Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Al-Hijra

Meddwl beth yw ystyr ‘cymuned’, a meddwl am ddechreuad y grefydd Islam.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl beth yw ystyr ‘cymuned’, a meddwl am ddechreuad y grefydd Islam.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bwrdd gwyn a phinnau ysgrifennu.
  • Y gair ‘cymuned’ wedi’i ysgrifennu ar y bwrdd gwyn.
  • Map o Saudi Arabia.
  • Bathodyn yr ysgol. 

Gwasanaeth

  1. Heddiw rydyn ni’n mynd i feddwl am ystyr y gair ‘cymuned’.

    Beth mae pobl yn ei feddwl pan fyddan nhw’n sôn am ‘gymuned’?

    (Ceisiwch gael y plant i awgrymu rhywbeth tebyg i’r diffiniad cyntaf hwn.) Fe allech chi ddisgrifio cymuned fel grwp o bobl sy’n byw gyda’i gilydd mewn un lle neu un ardal, ac sy’n rhannu gwasanaethau cyffredin. 

  2. (Dangoswch fathodyn yr ysgol.) Mae’r ysgol hefyd yn gymuned. 

    Ail ystyr i’r gair cymuned yw grwp o bobl, o bob oed, sy’n dod ynghyd gyda’r un nod. Yn achos yr ysgol, y nod yw addysg, a dysgu hefyd sut i fyw gyda’n gilydd a pherthyn. (Fe allech chi sôn am ethos yr ysgol yma.) 

  3. A hyd yn oed o fewn yr ysgol, mae yma gymunedau.

    (Gofynnwch i’r plant godi ei dwylo i ymateb i’r cwestiynau canlynol, fesul un.)

    Oes gennym ni gymuned o bobl yn yr ysgol sy’n hoffi chwaraeon?
    Oes gennym ni gymuned o bobl yn yr ysgol sy’n hoffi cerddoriaeth?
    Oes gennym ni gymuned o bobl yn yr ysgol sy’n hoffi llyfrau?

    (Ychwanegwch unrhyw gwestiynau eraill a fyddai’n berthnasol i’ch ysgol chi.)

    Felly, mae gan y gair cymuned drydydd ystyr: pobl sy’n dod at ei gilydd am eu bod yn rhannu’r un diddordebau.

    Mae’n dda cael ffrindiau sy’n mwynhau’r un pethau ag rydyn ni’n eu mwynhau.

    (Os yw eich ysgol yn ‘ysgol gymuned’ yna fe allech chi sôn am y clybiau neu’r cymdeithasau sy’n defnyddio’r adeilad ac yn rhannu’r un cyfleusterau neu’r gwasanaethau sydd ar gael yno.)

    Mae’r gair ‘cymuned’, A’R GAIR Saesneg ‘community’, yn dod o’r gair Lladin communis. (Ysgrifennwch hwn ar y bwrdd gwyn.) Ystyr y gair yw ‘yn gyffredin’, ‘yn perthyn i fwy nag un’, neu 'cyffredinol’.

  4. Gannoedd o flynyddoedd yn ôl roedd cymuned yn byw mewn lle o’r enw Mecca yng ngorllewin Arabia (Saudi Arabia heddiw). (Chwiliwch am Mecca ar fap o Saudi Arabia. Os yw amser yn caniatáu, fe allech chi sôn yn fyr am ddaearyddiaeth ffisegol y wlad.)

    Roedd Mecca’n ddinas sanctaidd iawn i lawer o lwythau Arabaidd. Roedd gan y bobl yn ninasoedd, trefi a phentrefi gorllewin Arabia lawer o bethau’n gyffredin. Roedd y tir yn llwm ac yn ddiffrwyth yn y rhan fwyaf o’r llefydd. Roedd yr hinsawdd yn boeth a sych iawn. Doedd dim llawer o ddwr yno.

    Ond eto, yn achos y bobl, roedd llawer o bethau’n wahanol. Roedd y bobl yn dod o nifer o wahanol lwythau, ac roedden nhw’n dilyn gwahanol grefyddau. Roedden nhw’n addoli duw goruchaf, ond hefyd roedden nhw’n addoli llawer o wahanol ddelwau a duwiau eraill. Doedd dim llawer o ysbryd cymuned yno.

    Fe fyddai’n llwythau’n cweryla’n ddi-baid am bob math o bethau, o gamelod i dduwiau.

  5. Dros 1400 o flynyddoedd yn ôl, roedd dyn ifanc o’r enw Mohammed yn byw yn Mecca gyda’i ewythr. Roedd Mohammed yn treulio oriau lawer ar ben ei hun, yn myfyrio ac yn ceisio dod i adnabod Duw a dod i wybod am y gwirionedd. Roedd eisiau dod ag unoliaeth i’r llwythau. Roedd eisiau datblygu synnwyr o gymuned. Roedd Mohammed yn credu mai dim ond un Duw (Allah) oedd yn bod, ac fe aeth o gwmpas yn sôn am hynny. 

    Oherwydd ei fod â diddordeb mewn pethau ysbrydol, cafodd Mohammed ei alw’n broffwyd - proffwyd yw rhywun sy’n clywed llais Duw. Yn fuan, roedd gan Mohammed nifer fawr o ddilynwyr, pobl o nifer o wahanol lwythau, a oedd yn byw gyda’i gilydd ac yn rhannu popeth oedd ganddyn nhw. 

    Ond roedd gan Mohammed lawer o elynion hefyd a oedd yn hoffi pethau fel ag yr oedden nhw wedi bod, a dim eisiau newid. 

    O ganlyniad, fe fu’n rhaid i Mohammed a’i ffrindiau ddianc o Mecca a symud i’r gorllewin i le o’r enw Medina. (Chwiliwch am Medina ar fap o Saudi Arabia.) Caiff y weithred hon o ddianc o Mecca ei galw’n hijra, sy’n golygu ‘ymadawiad’.

    Yn Medina, fe welodd Mohammed a’i ffrindiau fod y bobl yno’n fwy parod i wrando arnyn nhw. Credai pobl Medina mai yn ôl athrawiaethau’r proffwyd Mohammed oedd y ffordd iawn i fyw, ac fe ymunodd llawer iawn o bobl â’i gymuned. 

    Ymhen nifer o flynyddoedd, aeth Mohammed yn ei ôl i Mecca, a nifer fawr iawn o ddilynwyr gydag ef y tro hwn. A thros y blynyddoedd fe ddaeth holl bobl Mecca wedyn yn ddilynwyr i Mohammed hefyd. 

  6. Cafodd dilynwyr Mohammed eu galw’n Fwslimiaid, ac ystyr hynny yw ‘pobl sy’n ymostwng ac yn ufuddhau i Allah’. 

    Erbyn heddiw mae miliynau o Fwslimiaid yn y byd. Maen nhw’n dal i fod yn dod o wahanol lwythau, ond mae’r ffydd Fwslimaidd wedi rhoi synnwyr mawr o unoliaeth i lawer ohonyn nhw. 

    Mae Mecca yn parhau i fod yn fan pwysig iawn, lle y mae miloedd o Fwslimiaid yn mynd yno bob blwyddyn.

  7. Gadawodd y Proffwyd Mohammed Mecca i deithio i Medina ar 15 Tachwedd yn y flwyddyn y mae Cristnogion yn ei dyddio fel AD 622. Roedd hwn yn ddechreuad newydd. Roedd yn nodi dechrau’r gymuned Fwslimaidd yn Medina. Mae’r blynyddoedd Mwslimaidd yn cael eu dyddio nawr o’r dyddiad hwnnw, ac yn cael eu nodi gyda’r llythrennau AH, sy’n sefyll am ‘Al-Hijra’, neu ‘Ar ôl yr Ymadawiad’.

    Caiff diwrnod Al-Hijra ei ddathlu fel Diwrnod Blwyddyn Newydd, sef dechrau’r flwyddyn Fwslimaidd newydd. Ar y diwrnod hwn fe fydd y Mwslimiaid yn cynnal partïon ac yn dathlu, fel y byddwn ninnau’n gwneud ar ein Diwrnod Blwyddyn Newydd ni ar y diwrnod cyntaf o Ionawr. Ac yn ystod y dathliadau yn y mosgiau, caiff storïau eu hadrodd am y proffwyd a’i ddilynwyr.

  8. Felly, rydyn ni wedi dysgu bod y gair ‘cymuned’ yn gallu golygu grwp o filiynau o bobl ledled y byd sy’n rhannu’r un ffydd.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y cymunedau rydych chi’n perthyn iddyn nhw: eich dosbarth, eich ysgol, unrhyw glwb rydych chi’n perthyn iddo, eich dinas neu dref neu bentref, eich eglwys efallai neu eich grwp crefyddol.

Meddyliwch am gymuned neilltuol sy’n golygu llawer i chi. Beth ynghylch y gymuned honno rydych chi’n ei werthfawrogi?

Mae’n drysor cael ffrindiau sy’n dod ynghyd gyda chi i rannu eu diddordebau a’u gweithgareddau hamdden, eu haddysg, eu bywyd, a’u ffydd.

Gweddi

Annwyl Dduw,

diolch i ti am ein cymuned yn yr ysgol,

am ein ffrindiau a’n hathrawon,

am ein clybiau ac am y diddordeb a rannwn i ddysgu.

Diolch i ti am ein cymuned ehangach,

am ein cymdogion, am bobl sy’n gweithio yn y siopau,

diolch am lefydd fel y llyfrgell, y siopau, yr ysbyty lleol,

ac am y gwasanaethau yn y gymuned sydd yno ar ein cyfer ni i gyd.

Diolch am ein ffydd,

ac am y pethau rydyn ni’n eu credu am Dduw

ac am bawb sy’n ein dysgu ni am y pethau pwysig hyn.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon