Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Wyl Hindwaidd Diwali

gan Caroline Donne

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar fuddugoliaeth goleuni dros y tywyllwch, y da dros y drwg, yng nghyd-destun gwyl blwyddyn newydd yr Hindwiaid, sef y Diwali.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddai’n ddefnyddiol i chi ymgyfarwyddo â’r ffeithiau canlynol am gefndir gwyl Diwali:
    -  Ystyr Diwali (Divali neu Deepavali) yw rhes o oleuadau. Mae’r Diwali yn wyl sy’n para o un i bum diwrnod. Bydd Hindwiaid a Sikhiaid yn dathlu’r wyl ar yr adeg o’r flwyddyn pan fydd hi’n noson dywyllaf y calendr lloerol.
    -  Yn achos llawer o Hindwiaid, gwyl blwyddyn newydd yw’r Diwali. Mae’n ddechrau blwyddyn newydd ym myd busnes, ac fe offrymir gweddïau i ofyn am fendith a blwyddyn newydd lwyddiannus.
    -  Bydd y defodau a’r dathliadau’n amrywio o ardal i ardal, ond bydd yr arferiad o oleuo lampau diva yn digwydd ym mhob man. (Yn draddodiadol bowlenni clai oedd y lampau diva wedi eu llenwi ag olew neu ymenyn toddedig, sy’n cael ei alw’n ghee, gyda wic cotwm ynddyn nhw i’w cynnau). Mae’r lampau’n cynrychioli goruchafiaeth y da dros y drwg, y goleuni dros y tywyllwch.
    -  Bydd dwy stori’n cael eu hadrodd yn aml: stori Rama a Sita yn dod yn ôl o Ayodhya ar ôl i Rama drechu’r diafol Ravana; a stori Lakshmi (duwies cyfoeth a llwyddiant), sy’n draddodiadol yn bendithio’r cartrefi lle bydd y lampau diva wedi cael eu goleuo i’w chyfarch.
  • Fe fydd arnoch chi angen lamp neu lampau diva. Mae’n bosib i chi wneud y rhain o flaen llaw fel gweithgaredd dosbarth. Gallwch ddefnyddio toes blawd a halen, clai, neu lwmp o plasticine. Rowliwch hwnnw’n bel a’i dynnu nes ei fod yn siâp fel wy. Defnyddiwch eich bawd i wneud pant yn y clai, neu’r toes, sy’n ddigon mawr i ddal cannwyll fach (tealight). Gwasgwch un pen i’r clai i wneud pig. Gwasgwch y gwaelod fel y bydd yn wastad a’r lamp yn sefyll ohoni ei hun. Gadewch y lamp i sychu a chaledu, a’i haddurno wedyn, a gosodwch gannwyll fach ym mhob lamp.
  • Neu, rhowch nifer o ganhwyllau ar stand a’i osod mewn lle amlwg.
  • (Dewisol) Gwnewch lwybr o lampau diva neu ganhwyllau yn nhu blaen y dosbarth/ neuadd neu i lawr canol neuadd yr ysgol.
  • Ceisiwch ddod o hyd i fersiwn ar gyfer plant o stori Rama a Sita, neu stori Lakshmi.

Gwasanaeth

  1. Meddyliwch am y gair ‘tywyllwch’ ac am lefydd sy’n dywyll. Gofynnwch i rai plant enwi llefydd tywyll: ystafell wely yn y nos, o dan y gwely, y stryd yn y nos ar yr adeg hon o’r flwyddyn, ogofau, y sinema cyn i’r ffilm ddechrau. Meddyliwch sut rydych chi’n teimlo pan fyddwch chi mewn llefydd tywyll: yn ofnus, yn unig, yn gynhyrfus, neu’n drist.

    Eglurwch ei bod hi’n bosibl i lefydd fod yn dywyll, ac fe all ein bywydau hefyd deimlo’n dywyll weithiau pan fyddwn ni’n ofnus, yn drist, neu pan fydd pethau drwg yn digwydd o’n cwmpas. A phan fydd pethau da yn digwydd, fe fydd ein bywydau’n teimlo’n olau braf, fel pe byddai rhywun wedi troi’r golau ymlaen.

    Meddyliwch am beth sy’n digwydd pan fyddwch chi mewn lle tywyll ac yn troi’r golau ymlaen. Meddyliwch am eiriau fyddai’n disgrifio’r teimlad hwnnw: diogel, gobeithiol, llawen.

  2. Eglurwch fod Hindwiaid, ledled y byd, yn cwrdd â’i gilydd ar yr adeg hon o’r flwyddyn i gymryd rhan mewn gwyl arbennig sy’n dathlu’r gred bod y da yn gryfach na’r drwg, ac maen nhw’n defnyddio goleuni i ddathlu’r gred hon.

    Enw’r wyl yw Diwali. Ystyr yr enw yw ‘rhes o oleuadau’. Gyda’r nos, fe fydd Hindwiaid yn goleuo lampau bach (o’r enw lampau diva) y tu mewn a thu allan i’w cartrefi, er mwyn dangos bod goleuni’n gryfach na’r tywyllwch, a bod y da yn gryfach na’r drwg. Fe fydd y bobl yn anfon cardiau at ei gilydd, yn rhoi anrhegion a melysion i’r naill a’r llall, ac fe fyddan nhw’n cwrdd yn y deml i weddïo ac i ddiolch.

    Eglurwch fod gwyl y Diwali yn ddechrau blwyddyn newydd i lawer o Hindwiaid hefyd, felly mae’n amser i feddwl am gynlluniau ar gyfer y misoedd sydd i ddod, i ddechrau o’r newydd, ac yn amser i fod yn obeithiol.

  3. Adroddwch un o storïau’r Diwali (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau). Os byddwch chi’n adrodd stori Rama a Sita, pwysleisiwch y pwynt mai stori yw hon sy’n dangos bod y da yn gryfach na’r drwg, am fod Rama a Sita wedi gallu trechu’r diafol drwg Ravana.

Amser i feddwl

Os ydych chi wedi goleuo canhwyllau neu lampau diva, trowch y goleuadau trydan i lawr, a chaewch y llenni os gallwch chi, er mwyn creu awyrgylch a gweld effaith y goleuni yn disgleirio yn y tywyllwch.

Awgrymwch fod y plant yn canolbwyntio ar y canhwyllau neu’r goleuadau, ac yn defnyddio’r geiriau canlynol er mwyn eu helpu i feddwl neu i weddïo am yr hyn y maen nhw wedi ei glywed.

Goleuni yn disgleirio yn y tywyllwch.
Mae goleuni yn cael gwared â’r tywyllwch.
Mae goleuni yn dod â gobaith.

Dduw y goleuni,
pan fydd pethau’n ymddangos yn anodd
neu pan fyddwn ni’n drist neu wedi dychryn,
helpa ni i gofio bod goleuni yn gryfach na’r tywyllwch,
ac mae’r da yn gryfach na’r drwg.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon