Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rosh Hasanah

Y Flwyddyn Newydd Iddewig

gan Manon Ceridwen Parry

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dysgu am yr wyl Iddewig 'Rosh Hashanah', a meddwl am y modd y mae gwahanol synau yn gwneud i ni feddwl am wahanol bethau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae'r wyl hon yn ddathliad o'r Flwyddyn Newydd Iddewig ac yn draddodiadol yn atgof blynyddol o greu Adda ac Efa.  Mae'r wyl hefyd yn nodi dydd o farnu. Mae'r dyddiad yn symudol. Mae'n digwydd ar ddydd cyntaf y mis 'Tishri' ac yn rhoi cychwyn ar ddeg diwrnod o edifeirwch cyn 'Yom Kippur'.
  • I'w harddangos: afalau a phot o fêl. Efallai y bydd modd i chi gael gafael ar 'shofar' o'ch canolfan Addysg Grefyddol leol, neu mae digon o luniau o rai i’w cael mewn llyfrau ac ar y we.
  • I'w clywed:  nifer o synau cyferbyniol, er enghraifft, cerddoriaeth fywiog a cherddoriaeth dawel, neu driongl a drwm, neu seiren a chri babi (gweler rhan 6), a pheth cerddoriaeth dawel i orffen (gweler yr adran ‘Amser i feddwl’). Gall fod aps gyda seiniau neu synau ysgogol ar IPods neu ffonau.

Gwasanaeth

  1. Trafodwch y traddodiadau Blwyddyn Newydd y mae’r disgyblion yn eu cadw - traddodiadau teuluol neu draddodiadau sy'n rhan o'u diwylliant. Fyddan nhw, er enghraifft, yn gwneud addunedau Blwyddyn Newydd? Ydyn nhw neu eu teuluoedd yn cynnal partïon Blwyddyn Newydd?

    Ydyn nhw'n gwybod am unrhyw draddodiadau eraill? Efallai eu bod yn canu cân arbennig, er enghraifft, ‘Auld lang syne’, ac yn cyfri'r eiliadau sy'n weddill o'r hen flwyddyn cyn i’r cloc daro hanner nos, ac yn y blaen.

  2. Eglurwch fod yr wyl Iddewig ar gyfer y Flwyddyn Newydd yn cael ei chynnal fel arfer ym mis Medi, nid ym mis Ionawr, a'i bod yn rhoi cychwyn ar y deg diwrnod sy'n arwain at 'Yom Kippur', Dydd y Cymod.

    Mae hwn yn gyfnod arbennig i'r Iddewon. 'Yom Kippur' yw'r dathliad mwyaf arbennig o holl wyliau'r Iddewon, felly mae angen llawer o waith paratoi ar ei chyfer.

  3. Mae'r Iddewon yn credu bod Duw yn edrych i lawr arnyn nhw ar wyl 'Rosh Hashanah' er mwyn cael gweld a ydyn nhw wedi gwneud pethau da neu bethau drwg yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Mae ganddyn nhw ddeg diwrnod i 'edifarhau' (neu newid cyfeiriad, yn llythrennol) a bod yn dda. Ar 'Yom Kippur', sef Dydd y Cymod, os ydyn nhw wedi gwneud ymdrech galed i fod yn dda, a dod yn gyfeillgar gyda phobl y maen nhw wedi cweryla â nhw, fe fyddan nhw'n cael maddeuant. 

  4. Yn ogystal â storïau neilltuol, mae hefyd arferion neilltuol yn gysylltiedig â’r wyl. Bydd afalau a mêl yn cael eu bwyta ar 'Rosh Hashanah', ac yn cael eu rhoi i aelodau’r teulu ac i ffrindiau. Caiff y pethau melys hyn eu rhoi a'u bwyta oherwydd bod y bobl eisiau melyster a hapusrwydd yn eu bywydau yn y flwyddyn sydd i ddod, ac maen nhw'n dymuno hynny i eraill hefyd. 

  5. Y 'shofar' – corn arbennig (corn hwrdd) – caiff y corn hwn ei ganu mewn gwasanaethau 'Rosh Hashanah'. Mae ei swn i fod i alw pawb yn ôl at Dduw. 

    Hen offeryn yw'r 'shofar'. Yn yr amseroedd a fu, roedd yn datgan fod brenin wedi cyrraedd. Roedd yn hawdd adnabod ei sain neilltuol. Roedd hyn yn bwysig oherwydd byddai'n ofynnol i bobl wneud eu hunain yn barod pan oedd brenin yn cyrraedd. 

    Roedd yn ofynnol iddyn nhw hefyd fod yn barod ar gyfer Duw, fyddai'n barnu eu hymddygiad – hynny yw, byddai'n penderfynu naill ai eu bod yn dda neu wedi bod yn ddrwg. Mae'r Iddewon yn gyfarwydd â sain y 'shofar' ac fe fyddan nhw'n ei gysylltu â'r Flwyddyn Newydd, a chyda'r weithred hon o farnu. 

  6. Mae gan bob un ohonom rai synau arbennig sy'n ein hatgoffa o wahanol bethau. Trafodwch gyda'r plant sut y mae gwahanol synau yn gwneud iddyn nhw deimlo (bydd hyn yn dibynnu ar y pethau rydych chi wedi dod â nhw gyda chi i'r gwasanaeth). Er enghraifft:
    -  bydd curiad drwm yn eich annog i ddawnsio
    -  bydd cerddoriaeth freuddwydiol yn ein gwneud ni'n gysglyd
    -  bydd cri baban yn ein gwneud ni'n bryderus
    -  bydd seiren yn gwneud i ni deimlo'n anesmwyth rhag ofn bod rhywun wedi cael anaf.

    (Bydd unrhyw synau ysgogol yn addas - y syniad yw trafod sut y mae synau yn gallu gwneud i ni deimlo pethau gwahanol.)

    Atgoffwch bawb unwaith yn rhagor bod sain y 'shofar' yn atgoffa'r Iddewon o'r angen i droi at Dduw ac edifarhau am y pethau y maen nhw wedi eu gwneud sydd ddim yn iawn.

Amser i feddwl

Chwaraewch ychydig o gerddoriaeth fyfyriol. Dywedwch fod hyn yn ein helpu i fod yn llonydd ac yn ein helpu i feddwl.

Anogwch y plant i ddefnyddio'r ychydig funudau sy'n dilyn i feddwl am y pethau hynny maen nhw'n eu gwneud sydd ddim yn iawn, a sut y byddan nhw'n gwella eu ffyrdd.

Gweddi
Ein Harglwydd Dduw,
helpa ni i barchu eraill, a pharchu ein hunain.
Helpa ni i ofalu am eraill, a gofalu amdanom ein hunain.
Helpa ni i edifarhau pan fyddwn ni wedi gwneud cam ag eraill, a helpa ni i wneud iawn am hynny.
A gad i’n blwyddyn gael ei llenwi â melyster
i ni ein hunain, i’n ffrindiau ac i’n teuluoedd.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon