Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Daliwch Ati!

Annog y plant i ddal ati, hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Annog y plant i ddal ati, hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Byddai geiriadur yn debyg o ddiffinio’r gair ‘dyfalbarhad’ fel: y rhinwedd o ddal ati i geisio cyflawni nod neilltuol er gwaethaf anawsterau.

    Mae dyfalbarhau yn anodd. Mae’n golygu peidio â rhoi’r gorau iddi hyd yn oed pan fyddwn ni’n wynebu anawsterau mawr. Mae dywediad Saesneg cyfarwydd da sy’n dweud: ‘When the going gets tough, the tough get going’!

    Yn ein bywyd ysgol ac yn ein bywydau y tu allan i’r ysgol, fe fydd pob un ohonom yn dod ar draws adegau pan fydd pethau’n anodd i ni. Yna, fe fydd yn rhaid i ni benderfynu ydyn ni’n rhoi’r gorau iddi neu’n dal ati ac yn dyfalbarhau? 

    Y mis diwethaf roeddem yn meddwl am y flwyddyn ysgol newydd; nod y gwasanaeth heddiw yw eich annog i ddal ati. Efallai y byddwch chi’n dod wyneb yn wyneb ag anawsterau yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn. Fe allai rhai ohonoch chi deimlo bod chwaraeon yn anodd, efallai y bydd rhai eraill yn gweld y gwaith academaidd yn anodd, efallai y bydd rhai’n cael anhawster i wneud ffrindiau. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi! Daliwch ati, gan ddyfalbarhau.

  2. Mae’r clip fideo yn dangos athletwr ifanc, Derek Redmond, a oedd wedi ymarfer ar hyd ei fywyd ar gyfer y ras rydych chi’n mynd i’w gweld nawr. (Y dyn sydd i’w weld ar y trac yn ei ymyl yw ei dad). (Dangoswch y clip fideo – gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)

    Yn y clip, mae tad Derek Redmond yn dod o’r dyrfa i helpu ei fab gyflawni ei nod o groesi’r llinell derfyn. 

  3. Yn ein bywydau, fe fyddwn ninnau angen help ambell dro i ddal ati. Fyddwch chi byth yn gwybod pryd y bydd hi efallai’n dro i chi fod angen help eraill. Felly, gadewch i ni annog ein gilydd i ddal ati er mwyn cyflawni ein nod. 

  4. Mae llawer o adnodau yn y Beibl sy’n sôn am ddyfalbarhau. Dyma dair enghraifft:

    –  ‘... yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr ...’ (Philipiaid 3.14).’
    –  ‘... oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw’r gallu i ymddál, ac o’r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith’ (Rhufeiniaid 5.3).
    –  ‘Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi’r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo.’ (Galatiaid 6.9).

Amser i feddwl

Dyma rai dyfyniadau eraill am ddyfalbarhad hefyd. Fe wnaf eu darllen, ac oedi am ysbaid ar ôl pob un, i roi cyfle i chi feddwl am eu hystyr.

‘Roedd y dderwen fwyaf, un tro, yn fesen fach a ddaliodd ei thir’ - ‘The greatest oak was once a little nut that held its ground.’ (awdur anhysbys)

‘Pan fydd y byd yn dweud, “Rwy’n rhoi’r gorau iddi,” mae gobaith yn sibrwd, “Rho un cynnig arall arni.”’ - ‘When the world says, “Give up”, Hope whispers, “Try it one more time.”’ (awdur anhysbys)

Dyma ddyfyniad arall Saesneg o eiddo dyn o’r enw Josh Billings: ‘Consider the postage stamp: its usefulness consists in the ability to stick to one thing till it gets there.’ O’i gyfieithu: ‘Ystyriwch y stamp postio: mae ei ddefnyddioldeb yn ymwneud â’r gallu i lynu wrth un peth nes mae’n cyrraedd y nod’.

A dyma beth ddywedodd Albert Einstein, un tro, ‘It’s not that I’m so smart, it’s just that I stay with problems longer.’ Eto, o’i gyfieithu: ‘Nid fy mod mor graff â hynny, dim ond fy mod yn oedi’n hwy gyda phroblemau.’

                                                                             

Gweddi
Annwyl Dduw,
weithiau mae’n anodd dal ati pan fyddwn ni’n teimlo bod pethau’n anodd,
neu pan fydd pethau’n ymddangos eu bod yn mynd o chwith.
Helpa ni beidio â rhoi’r gorau iddi, ond dyfalbarhau bob amser.
Helpa ni i fod yn bobl sy’n annog eraill i ddal ati,
am fod nod pob un ohonom mewn bywyd yn wahanol.
Diolch nad wyt ti byth yn rhoi’r gorau i ofalu amdanom ni.

Cân/cerddoriaeth

When the going gets tough’ gan Billy Ocean (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’)

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon