Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Helo, Sgryffi!' Addewid Duw - stori ar gyfer yr Adfent

gan The Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r plant bod Cristnogion yn credu bod Duw bob amser yn cadw ei addewid.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi’n barod am eich llaw.

 

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Un bore, rhedodd Liwsi Jên ar draws buarth y fferm ac i’r stabl, lle roedd Sgryffi’n byw. ‘Wnei di byth ddyfalu, Sgryffi. Mae Mam yn dweud fy mod i’n mynd i gael brawd neu chwaer fach newydd yn fuan, wel cyn hir beth bynnag.’

    A doedd hynny ddim hanner digon buan gan Liwsi Jên, ond fe ddywedodd hi wrth Sgryffi bod llawer iawn o bethau angen eu gwneud er mwyn paratoi at yr amser y byddai’r babi bach yn cyrraedd.

    ‘Heddiw, rydw i’n mynd i helpu Dad i baentio ystafell wely’r babi.’

    Gofynnwch i’r plant, ‘Allwch chi ddyfalu pa liw fydd waliau ystafell y babi bach newydd?’

  3. ‘Ac yn y pnawn, rydyn ni’n mynd i’r dre i brynu bygi. Tybed pa liw fydd y bygi y gwnawn ni ei ddewis?’

    Gofynnwch i’r plant, ‘Pa liw bygi y byddech chi’n ei ddewis?’

    ‘Mae Mam yn dweud ei bod hi’n mynd i ddod â’r cot oedd gen i’n cysgu ynddo fo, pan oeddwn i’n fabi, i lawr o’r atig. Ac fe alla i helpu mam i wneud cwrlid newydd i’r cot.’

    Roedd Liwsi Jên yn teimlo’n gyffrous iawn, ac roedd hi’n ei chael yn anodd aros yn hir am yr amser y byddai’r babi bach yn cyrraedd. ‘Wyt ti’n meddwl y bydd y babi bach yn dod heddiw, Sgryffi?’ meddai hi wrth y mul bach.

    Mae Sgryffi’n ysgwyd ei ben, ac yn dweud, ‘Na’. Yna tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  4. Ydych chi’n hoffi disgwyl am rywbeth arbennig – disgwyl am eich parti pen-blwydd, disgwyl am fore’r Nadolig, neu ddisgwyl cael mynd ar drip neu am gael mynd am bicnic . . . ?

    Gofynnwch i’r plant am awgrymiadau.

  5. Fe addawodd Duw i’w bobl y byddai’n anfon brenin iddyn nhw. Fe ofynnodd Duw i’r bobl baratoi ar gyfer yr adeg y byddai’n brenin yn cyrraedd - meddwl am y pethau roedden nhw wedi eu gwneud o’i le, a’r pethau roedden nhw wedi eu dweud na ddylen nhw fod wedi eu dweud - a dweud, ‘Sori’. Ac fe ofynnodd iddyn nhw ddal i gofio bod Duw’n eu caru, waeth beth fydden nhw’n ei wneud o’i le o dro i dro.

    Fe wnaethon nhw ddisgwyl  . . .  a disgwyl  . . .  am dros 500 mlynedd. A fyddai’r brenin newydd yn dod, byth? Oedd Duw wedi anghofio’i addewid?

    Na! Fydd Duw byth yn anghofio ei fod wedi addo rhywbeth. Ond roedd Duw’n aros am yr adeg iawn i anfon y brenin newydd i’r byd. Pan oedd yr amser yn iawn, fe ddaeth y brenin newydd!

Amser i feddwl

Mae’n cymryd amser hir i fabanod dyfu ym mol eu mam. Rhaid i ni aros yn amyneddgar am yr amser iawn iddyn nhw gael eu geni.

Pa ddigwyddiad arbennig rydyn ni’n disgwyl amdano ar hyn o bryd?

Efallai y cewch chi bob math o awgrymiadau, yn ogystal â’r Nadolig.

Gadewch i ni fod yn amyneddgar tra byddwn ni’n disgwyl i bethau da ddigwydd!

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon