Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rwy'n Ofnus! Stori bywyd Joseff

Ystyried addewid Duw i fod gyda ni bob amser.

gan Susan MacLean

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried addewid Duw i fod gyda ni bob amser.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cardiau fflach gydag enwau’r gwahanol fathau o ofn arnyn nhw (gwelwch rhif 2).
  • Paratowch i ailadrodd stori Joseff hyd yn hyn, i atgoffa’r plant.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch fod pobl yn ofni pob math o wahanol bethau - gofynnwch i’r plant enwi rhai pethau y mae ar bobl eu hofn. (Rhai awgrymiadau fyddai: ofn y tywyllwch, ofn pry copyn, ofn uchder, ac ati.) Mae cymaint o ofn rhai pethau ar rai pobl fel ein bod yn galw’r cyflwr yn ffobia.

  2. Dangoswch y cardiau fflach sydd gennych chi wedi’u paratoi gyda’r geiriau canlynol arnyn nhw. Holwch oes unrhyw un yn gwybod ofn beth mae’r geiriau’n cyfeirio atyn nhw:

    –  arachnophobia  (ofn pryfed cop)
    –  astraphobia  (ofn mellt a tharanau)
    –  agoraphobia  (ofn mannau agored)
    –  claustrophobia  (ofn lleoedd cyfyng) 
    –  ablutophobia  (ofn ymolchi neu ymdrochi)
    –  didaskaleinophobia  (ofn mynd i’r ysgol)
    –  peladophobia  (ofn pobl foel)
    –  hippopotomonstrosesquippedaliophobia  (ofn geiriau hir) 

  3. Yn y Beibl, mae stori hir am ddyn o'r enw Joseff. Fe gafodd ei werthu gan ei frodyr, i fod yn gaethwasanaeth, a chafodd ei hun yn byw yn yr Aifft. Yn y diwedd, ar ôl iddo rybuddio'r brenin y byddai newyn yn y wlad, fe gafodd ei benodi i reoli'r holl gyflenwad bwyd yn yr Aifft. (Efallai y byddwch yn dymuno gofyn rhai cwestiynau i adolygu'r stori hyd yn hyn.) 

  4. Heddiw, mae hanner-brodyr Joseff yn ofnus. Gadewch i ni weld pam.

    Mae brodyr Joseff yn sefyll o'i flaen. Am yr eildro maen nhw wedi mynd yn ôl ato i’r Aifft i brynu bwyd, ond yn awr maen nhw wedi dod â'u brawd ieuengaf, Benjamin, gyda nhw. Doedd Benjamin ddim wedi cael ei eni pan gafodd Joseff ei gymryd i'r Aifft.  Ac mae’r brodyr yn dal heb sylweddoli pwy yw Joseff. 

    Nid yw Joseff yn gallu rheoli ei deimladau ddim mwy o flaen ei weision, felly mae'n dweud wrthyn nhw i gyd am adael fel ei fod yn gallu bod ar ei ben ei hun gyda'i frodyr. Pan wnaeth y gweision adael, fe ddywedodd: ‘Fi yw Joseff eich brawd.  Fe wnaethoch chi fy ngwerthu i fel caethwas i fynd i'r Aifft.’

    Mae'r brodyr yn ofnadwy o ofnus wedi i Joseff ddweud hyn. A all hyn fod yn wir? A fydd yn talu'n ôl iddyn nhw am y ffordd ddychrynllyd yr oedden nhw wedi ei drin yr holl flynyddoedd hynny'n ôl? Mae ganddyn nhw reswm da i fod yn ofnus. 

    Ond mae Joseff yn peri syndod iddyn nhw – mae'n dweud wrthyn nhw, er eu bod wedi ei werthu fel caethwas, roedd popeth a ddigwyddodd iddo yn rhan o gynllun Duw ar gyfer ei fywyd. Mae'n ychwanegu: ‘Nac ofnwch. Fe anfonodd Duw fi yma o'ch blaen chi i arbed bywydau pobl.’

    Mae'n dweud wrth ei frodyr am fynd adref ac i nôl eu tad, Jacob, a dweud wrtho fod Joseff yn fyw ac yng ngofal holl gyflenwadau bwyd yr Aifft. Maen nhw i ddweud wrtho am symud i'r Aifft ynghyd â'i holl deulu a'i anifeiliaid. Fe fydd Joseff yn gofalu amdanyn nhw am y pum mlynedd o newyn sydd eto i ddod.

    Mae Joseff yn wylo mewn llawenydd ac yn cofleidio'i frawd Benjamin. Yna, mae Joseff yn cusanu ac yn cofleidio pob un o'i frodyr. Nid yw'n dal unrhyw ddig yn eu herbyn. 

    Mae'r brodyr yn mynd yn ôl at eu tad ac yn dweud wrtho am yr hyn sydd wedi digwydd. 

    Mae Jacob wedi dychryn, ond mae'n credu’r brodyr ac mae'n dweud, ‘Mae fy mab Joseff yn fyw o hyd.  Mi af i'w weld cyn i mi farw.’

    A dyna'n union beth mae'n ei wneud. Daw'r teulu at ei gilydd unwaith yn rhagor ar ôl cyfnod hir ac anodd iddyn nhw i gyd. 

  5. Roedd Duw gyda Joseff trwy gydol ei fywyd.  Roedd Joseff yn gwybod hyn, ac roedd yn ymddiried yn Nuw yn ystod yr adegau anodd.

Amser i feddwl

Roedd ofn ar frodyr Joseff pan wnaethon nhw sylweddoli pwy oedd Joseff – roedden nhw’n cofio sut roedden nhw wedi ei drin flynyddoedd ynghynt.

Rydyn ni i gyd yn teimlo’n ofnus weithiau, pob un ohonom, felly fe ddylen ni ddeall pan fydd rhywun arall yn teimlo’n ofnus, a cheisio eu helpu. 

Mae Cristnogion yn credu bod Duw’n gallu ein helpu pan fyddwn ni’n dweud wrtho am ein hofnau.

Gweddi
Diolch i ti, Dduw, am stori Joseff.
Hyd yn oed pan oedd pethau’n anodd i Joseff,
roeddet ti yno bob amser gydag ef.
Rydyn ni’n diolch i ti am fod gyda ni.
Pan fyddwn ninnau’n mynd trwy adegau anodd,
diolch ein bod ni’n gallu siarad â thi.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon