Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Tudalennau Gwag: Dewisiadau ar gyfer blwyddyn ysgol newydd

gan Alison Ball and Richard Seel

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i feddwl am y flwyddyn ysgol newydd sydd o’u blaen, ac am wneud dewisiadau cywir.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llyfr ysgrifennu (heb ysgrifen ynddo).
  • Siart troi, gyda dalen lân o bapur arni.
  • Lliain plastig i’w osod o dan y siart troi.
  • Ychydig o baent poster, du.
  • Naill ai:  set Chwarae yng nghwmni Duw (Godly Play) sy’n adrodd stori temtiad Iesu (Ar Google, chwiliwch am: ‘Godly Play temptation of Jesus’).
  • Neu: cyflwyniad PowerPoint gyda lluniau o anialwch, yr haul, lleuad, storm dywod, gerrig, mynydd, a Theml, ynghyd â lluniau o rai o brifddinasoedd y byd.
  • Efallai yr hoffech chi baratoi rhai o’r plant hynaf i ddarllen y sgript (gwelwch adran 3). Os felly, fe fyddwch angen tri darllenydd (i ddarllen rhannau’r Llefarydd, Iesu, a’r Diafol), a grwp bach o blant i fod yn sibrydwyr.
  • Mae stori temtiad Iesu yn Efengyl Mathew 4.1–11, Efengyl Marc 1.12–13 ac yn Efengyl Luc 4.1–13.
  • Trefnwch recordiad o’r gerddoriaeth ‘Promenade 2’, allan o Pictures at an Exhibition Mussorgsky (gwelwch yr adran ‘Amser i feddwl’). 

Gwasanaeth

  1. (Dangoswch y llyfr ysgrifennu, newydd, glân, sydd heb ysgrifen ynddo.) Pwy sydd wedi cael llyfr ysgrifennu newydd? 

    Trafodwch pa mor hyfryd yw cael llyfr newydd, glân, sy’n llawn tudalennau gwag; dyna deimlad braf oedd cael ysgrifennu eich enw’n daclus ar y clawr. 

  2. (Trowch at y siart troi, gyda’r ddalen lân o bapur arni.) Beth gawn ni ei roi ar y ddalen lân?

    Dychmygwch ein bod yn mynd i ddarlunio stori’r flwyddyn newydd hon yn yr ysgol, yr holl amser o heddiw ymlaen i’r gwyliau haf nesaf - pa fath o stori fydd hi?

    -  Fydd diwedd hapus iddi?
    -  Fydd adegau trist ynddi?
    -  Fydd y daith trwy’r flwyddyn yn anodd?
    -  Fydd gennych chi lawer o ddarluniau hardd?
    -  Fydd rhai rhannau’n gwneud i chi chwerthin?

    Beth fyddech chi’n hoffi ei weld ar y siart troi ar ddiwedd y flwyddyn?

    (Nodwch, mewn ysgrifen neu luniau, awgrymiadau’r plant, ac os bydd rhaid arweiniwch nhw i sôn am wneud y dewisiadau cywir ynghylch y pethau y gallan nhw eu gwneud er mwyn i’r flwyddyn fod yn flwyddyn dda.)

    -  Fydd y flwyddyn sydd i ddod yn un daclus neu’n un anniben? Fydd llawer o rwbio neu groesi’r testun neu’r lluniau, oherwydd eich bod wedi gwneud camgymeriadau?

    (Taflwch y paent du dros y siart troi!) Ein cyfrifoldeb ni yw hynny’n rhannol; fe allwn ni ddewis ydyn ni am wneud llanast o bethau ai peidio.

  3. Mae stori yn y Beibl am Iesu’n dechrau cyfnod newydd yn ei fywyd. Fel ninnau, mae ganddo dudalen lân a rhai penderfyniadau i’w gwneud.

    (Defnyddiwch y sgript sy’n dilyn; fe allwch chi ddarllen hon eich hunan neu ddewis rhai o’r plant hynaf i chwarae’r gwahanol rannau. Defnyddiwch ddelweddau PowerPoint addas os yw hynny’n bosib.)

    Llefarydd  Ar ôl i Iesu gael ei fedyddio, cafodd ei arwain gan yr Ysbryd Glân i’r anialwch. Mae’r anialwch yn lle peryglus; fydd pobl ddim yn dewis mynd yno oni bai bod rhaid iddyn nhw. Does dim bwyd yno, ac ychydig iawn o ddwr. Mae’n boeth iawn yno yn y dydd heb ddim cysgod rhag yr haul tanbaid. Ac mae’n oer iawn yn y nos, felly fe fyddech chi angen dillad cynnes. Ac mae’r tywod yn cael ei godi mewn stormydd nes ei fod yn llosgi eich llygaid a’ch croen.

    Wedi i Iesu dreulio 40 dydd a 40 nos yn yr anialwch, fe ddaeth y diafol ato a cheisio’i demtio.

    Sibrydwyr  Os mab Duw wyt ti  . . .

    Diafol  Os mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi’n fara.

    Llefarydd  Meddyliodd Iesu am foment. Roedd yn newynog iawn ac fe fyddai darn o fara’n dda. Ond fe ddywedodd Iesu:

    Iesu  Na! Mae wedi cael ei ysgrifennu, ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw ond ar bob gair sy’n dod allan o enau Duw.’

    Llefarydd  Yna fe aeth y diafol ag Iesu i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a’i osod ar ben y Deml yno gan ddweud wrth Iesu:

    Sibrydwyr  Os mab Duw wyt ti  . . .

    Diafol  Os mab Duw wyt ti, tafla dy hun i lawr; oherwydd y mae wedi cael ei ysgrifennu, fe fydd angylion Duw’n dy ddal di ac yn dy godi di.

    Llefarydd  Meddyliodd Iesu wedyn am foment. Pe byddai’n taflu ei hun o ben y Deml ac angylion Duw’n ei ddal a’i arbed, yna fe fyddai pobl yn dod i wybod amdano. Wedyn, fe fydden nhw’n ei ddilyn ac yn gwneud yr hyn y byddai’n ddweud wrthyn nhw. Ond fe ddywedodd Iesu:

    Iesu  Na! Mae wedi cael ei ysgrifennu, ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar brawf.’

    Llefarydd  Unwaith eto, fe gymerodd y diafol Iesu i ben mynydd uchel, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant, gan ddweud:

    Diafol  Os gwnei di  syrthio i lawr a dechrau fy addoli i, fe gei di fod yn frenin y rhain i gyd.

    Llefarydd  Meddyliodd Iesu eto am foment. Fe fyddai’n dda cael bod yn frenin a bod yn rymus a nerthol. Ond fe ddywedodd Iesu:

    Iesu  Na! Dos oddi yma! Mae wedi cael ei ysgrifennu, ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.’

    Llefarydd  Yna, fe aeth y diafol oddi wrth Iesu, ac fe ddaeth angylion Duw i ofalu amdano.

Amser i feddwl

Pa ddewisiadau wnewch chi yn y flwyddyn sydd i ddod?

–  Yn eich cyfeillgarwch?
–  Twyllo wrth chwarae?
–  Gwneud yr hyn mae eich athro neu eich athrawes yn gofyn i chi ei wneud?
–  Gwneud eich gwaith cartref mewn pryd?
–  Ufuddhau i reolau’r ysgol a’r dosbarth?

(Chwaraewch y gerddoriaeth ‘Promenade 2’ allan o Pictures at an Exhibition, gan Mussorgsky, sy’n para tua munud, wrth i’r plant fyfyrio’n dawel.)

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
diolch i ti am y dechrau newydd hwn.
Helpa ni i wneud y penderfyniadau iawn yn ystod y flwyddyn ysgol sydd i ddod.
Helpa ni i fod yn ffrindiau da.
Helpa ni i helpu’r naill a’r llall.

Cân/cerddoriaeth

‘Promenade 2’ gan Mussorgsky allan o Pictures at an Exhibition

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon