Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhannwch Eich Llwyddiant

Stori Olympaidd

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i lawenhau yn llwyddiannau’r naill a’r llall.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Ydych chi’n gwybod y stori am y dwylo a’r bol? Wel, un diwrnod, roedd Dwylo wedi blino ac yn genfigennus o Bol. Nhw, y Dwylo, oedd yn gorfod gwneud y gwaith i gyd. Nhw oedd yn gorfod codi’r bwyd i’r Geg, tra roedd Bol yn gwneud dim ond mwynhau’r bwyd hyfryd oedd yn cael ei fwydo iddo.

    ‘Pam mai ni sy’n gorfod gwneud y gwaith i gyd?’ gofynnodd y Dwylo i’w gilydd, ‘dydi Bol yn gorfod gwneud dim ond eistedd yn ôl a mwynhau!’ Felly, fe aeth y Dwylo ar streic. Fe wnaethon nhw stopio estyn y bwyd, stopio codi’r bwyd. Doeddwn nhw ddim yn torri’r bwyd nac yn ei godi i’r Geg.

    Wrth gwrs, roedd Bol yn cwyno ac yn protestio, ond roedd Dwylo’n benderfynol o beidio â rhoi bwyd i Bol.

    Allwch chi ddyfalu beth ddigwyddodd wedyn? Fe aeth Bol yn newynog, ac roedd arno eisiau bwyd yn ofnadwy. Aeth Bol yn wannach ac yn wannach, ac yn llai ac yn llai. Ac fel roedd Bol yn mynd yn llai roedd Dwylo hefyd yn mynd yn wannach ac yn wannach, nes yn y diwedd roedd Bol a Dwylo mor wan doedden nhw’n gallu gwneud dim. Doedd Dwylo erbyn hyn ddim yn gallu symud o gwbl. Ac erbyn hynny roedd hi’n rhy hwyr.

    Dyna drueni! Biti na fydden nhw wedi gweld bod ar y naill angen y llall. Roedden nhw angen ei gilydd i ddal ati.

  2. Mae gen i stori arall hefyd, mae hon yn stori hyfryd, am ddau athletwr Olympaidd o Japan. Roedd y ddau hyn yn gwybod yn union sut i gydweithio a rhannu â’i gilydd.

    Yng Ngemau Olympaidd, Berlin, yn y flwyddyn1936, fe ddaeth dau gystadleuydd o Japan yn gydradd ail yn y gystadleuaeth naid bolyn. Eu henwau oedd Shuhei Nishida a Sueo Oe. Fe gawson nhw gynnig cystadlu yn erbyn ei gilydd wedyn er mwyn penderfynu pa un o’r ddau fyddai’n ennill y fedal arian, a’r llall yn cael y fedal efydd. Ond am eu bod yn ffrindiau, ac roedd gan y ddau barch mawr i’w gilydd, fe benderfynodd y ddau doedden nhw ddim eisiau gwneud hynny. Ac er mwyn cadw at drefn y Gemau Olympaidd, fe gytunodd Oe i gymryd y fedal efydd gan adael i Nishida dderbyn y fedal arian.

    Wedi iddyn nhw fynd yn ôl i Japan, fe awgrymodd gweddill aelodau’r tîm beth fyddai’n bosibl iddyn nhw ei wneud. Fe gawson nhw ofaint aur ac arian i dorri’r ddwy fedal yn eu hanner ac uno hanner un fedal gyda hanner y fedal arall, a chreu felly ddwy fedal oedd yn hanner arian a hanner efydd. Fe wnaethon nhw alw’r medalau hynny’n ‘Fedalau Cyfeillgarwch’. 

    Dyna drueni na fyddai Bol a Dwylo wedi gallu meddwl fel hyn! 

Amser i feddwl

Pwy fyddech chi’n hoffi rhannu medal gydag ef neu hi?


Am beth fyddech chi’n ennill y fedal honno?

Gweddi
Arglwydd,
helpa fi i fod yn falch pan fydd rhywun arall yn llwyddo.
Helpa fi hefyd i rannu ag eraill y pethau rydw i’n dda am eu gwneud.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon