Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Joseff A'r Crochenydd

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Gwasanaeth yn seiliedig ar y Gemau Olympaidd er mwyn symbylu’r plant i fod yn ddewr er gwaethaf rhwystrau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ar gyfer rhan 3, fe fydd arnoch chi angen: 
    bowlen neu fâs addurnedig o grochenwaith
    lwmp o gai, neu lun clai crochenydd.
  • Caiff stori Joseff ei hadrodd yn Genesis 37—50. Fe welwch eiriau Joseff i’w frodyr yn Genesis 50.20.

Gwasanaeth

  1. Mae Duw bob amser eisiau’r gorau i ni. Fydd Duw ddim eisiau i bethau drwg ddigwydd i ni. 

    Ond weithiau, fe fydd yn defnyddio adegau anodd i’n gwneud ni’n bobl well ac yn bobl fwy cariadus. 

  2. Yn stori Joseff yn y Beibl, mae Joseff yn gwybod sut deimlad yw wynebu anawsterau mawr. Joseff yw hoff fab ei dad - ac mae ei dad yn rhoi cot liwgar iddo i’w gwisgo. Ond mae ei frodyr yn genfigennus, ac maen nhw’n gwerthu Joseff fel caethwas er mwyn cael ei wared.

    Caiff Joseff ei gymryd i wlad yr Aifft, lle mae’n cael bai ar gam a’i garcharu am rywbeth na wnaeth. Ymhen amser, mae’n helpu’r Brenin - y Pharo - trwy egluro ystyr dwy o freuddwydion y brenin. Mae Pharo’n rhoi gwaith iddo ofalu am y cnydau yng ngwlad yr Aifft, oherwydd ei bod yn gyfnod o newyn yno, ac mae Joseff yn gallu cadw’r Pharo a’i deulu rhag newynu.

  3. Dangoswch y fâs neu’r fowlen. Nodwch pam rydych chi’n hoffi’r darn crochenwaith hwn.

    Wedyn, dangoswch y lwmp clai, neu’r llun o glai’r crochenydd. Dywedwch fod eich fâs neu’r fowlen wedi dechrau fel hyn. Ond, beth oedd wedi digwydd i’r clai yn y broses o’i wneud yn fâs neu’n fowlen hardd?

  4. Adroddwch yr hanes am y dyn a welodd fâs ryfeddol mewn siop. Wrth iddo ei chodi, fe ddechreuodd y fâs siarad ag ef. Fe ddywedodd, ‘Dydw i ddim wedi bod yn fâs o’r dechrau. Sbel yn ôl, dim ond lwmp o glai oeddwn i, clai wedi’i gymryd o’r ddaear. Un diwrnod, fe ddaeth rhywun heibio, fe wnaeth fy nghodi, fy rowlio, fy ngwasgu a’m taro’n galed. “Hei!” gwaeddais, “Peidiwch! Gadewch lonydd i mi!” 

    Ond fe wenodd y crochenydd a dweud yn garedig, “Ddim ar hyn o bryd!” 

    Yn sydyn fe gefais fy nhaflu ar olwyn, neu drofwrdd, ac roedd honno’n troi ac yn troi. “Help!” gwaeddais, “Stopiwch yr olwyn. Dw i’n teimlo’n sâl!” 

    ‘Ddim ar hyn o bryd!’ meddai eto. A gadael i mi droi yn fy unfan wnaeth y crochenydd, rownd a rownd, gan wthio’i fysedd i’m canol, a dal ei ddwylo fel cwpan amdanaf i fy siapio. 

    O’r diwedd, fe stopiodd. Diolch byth, roeddwn i’n meddwl bod y driniaeth drosodd wedyn. Ond beth wnaeth o ar ôl hynny? Fy rhoi i mewn popty neu ffwrn. Fues i erioed mewn lle mor boeth! Roeddwn i’n gweiddi dros y lle, “Gadewch fi allan oddi yma!” Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n mynd i farw. 

    Pan oeddwn i’n meddwl na allwn i ddioddef dim mwy fe agorodd y drws. Gafaelodd y crochenydd ynof yn ofalus a’m gosod ar silff. Doeddwn i ddim mor boeth yno. Dyna ryddhad! 

    Ond doedd dim llonydd i’w gael, nid dyna’r diwedd. Wedi i mi oeri, cefais fy nghodi eto a phaentiodd y crochenydd rywbeth fel paent clir drosof fi oedd ag arogl cryf arno. “O, plîs, rhowch y gorau iddi, yn wir,” cwynais. 

    ‘“Ddim ar hyn o bryd,” meddai’r crochenydd eto gan ysgwyd ei ben. “Aros am funud.” Ac yna fe roddodd fi yn ôl yn y popty. Y tro hwn roedd yn boethach fyth. Roeddwn i eisiau begio arno i fy nhynnu allan o’r popty poeth, ond doeddwn i ddim yn gallu dweud dim. Roeddwn i wedi mynd i deimlo’n hollol ddiobaith y tro hwn. Ond yn sydyn, fe agorodd y crochenydd y drws a’m tynnu allan a chefais fy rhoi ar y silff eto i oeri.

    Beth fyddai’r crochenydd yn ei wneud nesaf? Y diwrnod canlynol teimlais ei ddwylo’n gafael ynof fi’n ofalus ac yn fy nhroi wrth edrych arnaf. Edrychodd arnaf am hir gan wenu, ac fe glywais ei lais yn dweud, “Rwyt ti’n hardd iawn.” Roedd y crochenydd wrth ei fodd.’ 

  5. Fe ddigwyddodd sawl peth brawychus i’r lwmp hwnnw o glai cyn iddo ddod yn fâs brydferth. Fe ddigwyddodd sawl peth drwg i Joseff, ond fe ddywedodd wrth ei frodyr, ‘Yr oeddech chi’n bwriadu drwg yn fy erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni ....’

Amser i feddwl

Efallai bod pob un ohonom wedi cael profiad o rywbeth anodd yn digwydd i ni yn ein bywyd. Mae’n bosib fod rhai anawsterau gan bawb. Ond, os gwnawn ni ymddiried yn Nuw, fe fydd ef yn gallu dod â rhyw dda allan o’r anawsterau hynny.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Ti yw’r crochenydd,
fi yw’r clai.
Pan fydd pethau drwg yn digwydd,
helpa fi i ymddiried y byddi di’n gallu gwneud i rywbeth da ddod allan o’r pethau hynny.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon