ddim wedi gallu dysgu’r grefft i’r merched a thrwy hynny helpu eu teuluoedd. Roedd yr enw ‘Olive’ yn ei hatgoffa hi o’r stori yn y Beibl am Noa a’r arch. Yn y stori honno, fe ddaeth y golomen yn ei hôl i’r arch ar ôl y dilyw gyda’r gangen yn ei phig a’r dail arni oddi ar yr olewydden. Roedd hynny’n arwydd o obaith y byddai bywyd yn gwella. Roedd Julie’n gobeithio y byddai bywyd y gwragedd hyn a’u teuluoedd, gyda help Duw, yn gwella’n fawr. A’r gobaith oedd y bydden nhw wedyn yn cael bwyd i’w fwyta a’r plant yn gallu mynd i’r ysgol.

    Felly, fe wnaethon nhw benderfynu ar yr enw Gogo Olive. ‘Gogo’ yw’r enw sy’n cael ei ddefnyddio yn Zimbabwe am nain,  ac mae’n enw sy’n cael ei ddefnyddio gyda pharch a hoffter. Fe wnaethon nhw roi enw ar y teganau bach roedden nhw’n eu gwau hefyd - Shamwaris - ystyr yr enw yw ‘ffrindiau’ yn iaith Shona, sef prif iaith gwlad Zimbabwe.

Amser i feddwl

Meddyliwch am eich nain neu eich mam.
Meddyliwch am ba sgiliau rydych chi wedi’u dysgu ganddi, sgiliau rydych chi’n falch ohonyn nhw.

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein mamau a’n neiniau.
Diolch i ti am eu rhan yn y ffordd rydyn ni’n cael ei magu.
Diolch i ti am yr holl sgiliau rydyn ni’n eu dysgu ganddyn nhw.
Rydyn ni’n gweddïo arnat ti i helpu Julie a’r merched yn Zimbabwe wrth iddyn nhw wau eu ‘shamwaris’ bach.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon