Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sut Y Gallwn Ni Drwsio Pethau?

Ystyried pa mor bwysig yw cymod mewn perthynas bersonol.

gan The Revd Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor bwysig yw cymod mewn perthynas bersonol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratoi cwis syml gydag ychydig o gwestiynau, ac atebion a), b) neu c) sy’n berthnasol i’ch cyd-destun (fel sydd i’w cael mewn cylchgronau). Fe allech chi ddewis tri phlentyn i’ch helpu chi gyda’r cwestiynau.

Gwasanaeth

  1. Tybed ydych chi wedi cweryla â rhywun, ryw dro? Gydag aelod o’ch teulu, efallai, neu gydag un o’ch ffrindiau? Efallai bod yr unigolyn hwnnw’n rhywun roeddech chi’n ei adnabod yn dda, neu efallai ei fod yn rhywun doeddech chi ddim yn ei adnabod o gwbl. Tybed sut roeddech chi’n teimlo?

    Pan fydd rhywbeth felly’n digwydd, ydych chi’n ei chael hi’n hawdd dod yn ffrindiau gyda’r unigolyn hwnnw eto, neu a fydd hynny’n anodd i chi?

  2. Mae gen i gwis bach ar eich cyfer.

    (i)    Fe aethoch chi i’r ysgol un diwrnod, a phan ddaethoch chi adref fe welsoch chi fod eich mam wedi bod yn tacluso eich ystafell wely. Roedd hi wedi taflu llythyr arbennig roeddech chi eisiau ei gadw. Roeddech chi’n ddrwg eich hwyl am hynny, ac fe wnaethoch chi ddangos hynny’n glir i’ch mam. Ymhen sbel, mae eich mam yn eich galw i gael bwyd. Beth fyddech chi’n ei wneud . . . ?

    a.  Gwrthod dod o’ch ystafell, does gennych chi ddim eisiau gweld eich mam, o gwbl.
    b.  Er yn anfodlon, rydych chi’n dod i lawr y grisiau, am eich bod yn meddwl bod yn rhaid i bawb fwyta.
    c.  Dweud, ‘Diolch, Mam, mae gen i eisiau bwyd, ac mae’n ddrwg gen i am weiddi arnoch chi gynnau?

    (ii)   Rydych chi’n clywed rhywun yn dweud rhywbeth cas amdanoch chi, ac yn sylwi nad yw eich ffrind yn dweud unrhyw beth i’ch cefnogi. Daw eich ffrind atoch chi ar ôl hynny i geisio egluro. Beth fyddech chi’n ei wneud . . . ?

    a.  Dweud wrth eich ffrind am fynd oddi wrthych chi.
    b.  Aros i roi cyfle i’ch ffrind, o leiaf,  geisio egluro.
    c.  Dweud, ‘Mae’n iawn. Rwy’n gwybod mai’r bachgen hwnnw oedd yn bod yn gas, ac nid ti.’

    (iii)  Mae eich chwaer wedi cael benthyg eich hoff CD, ac mae wedi ei rhoi yn ôl i chi - yn sgriffiadau i gyd. Mae hi’n cynnig prynu un arall ichi pan gaiff hi ei harian poced. Beth fyddech chi’n ei wneud . . . ?
    a.  Dweud wrthi ei bod yn chwaer annifyr, ac mai dyna’r tro olaf y byddwch chi’n rhoi benthyg unrhyw beth iddi!
    b.  Gwrthod siarad â hi, ond ar yr un pryd ei gwneud hi’n hollol amlwg eich bod yn anhapus â’r sefyllfa.
    c.  Derbyn ei chynnig a dweud, ‘Diolch yn fawr, rwy’n gwybod na wnest ti hynny’n fwriadol.’

    Gofynnwch am adborth gan eich cynulleidfa. Beth fydden nhw wedi ei wneud? Pwy oedd â’r rhan fwyaf o’r atebion yn a), b) neu c)? (Peidiwch ag anghofio cynnwys yr athrawon a’r gweithwyr ategol eraill sy’n bresennol, hefyd!) Eglurwch fod gan y rhan fwyaf ohonom lawer i’w ddysgu am beth sydd orau i’w wneud ar ôl i ni gweryla â rhywun.

  3. Pan fydd rhywun yn brifo’n teimladau, a ninnau’n teimlo’n ddig, mae’n gallu bod yn anodd iawn cael pethau’n ôl i’w lle wedi hynny. Gall ein cyfeillgarwch deimlo fel potel wydr sydd wedi torri’n ddarnau mân, a does gennym ni ddim syniad sut i ddechrau ei thrwsio.

    Mae Cristnogion yn credu bod Duw’n gallu trwsio perthynas sydd wedi torri, neu wedi chwalu, ac fe all ein helpu ni i wneud yr un peth. Mae’r dweud bod eisiau i ni beidio â digalonni a pheidio â rhoi’r gorau iddi. Mae’n dweud ei fod yn Dduw sy’n gallu dod â chymod. Mae hynny’n golygu y gallwn ni ofyn iddo fo ein helpu i gael pethau’n iawn eto..

    Y tro nesaf y byddwn yn cweryla, fe allwn ni gofio ei bod hi’n bosibl trwsio perthynas sydd wedi torri - does dim rhaid i bethau aros fel y maen nhw.

Amser i feddwl

Meddyliwch am foment sut brofiad yw pan fyddwch chi’n gorfod dweud wrth rywun ei bod hi’n ddrwg gennych chi.

Nawr, meddyliwch sut brofiad yw pan fydd pobl eraill yn dweud wrthych chi ei bod hi’n ddrwg ganddyn nhw.

Cofiwch y teimlad hwnnw heddiw.

Gweddi

Arglwydd Iesu, diolch dy fod ti’n gallu ein helpu i drwsio’r berthynas pan fyddwn ni’n cweryla â rhywun.
Helpa ni i allu dweud ei bod hi’n ddrwg gennym pan fyddwn ni wedi gwneud rhywbeth o’i le, a helpa ni i allu derbyn ymddiheuriad pobl eraill pan fyddan nhw wedi brifo’n teimladau ni.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon