Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Blwyddyn Newydd

Gwasanaeth Blwyddyn Newydd i awgrymu y gallwn ni dderbyn yr hyn dydyn ni ddim yn gallu ei newid, a deall y gallwn ni newid rhai pethau er gwell.

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Gwasanaeth Blwyddyn Newydd i awgrymu y gallwn ni dderbyn yr hyn dydyn ni ddim yn gallu ei newid, a deall y gallwn ni newid rhai pethau er gwell.

Paratoad a Deunyddiau

Dim gwaith paratoi, ar wahân i ymgyfarwyddo â’r stori.

Gwasanaeth

  1. Darllenwch y stori ganlynol, neu ei hadrodd yn eich geiriau eich hun.

    Dechrau diwrnod ysgol newydd arall oedd hi. Roedd Erin yn mynd â  neges oddi wrth ei hathro at ysgrifenyddes yr ysgol. Roedd Erin wrth ei bodd yn mynd ar neges i Mr Lewis, ac fe fyddai bob amser yn teimlo’n falch pan fyddai wedi ei dewis hi i fynd ar neges iddo. Fe fyddai’n adrodd y neges yn ei meddwl drosodd a throsodd wrth fynd er mwyn gofalu na fyddai’n ei anghofio cyn cyrraedd y swyddfa. Fe fyddai’n gwneud hynny bob tro, oherwydd fe wyddai y byddai’n teimlo cymaint o embaras pe bai hi’n cyrraedd y swyddfa wedi anghofio beth oedd ganddi eisiau ei ddweud.

    Roedd Alun yn brysio ar hyd y coridor. Roedd yn gwybod ei fod eisoes yn hwyr, ac yn gwybod y byddai’r wers wedi dechrau cyn iddo gyrraedd y dosbarth. Roedd Alun yn casáu bod yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol, yn enwedig oherwydd mai ei frawd bach, Cai, oedd ar fai heddiw am ei fod yn hwyr. Pam roedd rhaid i Cai sylweddoli ei fod wedi colli rhywbeth ar yr union adeg roedden nhw’n cychwyn o’r ty?

    Brysiodd Alun, ac mewn munud roedd yn rhedeg. Roedd Alun yn gwybod yn iawn nad oedd neb i fod i redeg ar hyd coridorau’r ysgol, ond allai o ddim peidio. Roedd o’n hwyr! Roedd ei ddosbarth rownd y gornel, ac roedd yn gallu clywed Mr Lewis yn dweud wrth y plant am estyn eu llyfrau. Bron yno . . . yna . . . bang! Cwympodd Alun ar y llawr, ac mewn eiliadau roedd yn gallu teimlo ei ên ddolurus yn chwyddo’n araf. Yn sefyll yn ei ymyl roedd Erin, a hithau’n rhwbio’i phen ac yn ceisio’i gorau i beidio â chrio.

    ‘Pam na wnei di edrych i ble rwyt ti’n mynd?’ gwaeddodd Erin.

    ‘Doeddwn i ddim yn gallu dy weld di rownd y gornel,’ protestiodd Alun.

    ‘Ie, dyna’r broblem,’ meddai Mr Lewis a oedd, wrth glywed y stwr, wedi dod allan o’r dosbarth. ‘Na, fedri di ddim gweld rownd corneli . . . ac roeddet ti’n rhedeg, Alun!’

    Doedd dim rhaid atgoffa Alun nad oedd rhedeg ar hyd y coridor yn cael ei ganiatáu, ond fe wnaeth ei athro ei atgoffa beth bynnag, ac fe ymddiheurodd Alun i Erin.

    Cyn pen dim, cafwyd bagiau rhew i’r ddau i helpu gwella’u hanafiadau, ac roedd Erin ac Alun yn ôl yn y dosbarth, fawr gwaeth ar ôl y gwrthdrawiad. Roedd Erin wedi gallu cofio ei neges i’r ysgrifenyddes hefyd, er gwaethaf yr anffawd.
  2. Doedd dim y gallai Erin fod wedi ei wneud ynghylch y ddamwain ar y coridor. Doedd hi ddim yn gallu gweld Alun yn dod, felly doedd hi ddim wedi gallu ei osgoi.

    Doedd Alun ddim yn gallu gweld Erin rownd y gornel ychwaith. Ond pe byddai wedi bod yn cerdded yn hytrach nag yn rhedeg fe fyddai wedi gallu osgoi taro yn ei herbyn mor galed.
  3. Rydyn ni i gyd ar ddechrau Blwyddyn Newydd. Does neb ohonom yn gwybod beth fydd yn digwydd i ni yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Mae fel petai popeth sy’n mynd i ddigwydd rownd y gornel. Ac, fel Alun, allwn ni ddim gweld rownd corneli.

    Yn y flwyddyn sydd i ddod, fe fydd rhai pethau’n digwydd na allwn i wneud dim yn eu cylch. Fe fydd yn rhaid i ni eu hwynebu yn y ffordd orau y gallwn ni.

    Ond, os gwnawn ni addunedu i ddysgu oddi wrth gamgymeriadau’r gorffennol, fe allwn ni osgoi ambell beth anffodus. Mae pobl yn ceisio gwneud hynny wrth wneud Addunedau Blwyddyn Newydd. Maen nhw’n edrych ar y camgymeriadau a wnaethon nhw yn y flwyddyn a fu, ac yn penderfynu gwneud pethau er gwell yn y flwyddyn sydd i ddod.

    Fe fyddai’n dda i Alun wneud Adduned Blwyddyn Newydd i beidio â rhedeg ar hyd coridorau’r ysgol yn y dyfodol.

Amser i feddwl

Beth allech chi addunedu ei wneud yn wahanol yn y Flwyddyn Newydd sydd o’ch blaen?

Ydych chi wedi gwastraffu amser ac wedi gadael gwaith heb ei orffen? Fe allech chi benderfynu canolbwyntio mwy ar eich gwaith a gwrthod gadael i eraill yn y dosbarth dynnu eich sylw.

Ydych chi wedi bod yn gas wrth rywun, neu wedi gwneud i rywun deimlo’n drist? Fe allech chi gynnwys yr unigolyn hwnnw yn eich gweithgareddau, neu ofalu bod yn gyfeillgar tuag ato ef neu hi yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Ydych chi’n dod ymlaen gyda’ch gwaith darllen? Fe allech chi ofalu eich bod yn darllen am gyfnod neilltuol bob dydd, neu fe allech chi gofio mynd â’ch llyfr darllen adre gyda chi, neu fe allech chi ofyn i rywun wrando arnoch chi’n darllen.

Treuliwch foment yn meddwl am y pethau y gallech chi eu gwneud, fel bod y flwyddyn sydd i ddod yn flwyddyn dda i chi ac i aelodau eich teulu ac i’ch ffrindiau.

(Saib)

Gweddi

Annwyl Dduw,
wrth i ni edrych ymlaen at y flwyddyn newydd sydd o’n blaen,
rydyn ni’n gofyn i ti roi cryfder i ni a dewrder i wynebu’r pethau sydd ddim yn bosib i ni eu newid,
a phenderfyniad i newid y pethau hynny y mae’n bosib i ni eu newid.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon