Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Baisakhi - Dathliad Sikhaidd yn ymwneud ag Ymrwymiad

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Gwerthfawrogi ymrwymiad.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pedwar cerdyn, gyda’r geiriau canlynol arnyn nhw CHWARAEON, FFYDD, DYSGU a CREADIGRWYDD, a phedwar gwirfoddolwr i ddal y cardiau i fyny i’w dangos ar yr adeg briodol.
  • A cherdyn arall gyda’r gair YMRWYMIAD arno.
  • Mae gwybodaeth ychwanegol am yr wyl i’w chael ar y wefan <www.allaboutsikhs.com>. Dyma wyl sy’n dathlu Blwyddyn Newydd y Sikhiaid, ac mae’n digwydd ar 13-14 Ebrill.

Gwasanaeth

  1. Dychmygwch yr olygfa. Rydych chi’n sefyll gyda gweddill eich pobl mewn man agored, wedi eich amgylchynu gan eich gelynion, ar bob ochr. Y flwyddyn yw 1699, ac mae eich pobl wedi bod yn dioddef gorthrwm ers llawer o flynyddoedd. Rydych chi i gyd yn teimlo eich bod wedi cael eich trechu, rydych chi’n wan, yn ddiymadferth a heb obaith. Mae eich arweinydd yn dod allan o’r babell ac yn dechrau siarad. Mae’r dyrfa’n tawelu. Beth fyddai’r arweinydd yn gallu ei ddweud er mwyn eich annog chi nawr? Mae ugain mil o wynebau’n troi ac yn edrych yn eiddgar ar yr arweinydd hwn, sef y Guru, gan deimlo’n nerfus ac yn llawn cyffro ar yr un pryd.

‘Rydw i angen Sikh sy’n fodlon marw dros Dduw ei bobl.’

Beth? Beth mae’r Guru’n ei ddweud? Mae arno eisiau rhywun sy’n fodlon marw dros Dduw?

‘Rydw i angen Sikh sy’n fodlon marw dros Dduw ei bobl.’

Ydi o wedi drysu? Siwr, does neb eisiau marw! Dyna pam roedden nhw wedi dod ynghyd yma, heddiw.

‘Rydw i angen Sikh sy’n fodlon marw dros Dduw ei bobl.’

Mae eich llygaid yn bwrw golwg dros y dyrfa, er mwyn gweld oedd rhywun yn cynnig ei hun. Does neb yn symud. Ond, arhoswch! Mae un dyn yn camu ymlaen, ac yn mynd gyda’r Guru i’w babell.

Nawr, mae pawb yn sibrwd mewn syndod, ac yn methu deall beth sy’n mynd i ddigwydd. Yna, mae’r Guru’n dod allan eto - ar ben ei hun - gyda chleddyf yn ei law wedi’i orchuddio â gwaed! Mae’r Guru’n siarad eilwaith. ‘Pwy eto, sydd yma nawr, yn fodlon aberthu ei hun dros Dduw?’

Mae pawb wedi dychryn. Rydych chi wedi’ch syfrdanu. Ydi’r Guru wedi lladd y dyn? Siwr, fyddai neb arall yn gwirfoddoli nawr. Ond dyna ddyn arall yn camu ymlaen, ac yn mynd i’r babell gyda’r Guru.

Eto, am yr ail dro, mae’r Guru’n dod allan ar ben ei hun, gyda chleddyf wedi’i orchuddio â gwaed. Rydych chi’n methu credu’r hyn rydych chi’n ei weld. Mae dyn arall yn camu ymlaen, Ac yna un arall, ac un arall. Pump i gyd. A phum gwaith mae’r Guru’n dod allan o’r babell ar ben ei hun, â gwaed ar ei gleddyf.

Ond, beth sy’n digwydd? Mae rhywun yn symud wrth fynedfa’r babell. Mae’r pum dyn yn dod allan yn fyw ac yn iach! Mae’r Guru’n codi ei law ac mae’r dorf yn tawelu. Mae’n dechrau siarad, ac mae pawb yn gwrando.

‘Prawf oedd hwn i weld pwy oedd yn ddigon dewr ac yn ddigon bodlon i roi’r gorau i bopeth er mwyn dangos ei ymrwymiad i Dduw.’

Wel! Dyna brawf! Rydych chi’n methu credu’r hyn rydych chi’n ei glywed nawr. Dydych chi erioed wedi gweld y fath ymrwymiad.

Rydych chi’n gwybod yn eich calon y bydd y diwrnod arbennig hwn yn cael ei ddathlu am byth gan eich pobl.

  1. Yr arweinydd hwn oedd Guru Gobind Singh, y degfed, a’r Guru dynol olaf o’r grefydd Sikhaidd. Ac fe ddaeth y pum dyn dewr yn aelodau cyntaf y grwp o’r enw Khalsa, grwp a fyddai wedyn yn amddiffyn y ffydd Sikhaidd ac yn gofalu am y bobl wan a thlawd. Mae Sikhiaid yn parhau i gofio bob blwyddyn am y diwrnod arbennig hwn, ar 13 Ebrill. Maen nhw’n galw’r wyl yn Baisakhi, ac mae’n Wyl Blwyddyn Newydd yng nghalendr y Sikhiaid ledled y byd. Ar y  diwrnod arbennig hwn, caiff dynion a merched, o oedran mor ifanc ag 16 oed eu derbyn i’r Khalsa. Maen nhw’n ymrwymo i fyw bywyd yn y ffordd Sikhaidd, yn union fel y gwnaeth y pum dyn dewr rheini, mewn amgylchiadau dramatig iawn ar yr achlysur arbennig hwnnw yr holl flynyddoedd hynny’n ôl. 

  2. Yn achos pob un ohonom, mae ymrwymiad yn rhan bwysig o fywyd. Rhaid i ni ddangos ymrwymiad i’r gweithgareddau rydyn ni’n rhan ohonyn nhw. Gadewch i ni ystyried rhai enghreifftiau.

 

Gwahoddwch bedwar gwirfoddolwr i ddod i’r tu blaen atoch chi i ddal y pedwar cerdyn.

CHWARAEON

Efallai eich bod chi’n chwarae pêl-droed neu bêl-rwyd. Efallai eich bod chi wrth eich bodd yn nofio, neu’n gwneud gymnasteg. Sut byddai rhywun yn dangos ymrwymiad i’w chwaraeon?

Gwahoddwch ymateb i’r cwestiwn hwn os ydych chi’n hapus i wneud hynny. Dyma rai awgrymiadau:

    • Cadw’n iach trwy fwyta’r bwydydd iawn, a gwneud ymarferiadau.
    • Cofio mynd i’r sesiynau hyfforddi, hyd yn oed pan fyddwch chi ddim yn teimlo fel mynd iddyn nhw.
    • Gwrando ar yr hyfforddwr, a cheisio’ch gorau i wneud yr hyn mae’n ei ddweud wrthych chi am ei wneud.

FFYDD

Efallai mai Sikh ydych chi, neu Gristion. Efallai mai Hindw ydych chi, neu Fwslim. Sut byddai rhywun yn dangos ymrwymiad i’w ffydd?

Gwahoddwch ymateb i’r cwestiwn hwn os ydych chi’n hapus i wneud hynny. Dyma rai awgrymiadau:

    • Dod i wybod mwy am eich ffydd gan eich arweinydd a’ch Llyfr Sanctaidd.
    • Cwrdd yn rheolaidd gyda phobl sy’n rhannu’r un ffydd â chi.
    • Dysgu byw eich bywyd yn ôl rheolau eich ffydd.

DYSGU

Efallai eich bod yn mwynhau mathemateg, neu wedi eich swyno â phethau gwyddonol. Efallai eich bod wrth eich bodd â llenyddiaeth, neu hanes. Sut byddai rhywun yn dangos ymrwymiad i’w waith dysgu?

Gwahoddwch ymateb i’r cwestiwn hwn os ydych chi’n hapus i wneud hynny. Dyma rai awgrymiadau: 

    • Ymdrechu eich gorau yn eich gwersi, hyd yn oed pan fyddwch chi’n cael y gwaith yn anodd.
    • Cofio gwneud y gwaith cartref sy’n cael ei osod bob wythnos.
    • Gwrando ar eich athrawon.

CREADIGRWYDD

Efallai eich bod wrth eich bodd yn canu, neu’n dawnsio. Efallai eich bod yn dda am ganu’r piano, neu wneud gwaith celf. Sut byddai rhywun yn dangos ymrwymiad i’w greadigrwydd?

Gwahoddwch ymateb i’r cwestiwn hwn os ydych chi’n hapus i wneud hynny. Dyma rai awgrymiadau:

    • Daliwch ati i ymarfer drosodd a throsodd, a throsodd eto.
    • Daliwch ati, hyd yn oed os yw eich ffrindiau’n dweud pethau cas amdanoch chi.
    • Mynd i’r ymarferion, er bod gweithgareddau mwy diddorol yr hoffech chi fod yn eu gwneud.
  1. Mae’r stori hon rydyn ni wedi ei chlywed heddiw am y Guru Gobind Singh, a’r grefydd Sikhaidd, yn enghraifft nodedig iawn o ymrwymiad. Mae llawer o bobl o’n cwmpas ni heddiw hefyd yn dangos ymrwymiad enfawr i’w ffydd, eu haddysg, eu chwaraeon, eu gwaith, a’u doniau creadigol. Cadwch olwg am enghreifftiau o’r bobl hynny ar y teledu neu yn y newyddion yn ystod yr wythnos sy’n dilyn.

Amser i feddwl

A beth amdanoch chi? Ym mha faes yn eich bywyd ydych chi’n dangos ymroddiad? Treuliwch foment yn meddwl am hynny nawr.

Dyma rai enghreifftiau i orffen …

Daliwch y gair YMRWYMIAD i fyny, a phwyntiwch at bob llythyren yn ei thro wrth gyfeirio ati fel a ganlyn:

YMRWYMIAD yw …

Ymarfer yn gyson bob dydd, gwneud rhyw fath o ymarferion sy’n ymarfer corff.

Meistroli tasgau gan bwyll bach os yw’r tasgau hynny’n anodd.

Rwan yw’r amser i wneud rhywbeth, nid ‘rywbryd wnaiff y tro’.

Wynebu’n ddewr unrhyw un sy’n eich gwatwar .

Ymdrechu i warchod yr amgylchfyd.

Mynd i lanhau cwt y gwningen cyn eistedd i wylio’r teledu.

Iawn i fod yn wahanol, a pheidio â phryderu am hynny.

Addo gwneud yn fawr o bob cyfle.

Dal ati, er gwaethaf pob anhawster.

Gadewch i ni ddysgu dangos ymrwymiad ym mhob peth rydyn ni’n ei wneud.

Gadewch i ni wneud ein gorau bob amser.

Gadewch i ni fod yn unigolion gorau posib.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon