Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ffoaduriaid Trefol 3 : Oes arnoch chi ofn y tywyllwch?

Ystyried pam mae’r cyfan o ffotograffau arddangosfa Andrew McConnell, sydd â’r teitl ‘Hidden Lives’, wedi eu tynnu yn y nos. Hefyd, awgrymu sut y gall y plant ddisgleirio fel goleuadau yn y byd o’u cwmpas heddiw.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pam mae’r cyfan o ffotograffau arddangosfa Andrew McConnell, sydd â’r teitl ‘Hidden Lives’, wedi eu tynnu yn y nos. Hefyd, awgrymu sut y gall y plant ddisgleirio fel goleuadau yn y byd o’u cwmpas heddiw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un arweinydd, oedolyn neu un o’r myfyrwyr i chwarae rhan Andrew McConnell, a dau ddarllenydd.
  • Mae’r holl ffotograffau a’r storïau sy’n gysylltiedig ag arddangosfa Andrew McConnell i’w cael ar y wefan: www.hidden-lives.org.uk/index.asp. Ar dudalen gartref gwefan Hidden Lives (gwelwch y cyfeiriad uchod) mae sioe sleidiau ddi-dor o ffotograffau Andrew McConnell, ac fe allech chi daflunio’r lluniau ar sgrin yn ystod y cyflwyniad canlynol – yn benodol o gam 2 ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael hefyd ar: www.bbc.co.uk/news/in-pictures-20900282 a http://vimeo.com/52559188

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Oes arnoch chi ofn y tywyllwch?


    Mae’n rhyfeddol sut mae llefydd sy’n gyfarwydd i chi’n gallu ymddangos mor wahanol yn y tywyllwch.

    Yn ystod y dydd, mae ein hystafelloedd gwely’n llefydd i gael hwyl ynddyn nhw - yn llawn teganau a phethau sy’n ymwneud â’n hoff weithgareddau. Ond, pan ddaw’r nos, a’r tywyllwch yn llenwi’r lle, mae’r ystafell wely’n gallu bod yn lle dieithr. Mae ein dychymyg yn gallu rhedeg yn wyllt. Mae’r cysgodion ar y waliau’n edrych fel angenfilod. Mae pob swn bach yn llawer uwch, ac yn rhoi braw i ni. Weithiau, fe allwn ni deimlo’n unig ac yn ofnus iawn. Y golau ymlaen y tu allan i’r drws yw’r unig beth sy’n ein cysuro ac yn ein helpu i gysgu.

    Gall cerdded adref o’r siop yn y tywyllwch fod yn beth eithaf brawychus hefyd. Allwn ni ddim gweld yn iawn beth sy’n cuddio y tu ôl i’r llwyni. Mae popeth yn edrych yn wahanol yn y tywyllwch. Mae golau’r lleuad yn creu awyrgylch fwganllyd. Ambell dro, fe fyddwn ni mor nerfus, fe fydd yn dda gennym gael cyrraedd adref. Gafael yn llaw Mam neu Dad yw’r unig beth sy’n ein cysuro nes byddwn ni wedi cyrraedd adref yn ddiogel.

  2. Dechreuwch y sioe sleidiau sydd i’w chael ar dudalen gartref y wefan ‘Hidden Lives’.

    Arweinydd
      Yn ystod 2012, fe ymwelodd ffotograffydd o’r enw Andrew McConnell â dinasoedd mewn wyth o wahanol wledydd ledled y byd, i dynnu’r ffotograffau hyn ar gyfer ei arddangosfa o luniau, arddangosfa sy’n dwyn y teitl, ‘Hidden Lives’. Beth ydych chi’n sylwi arno wrth edrych ar y ffotograffau? Beth sy’n gyffredin ym mhob un ohonyn nhw?
     
    Gwahoddwch rai o’r myfyrwyr i ymateb, nes bydd rhywun yn awgrymu bod y lluniau i gyd wedi eu tynnu yn y nos.

    Ie, dyna ni! Mae pob un o’r ffotograffau wedi eu tynnu yn y nos - yn y tywyllwch – a hynny’n fwriadol. Mae pob un yn dangos unigolyn neu grwp bach o bobl yn sefyll yn y tywyllwch. Tybed pam yr oedd y ffotograffydd yn dewis gwneud hyn? Tybed pwy yw’r bobl hyn?

    Gadewch i ni ddychmygu bod y ffotograffydd yma gyda ni nawr, ac fe gawn ni ofyn rhai cwestiynau sydd gennym ni iddo.

  3. Gofynnwch i’r un sy’n chwarae rhan Andrew McConnell ddod i’r tu blaen atoch chi.

    Diolch i chi am ddod atom ni heddiw, Andrew. Felly, pwy yw’r bobl hyn sydd i’w gweld yn eich ffotograffau?

    Andrew  Mae’r bobl hyn i gyd yn ffoaduriaid trefol. Maen nhw i gyd wedi gorfod gadael eu cartrefi, a’r rhan fwyaf wedi gadael eu gwlad hefyd. Doedd hi ddim yn ddiogel iddyn nhw aros yn eu cartrefi, felly maen nhw wedi dianc i wlad arall, ac yn byw yn un o’r dinasoedd mawr yno.

    Arweinydd   Pam mae’r holl ffotograffau wedi eu tynnu yn y tywyllwch?

    Andrew  Roeddwn i eisiau dangos sut mae’r bobl hyn yn teimlo am eu bywydau. Mae llawer ohonyn nhw’n teimlo eu bod nhw’n byw mewn tywyllwch.

    Arweinydd  Oes ar y bobl hyn ofn y tywyllwch?

    Andrew Oes, mae ofn y tywyllwch ar rai ohonyn nhw. Mae rhai o’r ardaloedd lle maen nhw’n byw yn ardaloedd digon dychrynllyd wedi iddi dywyllu. Pan oedden ni’n tynnu lluniau mewn lle o’r enw Eastleigh, un o faestrefi dinas Nairobi, yng ngwlad Kenya, doedden ni ddim yn gallu aros allan ar y stryd yn hir. Allen ni ddim aros yn yr un lle’n hir iawn rhag ofn i rywun ymosod arnom ni.

    Arweinydd Ai dyna ydych chi’n ei olygu wrth sôn am fyw mewn tywyllwch?

    Andrew Na, dim yn union. Mae llawer o’r ffoaduriaid trefol yn teimlo eu bod yn byw mewn tywyllwch yn ystod y dydd yn ogystal ag yn y nos. Mae arnyn nhw ofn mynd allan oherwydd eu bod ofn i rywun ymosod arnyn nhw, eu bygwth, neu eu harestio. Maen nhw ar ben eu hunain yn aml iawn, ac maen nhw’n hiraethu am eu teuluoedd a’u hanwyliaid yn fawr iawn. Maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu, byth yn cael eu gweld, ac wedi cael eu hanghofio. Does ganddyn nhw ddim o’u pethau eu hunain o’u cwmpas. Mae popeth yn teimlo’n ddieithr - dydyn nhw ddim yn siarad iaith pobl y wlad maen nhw ynddi, dydyn nhw ddim yn gwybod eu ffordd o gwmpas y ddinas, dydyn nhw ddim yn gallu cael gwaith, a does ganddyn nhw ddim gobaith ar gyfer y dyfodol.

    Arweinydd Yna, dydych chi ddim yn siarad am dywyllwch gwirioneddol, felly?

    Andrew  Na, yr hyn y mae’r ffoaduriaid trefol yn ei brofi yw teimlad o fod wedi eu hamgylchynu â thywyllwch. Pan fyddan nhw’n teimlo’n bryderus ac yn ofnus, ac yn ddiobaith, yna fe fyddan nhw’n teimlo nad oes goleuni gobaith na chysur yn eu bywyd.

    Arweinydd Dyna drueni. Diolch i chi am egluro hyn i ni.

    Stopiwch y sioe sleidiau.

Amser i feddwl

Arweinydd Mae angen i ni gofio am y ffoaduriaid trefol hyn, a bod yn ymwybodol o’r rhai sydd yn ein dinasoedd sy’n teimlo’n unig, yn ofnus ac yn ddiobaith. Boed i oleuni gobaith a chysur ddisgleirio yn eu bywydau heddiw.

Cofiwch, hefyd, bod llawer o ffrindiau o’n cwmpas ni bob dydd sy’n teimlo eu bod nhw’n byw mewn tywyllwch.

Darllenydd 1 Dyna Simran, sy’n cael anhawster i wneud symiau mathemategol yn ei phen, ac yn ofni y bydd gweddill plant y dosbarth yn chwerthin am ei phen.

Darllenydd 2  Dyna Melissa, sydd newydd glywed newyddion drwg am ei nain sy’n marw o ganser.

Darllenydd 1 Dyna Jack, sydd wedi cael ei ollwng o’r tîm pêl-droed.

Darllenydd 2 Dyna Thomas, sy’n clywed ei dad a’i fam yn cweryla bob nos ar ôl iddo fynd i’w wely.

Darllenydd 1  Dyna Jodie, sydd ofn mynd i gysgu bob nos am ei bod yn cael hunllefau ofnadwy.

Darllenydd 2 Dyna Hakan, sy’n cael ei fwlio.

Darllenydd 1  Dyna Jon, sydd wedi symud i ysgol arall, a heb allu gwneud ffrindiau newydd eto.

Darllenydd 2 Dyna Ellie - fe fu ei chi hi farw yr wythnos diwethaf.

Mae’r ffrindiau hyn yn teimlo’n drist, yn unig, yn ofnus ac yn bryderus. Maen nhw’n teimlo fel eu bod yn byw mewn tywyllwch. Sut y gallwn ni, bob un ohonom, ddisgleirio fel golau yn eu tywyllwch?

Darllenydd 1 Fe allwn ni wenu.
Fe allwn ni ofyn i rywun hoffen nhw ddod i chwarae gyda ni
Fe allwn ni eu gwahodd i eistedd gyda ni ar yr un bwrdd, amser cinio.

Darllenydd 2   Fe allwn ni annog.
Fe allwn ni rannu.
Fe allwn ni fod yn ffrindiau da.

Arweinydd Gwrandewch ar eiriau’r weddi hon. Fe allech chi wneud y geiriau hyn yn eiriau i chi eich hunan os hoffech chi.

Gweddi

Rydyn ni’n diolch am waith Andrew McConnell, ac yn gweddïo y bydd ei arddangosfa’n fodd i oleuni ddisgleirio ar y ffoaduriaid trefol.

Helpa ni i fod yn ymwybodol o’r tywyllwch sydd o’n cwmpas ni.
Helpa ni i ddisgleirio fel goleuni.
Helpa ni i fod yn ffrind da i rywun heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon