Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cydweddu

Ystyried y pwysau sydd arnom ni i ‘gydweddu’ yn hytrach na ‘bod yn wahanol’.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried y pwysau sydd arnom ni i ‘gydweddu’ yn hytrach na ‘bod yn wahanol’.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Rydyn ni heddiw’n mynd i ystyried dau greadur sy’n byw yn Ynysoedd Prydain, ac sy’n berchen ar guddliw rhyfeddol.

    Dangoswch y delweddau o’r grugiar wen.

    Aderyn yw’r grugiar wen. Mae’n un o’r adar y bydd pobl yn eu hela er mwyn cael bwyta’u cig blasus. Mae’r grugiar wen yn byw mewn ardaloedd anghysbell yn yr Alban lle mae llawer o ucheldiroedd. Mae’n esiampl nodedig o greadur sy’n hynod oherwydd ei guddliw. Yn yr haf, lliw plu’r aderyn yw cymysgiad o blu llwyd, brown a du dros ei gefn tra, mae o dan ei fol a’i adenydd yn wyn. Mae hyn yn galluogi’r aderyn i ymdoddi’n hawdd ymysg y creigiau sydd wedi eu gorchuddio â chen. Yn y gaeaf, mae plu’r grugiar yn newid eu lliw, ac mae’r aderyn yn troi’n hollol wyn ar wahân i’r gynffon ac o gwmpas y llygad, a fydd yn aros yn ddu. Mae’n anodd iawn gweld y rhain yn yr eira. Mae’n hawdd gweld pam fod pobl Gogledd America’n galw’r aderyn hwn yn ‘Iâr yr Eira’. Ac yna, pan fydd y gwanwyn yn troi’n haf unwaith eto, fe fydd yr aderyn yn colli’r plu gwynion a bydd plu llwyd, a phlu brown a du, yn tyfu eto yn eu lle.

  2. Mae’r ysgyfarnog fynydd yr un mor nodedig oherwydd ei chuddliw.

    Dangoswch y delweddau o’r ysgyfarnog fynydd.

    Mae’r ysgyfarnog fynydd i’w chael hefyd yn yr Alban, ar y gweundiroedd yn Swydd Derby, yn ogystal ag mewn llefydd eraill yn Ewrop a Hemisffer y Gogledd. Cot lwyd frown sydd gan yr anifail hwn yn ystod yr haf, ond erbyn mis Tachwedd fe fydd bron yn hollol wyn. Mae’r broses o fwrw’r blew er mwyn newid lliw yn cael ei sbarduno gan y newidiadau tymhorol o ran golau dydd a thymheredd.

  3. Mae’r ddau greadur yma’n newid eu lliw er mwyn gallu ymdoddi i’w hamgylchedd, a hynny er mwyn eu diogelwch eu hunain. Am fod y grugieir yn byw mewn lle mor anghysbell does dim llawer o greaduriaid eraill sy’n debygol o’u hela, ond mae’r eryr euraid yn elyn pennaf iddyn nhw ac yn fygythiad mawr. Mae’r ysgyfarnogod mynydd, ac yn enwedig eu rhai bach, mewn perygl mawr o gael eu lladd gan lwynogod, tylluanod gwynion, ac yng Ngogledd Canada a’r Ynys Werdd, gan fleiddiaid. Felly, mae’r gallu i ymdoddi i’w hamgylchedd yn nodwedd hynod o ddefnyddiol er mwyn eu cadw’n ddiogel. 

  4. Mae milwyr yn defnyddio cuddliw hefyd. Mae eu gwisgoedd gwyrdd frown yn eu helpu i ymdoddi i’r glaswelltir a’r coedwigoedd. Mae adar yn bwrw’u plu, a rhai anifeiliaid yn bwrw’u blew, neu’n diosg eu croen. Oeddech chi’n gwybod fod pobl yn diosg eu croen hefyd? Ond ar raddfa fach iawn, iawn. Dim ond celloedd na fedrwch chi prin eu gweld. Yn ffodus i ni, mae’r croen sydd o dan yr wyneb yr un lliw!

  5. Mae artist Tsieineaidd o’r enw Liu Bolin wedi bod yn gweithio ar ffurf o gelfyddyd lle mae’r delweddau’n ‘ymdoddi’ i’w gilydd.

    Dangoswch y delweddau o waith Liu Bolin oddi ar wefan y 
    Daily Mail. 

    Allwch chi weld ble mae’r artist? Beth ydych chi’n feddwl yw’r neges yn ei luniau? 

  6. Yr hyn a ysbrydolodd Liu Bolin i greu darluniau fel yma oedd ei fod yn teimlo nad oedd yn ffitio yn y gymdeithas fodern. Mae’n gweld ei hun fel dieithryn, neu fel rhywun o’r tu allan. Teimla nad yw ei ymdrechion artistig ddim bob amser yn cael eu gwerthfawrogi, yn enwedig felly yn ei wlad ei hun, lle cafodd ei stiwdio ei chau gan yr awdurdodau. Mae Liu wedi teimlo nad oes unrhyw un yn poeni amdano, fel pe byddai’n ddiwerth ac yn ddianghenraid yn y byd. 

  7. Yr hyn sydd ddim yn y golwg yng nghelfyddyd Liu yw’r hyn sydd o ddifrif yn dweud y stori. Trwy ymdoddi i mewn i’w gefndir yn ei luniau, mae Liu yn gwneud datganiad grymus ynghylch pa mor boenus yw bod yn ddisylw a dim yn cael ei dderbyn am yr hyn ydyw. 

  8. Mae llawer o bobl, yn enwedig pobl ifanc, yn dueddol o fod eisiau cydweddu â ’r bobl o’u cwmpas ac ymdoddi i’w cynefin. Maen nhw’n gwneud hyn trwy wisgo’r un math o ddillad, gwisg yr un math o esgidiau am eu traed, neu drwy hoffi’r un math o gerddoriaeth, a mynd i’r un digwyddiadau. Mae rhai hyd yn oed yn ceisio copïo sut mae rhai sydd o’u cwmpas yn siarad ac yn ymddwyn. 

Amser i feddwl

Yn ein cyfnod o amser i feddwl heddiw, gofynnwch i chi eich hunan y cwestiynau canlynol a cheisiwch fod yn onest wrth eu hateb.

Ydych chi’n dewis y math o ddillad rydych chi’n eu gwisgo oherwydd eich bod chi yn eu hoffi, neu oherwydd bod pawb arall yn eu hoffi ac yn gwisgo’r un math o bethau?

Ydych chi’n ymddwyn mewn ffordd neilltuol oherwydd mai dyna’r ffordd rydych chi’n dewis ymddwyn, neu am mai dyna’r ffordd y mae pawb arall yn siarad ac yn ymddwyn?

Ydych chi’n gwrando ar gerddoriaeth o fath neilltuol am mai dyna’r math o gerddoriaeth rydych chi’n mwynhau gwrando arni, neu oherwydd mai dyna’r math o gerddoriaeth mae pawb arall o’ch ffrindiau’n gwrando arni ar y foment?

Mae angen dewrder i sefyll ar eich traed eich hun, a gwneud  datganiad newydd.

Gweddi

Annwyl Dduw,
rydyn ni’n gwybod bod pob un ohonom wedi ei lunio’n unigryw yn dy ddelwedd di. Mae pob un ohonom yn edrych yn wahanol, gyda phersonoliaeth wahanol, yn hoffi pethau gwahanol ac yn casáu pethau gwahanol, ac mae gan bob un ohonom ni ein doniau gwahanol.

Helpa ni i wneud ein datganiadau ein hunain, a bod yn ymwybodol bod gennym ni’r rhyddid i fod yr unigolion ydyn ni.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon