Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Corpus Christi

Meddwl am y pryd bwyd olaf a rannodd Iesu gyda’i ddisgyblion, a deall arwyddocâd arbennig y pryd bwyd hwnnw ar gyfer Cristnogion.

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am y pryd bwyd olaf a rannodd Iesu gyda’i ddisgyblion, a deall arwyddocâd arbennig y pryd bwyd hwnnw ar gyfer Cristnogion.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae gwyl Corpus Christi yn wyl Gristnogol i ddyrchafu'r Ewcharist (Cymun Bendigaid/Swper yr Arglwydd/y Sacrament Sanctaidd). Mae'n wyl symudol, yn cael ei chynnal ar y Dydd Iau yn dilyn Sul y Drindod. Bydd yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr yn dathlu Corpus Christi ar y Sul yn dilyn Sul y Drindod.
  • Dangoswch luniau o bobl yn rhannu pryd bwyd mewn gwahanol sefyllfaoedd – er enghraifft, mewn bwyty, mewn parti pen-blwydd, mewn priodas – dangoswch y llun enwog gan Leonardo da Vinci o’r Swper Olaf.
  • Mae’r geiriau a lefarodd Iesu yn y Swper olaf i’w gweld yn Efengyl Mathew 26.26–28.

Gwasanaeth

  1. Tybed faint ohonoch fydd wedi bwyta o leiaf un o'ch prydau bwyd heddiw ar eich glin o flaen y teledu? Efallai bod brecwast wedi bod fel yna - oni bai eich bod wedi dod i'r ysgol yn fuan ac wedi cael rhywbeth i'w fwyta yn y clwb brecwast.

    Mae pawb yn ymddangos yn brysur iawn y dyddiau hyn fel nad yw teuluoedd yn cael y cyfle bob amser i eistedd i lawr gyda'i gilydd ar adeg y pryd bwyd.

  2. Fe fydd yna adegau, fodd bynnag, pan fydd pob teulu, waeth pa mor brysur ydyn nhw, yn eistedd o gwmpas bwrdd i rannu pryd o fwyd. Gall hynny fod adeg pen-blwydd, yn ystod y Nadolig, Diolchgarwch neu Eid ul-Fitr; neu gall fod i ddathlu achlysur arbennig arall.

    Ar achlysuron felly byddwn yn cael y cyfle i sgwrsio, rhannu'r bwyd gorau y gallwn ei fforddio a mwynhau cwmni ein gilydd. Weithiau bydd y prydau bwyd yma yn dod yn bethau i'w cofio am flynyddoedd i ddod - efallai oherwydd y bobl oedd yno gyda ni neu oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd yr adeg honno.
  3. Roedd y pryd bwyd a rannodd Iesu gyda'i ffrindiau arbennig, y disgyblion, yn achlysur o'r fath. Cafodd y pryd bwyd ei gynnal mewn goruwch ystafell yn Jerwsalem. Roedd yn bryd bwyd i ddathlu gwyl y Pasg Iddewig. Rhoddodd y pryd bwyd yma gyfle i Iesu a'i ffrindiau neilltuo eu hunain rhag y torfeydd oedd yn dilyn Iesu ble bynnag y byddai'n mynd.  Roedd y disgyblion i gyd yno - hyd yn oed Jwdas, a fyddai yn ddiweddarach y noson honno yn bradychu'r Iesu i'r awdurdodau.

    Fe ddechreuodd y pryd bwyd mewn ffordd eithaf rhyfedd pan wnaeth Iesu, eu harweinydd, olchi traed pob un o'r disgyblion yn eu tro. Nawr, nid yw cael eich traed wedi eu golchi cyn pryd bwyd yn ddigwyddiad anghyffredin mewn gwlad boeth lle byddai pobl fel arfer yn gwisgo sandalau a byddai'r ffyrdd yn llychlyd - ond gwaith i'r gwas fyddai hynny, ac yn sicr ddim yn rhywbeth y byddai arweinydd yn ei wneud. 

    Fe eglurodd Iesu y dylai ei ddilynwyr feddwl am eraill yn fwy nag amdanyn nhw eu hunain. Ddylen nhw ddim ymddwyn fel eu bod yn gosod eu hunain yn well na phobl eraill, ond yn hytrach fe ddylen nhw wasanaethu a gofalu am y naill a'r llall yn union fel yr oedd ef newydd ei wneud.

  4. Yn ystod y pryd bwyd yma y soniodd Iesu am y modd y byddai'n cael ei ddal yn fuan a'i roi i farwolaeth. Fe ddywedodd hefyd y byddai un o'i ffrindiau a oedd yn yr ystafell, wedi cynllunio eisoes i'w drosglwyddo i'r awdurdodau a oedd yn chwilio am gyfle i'w arestio. Wedi dweud hynny, roedd yn awyddus i dreulio'r cyfnod arbennig yma gyda nhw i gyd.

    Yn ystod y pryd bwyd fe gymerodd Iesu fara, a rhoi diolch i Dduw amdano, ei dorri a'i rannu ymhlith ei ffrindiau. Wrth iddo ei roi iddyn nhw fe ddywedodd,  ‘Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.’ Yna fe arllwysodd win i gwpan, a rhoi diolch i Dduw amdano, a phasio'r cwpan i'r disgyblion.  Fe ddywedodd, ‘Dyma fy ngwaed, o'r cyfamod sydd yn cael ei dywallt dros lawer er maddeuant pechodau.’

  5. Er nad oedd y disgyblion wedi sylweddoli hyn ar y pryd, dyma'r pryd bwyd olaf y byddai Iesu yn ei gael yn eu cwmni gyda’i gilydd. Yn fuan byddai wedi cael ei arestio, ei guro, ei watwar gan ei elynion a'i roi i farwolaeth ar groes fel drwgweithredwr cyffredin. Dim ond yn ddiweddarach, pan atgyfododd Iesu oddi wrth y meirw, y gwnaethon nhw sylweddoli pa mor bwysig oedd y pryd bwyd olaf hwyrol, neu'r swper, hwnnw.

    Mae'r cyfan o'r eglwysi Cristnogol yn cofio am y pryd bwyd olaf hwnnw mewn gwasanaeth o'r enw ‘Swper yr Arglwydd’ neu'r ‘Cymun Bendigaid’ neu'r 'Ewcharist’. Mae'r rhai sydd yn cymryd rhan yn rhannu'r bara a gwin fel y gwnaeth Iesu'r noson honno, ac yn cofio am yr hyn a ddywedodd wrth ei ffrindiau. Nid yw pob eglwys yn dathlu'r achlysur yn yr un ffordd, ond i bob Cristion mae'n wasanaeth hynod o arbennig a difrifol.

  6. Yng ngwyl Corpus Christi, bydd Cristnogion yn rhoi diolch i Dduw am gorff Crist, yn enwedig am ei fod yn cael ei gynrychioli yn yr Ewcharist.  I'r Eglwys Gatholig Rufeinig, bydd gwyl Corpus Christi yn aml yn cael ei chadw trwy i aelodau’r eglwys gynnal gorymdaith trwy strydoedd y dref neu ddinas.

    Bydd offeiriad yn arwain yr orymdaith.  Bydd yn cario blwch arbennig o aur neu arian o'r enw 'monstrance', blwch sydd â bara a gwin ynddo a ddefnyddir yn y gwasanaeth Ewcharist.

    Ar ôl gorymdeithio trwy'r strydoedd, fe fydd aelodau'r eglwys o bosib yn dychwelyd i'r eglwys o ble roedden nhw wedi cychwyn yr orymdaith, neu fe fyddan nhw'n mynd i eglwys arall lle mae gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal.

  7. Pan fydd rhywun yn marw ac yn cael ei gladdu, bydd pobl yn aml yn ymweld â'r bedd wedyn – efallai y byddan nhw'n gosod blodau ar y safle, yn myfyrio'n dawel ar lan y bedd neu’n adrodd gweddi. Ond does dim man arbennig lle mae corff Iesu'n gorwedd, oherwydd cafodd ei gymryd yn ôl i'r nefoedd ddeugain niwrnod ar ôl iddo godi oddi wrth y meirw. Mae Corpus Christi yn rhoi cyfle i Gristnogion ganolbwyntio eu meddyliau ar gorff Iesu Grist.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y pryd bwyd yr ydych chi’n ei gofio fel adeg arbennig iawn.
Pwy oedd gyda chi?
Beth oedd yr achlysur?
Beth wnaeth yr achlysur yn un mor gofiadwy?

Edrychwch ar y llun o'r Swper Olaf gan Leonardo da Vinci.
Pa un ydych chi’n meddwl yw Iesu?
Sawl disgybl sydd yno?
Pa un ydych chi’n meddwl yw Jwdas?
Beth feddyliech chi y mae Iesu newydd ei ddweud wrthyn nhw?

Gweddi
Arglwydd Dduw,
diolchwn i ti am yr adegau arbennig rheini
y byddwn ni’n eu rhannu gyda'n teuluoedd a'n ffrindiau.
Diolch i ti am y bwyd y byddwn ni’n ei fwynhau ac am yr hwyl a gawn.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon