Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyl Ridvan : Llythyrau Gardd Ridván at ffrind

gan Emma Burford

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Egluro hanes gwyl y ffydd Bahá’í, gwyl Ridván, ac annog dealltwriaeth o wahanol wyliau crefyddol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r sgript yn addas ar gyfer ei pherfformio gan blant Blwyddyn 3 - Blwyddyn 6.
  • Syniadau ar gyfer llwyfannu: Mae amryw o ffyrdd y gallech chi lwyfannu'r perfformiad hwn. Gallwch gael y pedwar sy’n cynrychioli’r pedair Gardd yn eistedd ar bedwar bloc sydd wedi eu gosod yma ac acw ar y llwyfan. Gall y plant sefyll wrth ddarllen eu llythyrau, gyda'r cymeriadau ychwanegol yn sefyll o gwmpas y bloc llwyfan wrth adrodd eu llinellau.
  • Neu fe allech chi gael un bloc llwyfan a chael pob Gardd i gamu arno pan fyddan nhw’n adrodd eu llinellau. Gall yr holl weithgaredd arall ddigwydd o gwmpas un bloc llwyfan.
  • Mae 12 cymeriad ar gyfer y sgript hon. Er mwyn cynnwys mwy o blant yn y perfformiad, gellid ychwanegu meimio i'r areithiau. Er enghraifft, pan fydd Gardd yn trafod sut y cafodd y gair amdanyn nhw ei ledaenu, gall y plant feimio’r neges sy'n cael ei chario o amgylch y llwyfan, mewn dull sibrwd Tsieineaidd; hefyd fe fyddai’n bosib iddyn nhw greu’r afon y mae'r teulu yn ei chroesi gyda darn hir o ddeunydd glas.
  • Syniadau ar gyfer gwisgoedd: Rwyf o'r farn mai'r gwisgoedd gorau yw'r rhai syml sy'n cynrychioli cymeriad. Er enghraifft, fe allai pob Gardd wisgo tiwnig werdd, ac fe allai pob Gwyl wisgo dilledyn lliwgar. Neu, fe allai'r plant wisgo du gyda darnau o wisg yn awgrymu pwy yw’r cymeriadau. Rwy'n siwr bydd gan y plant lawer o syniadau!
  • Cyswllt â chelf: Os oes plant â doniau artistig yn y dosbarth, mae’n bosib iddyn nhw greu gwisgoedd Gardd mwy creadigol, fel dail wedi eu creu â phrintiau llaw, ac ati.
  • Cysylltiadau cwricwlaidd: drama, iaith ac addysg grefyddol.

 

CAST

Gardd 1

Gardd 2

Gardd 3

Gardd 4

Gwyl 1

Gwyl 2

Gwyl 3

Gwyl 4

Gwyl 5

Swyddog y Llynges

Najib Pasha

Baha’u’lláh

Gwasanaeth

Cyflwyniad  Heddiw, rydym am eich cyflwyno i stori sy'n digwydd yn Baghdad. Mae'r stori yn defnyddio llythyrau oddi wrth  ‘Gardd Najibiyyih’ at ffrind, sy’n egluro sut y daeth yr Ardd yn y pen draw yn Ardd Ridván. Gadewch i ni edrych a gwrando ar sut mae'r llythyrau'n adrodd y stori. 

Gardd 1  21 Ebrill 1863. F'annwyl ffrind newydd,

Dyma'r llythyr cyntaf atat. Gan mai newydd gwrdd ydyn ni, gad i mi gyflwyno fy hun. Gardd Najibiyyih ydw i. Cefais fy nghreu gan swyddogion o Lynges India yn y flwyddyn 1850.

Swyddog y Llynges  Mae angen i ni leoli'r Ardd i'r gogledd o ddinas Baghdad, ac i'r dwyrain o'r Afon Tigris, gyda phedwar llwybr yn arwain at y canol.

Gardd 1  Ar ôl i Lynges India wneud y cynlluniau, gwaith Muhammad Najib Pasha oedd fy nghreu i.

Najib Pasha  Fi oedd llywodraethwr Baghdad yn y cyfnod o'r flwyddyn 1842 hyd 1847. Fi adeiladodd yr Ardd a'r palas sydd wedi ei leoli ar ei hymyl. Cafodd yr Ardd ei henwi ar fy ôl i.

Gardd 1  Allwch chi gredu fy mod i wedi cael fy nghreu gyda phalas? Rwy'n Ardd hardd. Mae pobl yn dangos parch mawr tuag ataf. Rwy'n gwybod bod pethau mawr o'm blaen.

Dy ffrind, Gardd Najibiyyih.

Gardd 2  22 Ebrill 1863. F'annwyl ffrind,

Mae rhywun wedi bod yn ymweld â mi. Ei enw yw Baha’u’lláh, ac ef yw sylfaenydd y ffydd Bahá’i. Rwyf wedi clywed ei fod wedi cael ei alltudio o Baghdad gan y llywodraeth oherwydd y dylanwad oedd ganddo dros y dinasyddion. Fe deithiodd ar draws yr Afon Tigris gyda'i deulu. Unwaith y cyrhaeddodd yma, fe ddigwyddais i glywed y datganiad a wnaeth.

Baha’u’lláh  Dros yr 11 diwrnod nesaf fe fyddaf yn derbyn ymwelwyr cyn i mi deithio i Gaer Cystennin.

Gardd 2  Fe wnaf i yn edrych arno’n gweithio, fy ffrind, a dweud y cyfan wrthyt am hynny. Rwy’n gwybod y bydd pobl Baghdad yn drist wrth weld Baha’u’lláh yn eu gadael. Nid wyf yn adnabod y dyn yma, ond fe ddof i'w adnabod, wrth iddo aros o fewn fy Ngardd. Fe ysgrifennaf eto'n fuan. Dy ffrind, Gardd Najibiyyih.

Gardd 3  2 Mai 1863. F'annwyl ffrind,

Mae gen i gymaint i ddweud wrthyt. Mae'r 11 diwrnod diwethaf wedi bod mor fendigedig a goleuedig. Rwyf wedi arsylwi ar Baha’u’lláh wrth iddo gyfarfod â swyddogion y llywodraeth a phob math o bobl. Fe gyrhaeddodd teulu Baha’u’lláh o'r diwedd ar y nawfed diwrnod, gan fod yr Afon Tigris hyd hynny wedi codi cymaint fel nad oedden nhw’n gallu ei chroesi. Mae Baha’u’lláh a'i deulu bellach wedi mynd i Gaer Cystennin. Ond cyn iddo ymadael, fy ffrind, fe roddodd Baha’u’lláh enw newydd i mi, yr enw Ridván, sy'n golygu ‘paradwys’, yn ystod ei amser yma. Rwy'n methu â chredu'r peth! Fel y dywedais i o'r blaen, fy ffrind, mae pethau mawr o'm blaen. Dy ffrind, Gardd Ridván.

Gardd 4  F'annwyl ffrind, hwn fydd fy llythyr olaf atat. Rhaid i mi ddweud wrthyt am yr wyl sydd yn awr wedi ei henwi ar fy ôl i! Mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf am Wyl Ridván.

Gwyl 1  Mae Gwyl Ridván yn wyl dros 12 diwrnod.

Gardd 4  Am mai hynny oedd y nifer o ddyddiau yr arhosodd Baha’u’lláh yn fy Ngardd.

Gwyl 2  Caiff yr wyl ei hadnabod fel Brenhines y Gwyliau, a chaiff ei dathlu gan ddilynwyr Bahá’i rhwng 20 Ebrill a 2 Mai.

Gwyl 3  Mae'r dydd cyntaf, y nawfed a'r deuddegfed yn ddyddiau sanctaidd.

Gardd 4  Mae'r cyntaf yn dathlu dyfodiad Baha’u’lláh i'm Gardd, y nawfed yw pan gyrhaeddodd teulu Bahá’u’lláh, ac mae'r deuddegfed yn dathlu pan adawodd Baha’u’lláh am Gaer Cystennin.

Gwyl 4  Yn ystod y dyddiau hyn caiff pob gwaith ei wahardd – fydd pobl ddim yn gweithio.

Gwyl 5  Ar y tri diwrnod hynny, fe fydd pobl yn dod at ei gilydd i weddïo, ac wedyn fe fyddan nhw’n dathlu.

Gardd 4  Felly, fy ffrind, diolch i Baha’u’lláh, fe fyddaf yn adnabyddus ac yn cael fy nathlu am ganrifoedd i ddod. Tyrd i ymweld â mi pan gei di'r cyfle. 

Dy ffrind, Gardd Ridván.

Amser i feddwl

Treuliwch ychydig funudau yn meddwl am sut mae crefyddau a sut y mae cymeriadau o'r gorffennol wedi ymdrechu er mwyn i’w llais gael ei glywed.

Rydym yn ddiolchgar bod cymaint o grefyddau yn y byd, a bod hynny’n ein helpu ni i feddwl am Dduw, ac yn gwneud ein byd yn lle mwy diddorol i fyw ynddo. 

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon