Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Da Bod Yn Fi Fy Hun: Pawb Yn Wahanol

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu’r ffaith ein bod i gyd yn wahanol, a bod gan bob un ohonom ein sgiliau a’n priodoleddau gwahanol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mwgwd pili-pala, mwgwd lindysyn.
  • Rhowch amser o flaen llaw i’r actorion ymarfer eu rhannau.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant nodi un peth y maen nhw’n ei hoffi amdanyn nhw’u hunain. Mae’n bosib i’r athrawon ymuno yma hefyd.

  2. Gofynnwch i’r plant nodi pwy y bydden nhw’n hoffi bod yn debyg iddo ef neu hi, pe baen nhw’n cael dewis.

  3. Dywedwch wrth eich cynulleidfa eich bod yn mynd i ddarlunio stori, a thra byddan nhw’n gwylio, rydych chi eisiau iddyn nhw ddyfalu beth yw’r neges yn y stori.

    Adroddwr: Un tro roedd lindysyn Danaus yn byw yn yr ardd (daw actor i mewn yn gwisgo mwgwd lindysyn).

    Lindysyn: Rydw i newydd gael breuddwyd. Roeddwn i’n breuddwydio fy mod i’n bili-pala hardd.

    Adroddwr: Roedd y lindysyn wedi clywed ei bod hi’n bosib i ambell lindysyn droi’n bili-pala. Wrth iddo gerdded am dro, ar hyd deilen werdd fawr, fe welodd forgrugyn.

    Lindysyn: Helo! Fe hoffwn i fod yn bili-pala.

    Morgrugyn coch: Pam?

    Lindysyn: Rydw i eisiau helpu i wneud yr ardd yn harddach trwy helpu i wasgaru paill a dod a mwy o liw i’r ardd. Fe hoffwn i fod yn bili-pala tlws. Rydw i eisiau hedfan. Ac rydw i eisiau bod yn hardd ac yna fe fydd pobl yn aros i edrych arna i.

    Morgrugyn coch (yn chwerthin yn gas): Ti! Dim ond creadur bach salw sy’n cropian wyt ti. Cropian yn araf wyt ti i fod i’w wneud. Bydd yn fodlon ar fod yn ti dy hun! Rho’r gorau i freuddwydio, neu fe fydd yr adar wedi dod ac wedi dy fwyta di.

    Adroddwr: Roedd y lindysyn yn teimlo’n ddigalon ar ôl i’r morgrugyn siarad ag ef fel hyn, ac aeth yn ei flaen at ddeilen arall. Yno fe welodd lindysyn du, ac fe soniodd wrth y lindysyn du am ei freuddwyd.

    Lindysyn: Helo lindysyn du! Rydw i wedi cael breuddwyd. Roeddwn i’n breuddwydio fy mod i’n bili-pala hardd.

    Lindysyn du: O, paid â breuddwydio, bydd yn fodlon ar fod yn ti dy hun! Cael dy siomi wnei di wrth freuddwydio. Does gen i ddim rhieni, a does neb wedi dweud wrthyf fi y gallaf fod yn bili-pala. Dal ati i gropian a mwynha dy hun. Paid â cheisio gwneud dim byd arall. Paid â cheisio hedfan. Dwyt ti ddim yn bili-pala.

    Adroddwr: Aeth y lindysyn yn ei flaen at ddeilen arall. Roedd cyngor ei ffrind wedi gwneud iddo feddwl. Pe byddai’n bili-pala, nid fo ei hun fyddai wedyn. Roedd yn breuddwydio am gael helpu’r planhigion, am gael gwneud yr ardd yn lle harddach, ac yn ddeniadol i bobl eraill. Roedd eisiau gwella ei hun, ond ar yr un pryd roedd eisiau bod yn fo ei hun. Hedfanodd pili-pala gwyrdd ato a glanio ar y ddeilen yn ei ymyl.

    Pili-pala gwyrdd:  Pam rwyt ti’n drist?

    Lindysyn: Fe hoffwn i fod yn bili-pala.

    Pili-pala gwyrdd: Pam?

    Adroddwr: Fe ddywedodd y lindysyn ei hanes wrth y pili-pala gwyrdd, a dyma beth ddywedodd y pili-pala gwyrdd wrtho . . .

    Pili-pala gwyrdd : Mae dy ffrindiau’n iawn. Am mai lindys wyt ti, rhaid i ti fod yn lindys. Ond nid dim ond bod yn lindys. Ie, rhaid i ti fod yn ti dy hun, ond paid â lladd dy freuddwyd. Paid â gwrthod y cyfle i dyfu. Trwy wneud dim rwyt ti’n bod yn oddefol a dwyt ti ddim yn bod yn ti dy hun felly. Yr hyn y mae angen i ti ei wneud yw dal ati i gropian a dal ati i ddod o hyd i fwyd da i’w fwyta, a dal ati i fwyta a bwyta. Yna, chwilia am le diogel i wneud crysalis i amddiffyn dy hun, ac aros. Fe gei di weld beth fydd yn digwydd wedyn. Dal i gredu y byddi di’n gallu bod yn bili-pala. Dal i gredu y byddi di’n gallu hedfan. Ond bydd yn ti dy hun.

    Adroddwr: Fe wrandawodd y lindysyn ar y pili-pala gwyrdd. Ddydd ar ôl dydd, fe fu’r lindysyn Danaus yn cropian ac yn chwilio am fwyd ac yn bwyta ac yn bwyta. Roedd yn gwneud ei orau i guddio rhag yr adar a fyddai’n hoffi gwneud pryd blasus ohono. Un diwrnod roedd yn teimlo’n barod i chwilio am le diogel i wneud crysalis i amddiffyn ei hun, a chysgodd yn drwm yn y crysalis. Aeth amser heibio ac yntau’n dal i gysgu yn ei gragen amddiffynnol. Yn araf, tra roedd yn cysgu, roedd wedi trawsffurfio i fod yn bili-pala hardd. Fe ddaeth ei freuddwyd yn wir. Roedd wedi troi i fod yn bili-pala Danaus plexippus lliwgar. Hedfanodd o gwmpas yr ardd, fe wnaeth y lle yn harddach, ac yn fwy na dim roedd yn ef ei hun ar ei orau.

  4. Trafodwch y wers yn y stori a pha mor bwysig yw ceisio dal ati bob amser. Anogwch y plant i fod yn fodlon bod yn ‘nhw eu hunain’ a gwneud y gorau o’r hyn sydd ganddyn nhw, ac yna fe fyddan nhw i gyd yn unigolion gorau posib.

Amser i feddwl

Gweddi

Annwyl Dduw, helpa fi i wybod beth yw fy ngallu,
fel na fyddaf yn wan wrth gynnig gwneud rhywbeth sydd angen cryfder i’w wneud;
a gwna fi’n gadarn, fel na fyddaf yn llacio fy ngwyliadwriaeth  
hyd yn oed os yw’n ymddangos fod buddugoliaeth yn sicr.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon