Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Pryf Copyn Dyfal

Archwilio sut rydyn ni’n cyflawni pethau.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Archwilio sut rydyn ni’n cyflawni pethau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch stori Robert the Bruce a’r pryf copyn. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r fersiwn sy’n dilyn.
  • Fe allech chi baratoi arddangosfa, i’w rhoi ar y wal yn yr ysgol ar ôl y gwasanaeth, o rwyd gôl pêl-droed gyda lluniau pêl-droed wedi’u torri allan a’u lamineiddio, i’w defnyddio fel targedau i ysgrifennu arnyn nhw.
  • Dewiswch blentyn sy’n dda am allu cicio pêl-droed a’i chadw i fynd yn ei hunfan - ‘keep ups’, neu’n dda am allu taro pêl denis a’i chadw i fynd yn ei hunfan ar raced dennis - ‘hit ups’. Neu, fe allech chi ddefnyddio clip fideo o chwaraewr proffesiynol yn gwneud hyn (gwelwch adran 2).

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant beth fydden nhw'n hoffi gallu ei wneud? Gwnewch restr ar siart troi.

    Unwaith y mae'r rhestr wedi ei llunio, trafodwch pa dargedau sydd o fewn cyrraedd yn hawdd, neu a oes rhai sydd angen llawer o ymarfer cyn gallu eu cyflawni? I gyrraedd eich nod, fyddwch chi’n gorfod cymryd llawer o gamau bach ar y ffordd?

  2. Gwahoddwch blentyn sydd â sgiliau da gyda phêl neu raff sgipio i arddangos y rhain. Neu, gall blentyn sydd â sgiliau cerddorol neu sgiliau academaidd neilltuol arddangos ei ddawn i weddill y gynulleidfa.

  3. Gofynnwch pwy o’r gynulleidfa fyddai'n hoffi gallu gwneud hyn.

    Dewiswch rywun i ddod i’r tu blaen atoch chi i roi cynnig arni.

    Canmolwch y gwirfoddolwr am ei ymdrech, gais a gofynnwch beth fyddai ef neu hi angen ei wneud i fod cystal â'r un wnaeth arddangos y sgil yn y lle cyntaf. A fydd hynny'n cymryd llawer o amser neu dim ond ychydig o amser i ddysgu’r sgil?

  4. Trafodwch y ffaith bod rhai bwriadau'n cymryd blynyddoedd i'w cyflawni a’i bod hi'n ofynnol eu torri i lawr yn gamau llai cyn gallu eu meistroli. Er enghraifft, fe fyddai’n bosib dechrau ymarfer gwneud ‘kick ups’ fesul 10, yna 20, yna cynyddu’r nod nes cyrraedd 100 efallai, gyda rhai triciau arbennig yn cael eu hychwanegu.

    Trafodwch beth yw’r pethau a allai ein hatal rhag cyflawni'r camau bychan hyn (pethau eraill yn mynd â’n bryd , efallai, neu ddiflastod, meddwl ein bod yn sicr o fethu gan ein bod yn aflwyddiannus yn aml, anobaith, neu’n dweud wrthym ein hunain ei fod yn wastraff amser, neu ddim yn rhywbeth gwerth ei wneud).

  5. Pwysleisiwch pa mor bwysig yw dyfalbarhau. Gwnewch yn siwr bod pawb yn gwybod beth mae hynny'n ei olygu, yna adroddwch y stori wrthyn nhw am frenin yr Alban a'r pryf copyn.

    Brenin yr Alban yn ystod yr oesoedd canol oedd Robert Bruce (roedd yn frenin o 1306 hyd at 1329). Yn ystod ei deyrnasiaeth, roedd rhyfel yn bodoli rhwng yr Alban a Lloegr.  Trechwyd yr Alban bum gwaith gan Loegr (mae'r nifer o weithiau y cafodd ei gorchfygu yn amrywio mewn fersiynau gwahanol o'r chwedl).

    Yn dilyn y gorchfygiad diwethaf, fe ddihangodd Robert Bruce o’r Alban a chuddio mewn lloches ddiaddurn ar ynys oedd heb fod ymhell o arfordir gogledd Iwerddon.  Fe arhosodd yn y fan honno yn ystod un gaeaf hir ac oer.  Roedd ar ei ben ei hun. 

    Fe adroddir ei fod un diwrnod, pan oedd yn teimlo'n wangalon iawn, wedi gweld pryf copyn yn ceisio nyddu gwe rhwng dau drawst pren yn y lloches. Fe geisiodd y creadur bach daflu edefyn o un trawst i’r llall, nifer o weithiau, ond roedd yn methu bob tro. Heb ddigalonni, fe geisiodd unwaith eto, ac eto, ac eto, ond yn dal heb lwyddo. 

    ‘Pum gwaith y methodd y pryf copyn,’ dywedodd Bruce. ‘Dyna'r union sawl tro y mae'r Saeson wedi fy ngorchfygu i. Os oes gan y pryf copyn ddigon o ddewrder i ddal ati a cheisio eto, fe wnaf innau geisio fy ngorau eto i gael yr Alban yn rhydd!’

    Sylwodd eto ar y pryf copyn. Roedd yn aros am ychydig fel pe byddai'n casglu ei nerth ynghyd, ac yna fe daflodd ei edefyn tenau tuag at y trawst. Ac o’r diwedd, fe lwyddodd. 

    ‘I Dduw mae’r diolch!’ ebychodd Bruce. ‘Mae'r pryf copyn wedi dysgu gwers i mi. Fydda i byth eto’n digalonni.’

  6. Dangoswch y targedau pêl-droed sydd gennych chi wedi eu lamineiddio. Gofynnwch i’r plant feddwl am rywbeth y maen nhw’n dymuno ei gyflawni.

    Gofynnwch i ddau blentyn ddod allan ac ysgrifennu bwriad byrdymor ar y targedau pêl-droed. Yn dilyn y gwasanaeth, cadwch y targedau pêl-droed yn y golwg, a dywedwch wrth bawb o’r plant, pan fyddan nhw wedi cyflawni eu bwriadau eu hunain, y bydd yn bosib iddyn nhw ddod wedyn a rhoi pêl yn y gôl.

Amser i feddwl

Meddyliwch unwaith eto am y bwriad yr hoffech chi ei gyflawni.

Rydyn ni i gyd yn dymuno gallu gwneud y pethau na fedrwn eu gwneud, ond yr ydym yn sylweddoli hefyd y gall gwaith caled ac ymrwymiad fynd â ni ymhell ar hyd y ffordd i gyflawni'r sgiliau neu'r bwriadau hynny rydyn ni'n ceisio eu cyflawni?

Gweddi
Annwyl Dduw,
helpa fi i beidio â bod yn ddiamynedd a rhoi'r ffidil yn y to yn rhy fuan.
Helpa fi i ddyfalbarhau
fel y gallaf gyflawni fy mwriadau.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon