Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cwis Nadolig

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Defnyddio calendr Adfent i atgoffa’r plant o stori’r Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen calendr Adfent - fe all hwn fod o unrhyw fath hoffech chi, hyd yn oed yn un sy’n cynnwys siocledi! Os na fyddwch yn dewis un gyda siocledi gofalwch bod gennych chi felysion bach y gallwch chi eu rhannu fel gwobrau, os bydd hynny’n cael ei ganiatáu.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant am yr hyn y maen nhw'n ei fwynhau fwyaf am y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig. Gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw wedi agor calendrau Adfent bore heddiw.

  2. Eglurwch, tra bo calendrau Adfent yn hwyl fawr ac yn ein harwain tuag at holl gyffro Dydd Nadolig, tymor yr Adfent yw'r adeg sy'n ein hatgoffa o'r Nadolig cyntaf – dyfodiad Iesu i'r byd.

  3. Dangoswch i'r plant y calendr Adfent a ddaethoch gyda chi i'r gwasanaeth. Eglurwch pa mor hawdd yw hi, yng nghanol yr holl gyffro i anghofio gwir ystyr y Nadolig. Dywedwch wrthyn nhw eich bod yn mynd i ofyn cwestiynau am stori'r Nadolig. Os byddan nhw'n cael yr ateb yn gywir, yna fe fyddan nhw’n cael dod ymlaen ac agor un o'r drysau ar y calendr (a bwyta'r siocled neu wobr arall). Atgoffwch y plant i agor y drysau yn ôl trefn y dyddiadau.

  4. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i'r plant.

    Beth yw enw mam Iesu? (Mair.)

    Pwy ddywedodd wrth Mair ei bod yn mynd i gael babi? (Angel.)

    Beth oedd enw tad Iesu? (Joseff.)

    Ymhle yr oedd Mair a Joseff yn byw? (Nasareth.)

    Beth oedd enw'r dref y teithiodd Mair a Joseff iddi? (Bethlehem.)

    Pam oedd yn rhaid i Mair a Joseff deithio i Fethlehem? (Roedd Cesar wedi gorchymyn fod y bobl yn dychwelyd i dref eu teulu ar gyfer cynnal cyfrifiad.)

    Ymhle y bu raid i Mair a Joseff aros? (Mewn stabl.)

    Pam wnaethon nhw gysgu mewn stabl? (Nid oedd ystafell ar gael yn unman. Roedd pob gwesty’n llawn.)

    Pan gafodd y baban Iesu ei eni, â pha beth y gwnaeth ei fam ei rwymo? (Stribedi o ddefnydd.)

    Ymhle y gosododd Mair y baban Iesu? (Yn y preseb.)

    Pwy aeth i weld Iesu ar y noson y cafodd ei eni? (Bugeiliaid.)

    Ymhle roedd y bugeiliaid wedi bod y noson honno? (Ar ochr y bryn.)

    Sut oedd y bugeiliaid yn gwybod bod Iesu wedi cael ei eni? (Fe ymddangosodd rhai angylion wrth eu hymyl a dweud wrthyn nhw.)

    Beth ddywedodd yr angylion wrth y bugeiliaid yr oedden nhw i fod i'w wneud? (Mynd i'r stabl a chael hyd i'r baban oedd wedi cael ei eni yno.)

    Beth welodd y doethion i wneud iddyn nhw fynd i chwilio am y baban newydd? (Seren newydd yn yr awyr.)

    Pwy aeth y doethion i ymweld ag ef, pan oedden nhw ar eu ffordd i chwilio am Iesu? (Brenin Herod.)

    Pam oedd Herod yn bryderus? (Doedd Herod ddim eisiau i rywun arall fod yn frenin yn ei le.)

    Pa anrhegion roddodd y doethion i Iesu? (Aur, thus a myrr.)

    Pam nad aeth y doethion yn ôl i balas Herod fel yr oedd ef wedi gofyn iddyn nhw? (Fe gawson nhw eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â gwneud hynny.)

    Pan rybuddiodd Duw Joseff, mewn breuddwyd, fod Herod yn chwilio am Iesu, i ble y gwnaeth Mair, Joseff a'r baban ffoi? (I’r Aifft.)

    I ble y symudodd y teulu i fyw ar ôl rhai blynyddoedd? (Yn ôl i Nasareth.)

    Ym mha lyfr rydyn ni’n gallu darllen y stori am eni Iesu? (Yn y Beibl.)

  5. Nodwch fod y gwasanaeth heddiw wedi bod yn hwyl, ond mae'r stori'n bwysig iawn. Mae Cristnogion yn credu mai mab Duw yw Iesu a gafodd ei anfon atom o'r nefoedd. Ei enedigaeth ef roddodd y Nadolig cyntaf i ni! Gosodwch sialens i'r plant geisio cofio'r stori pan fyddan nhw'n agor eu calendrau.

Amser i feddwl

Caewch eich llygaid a meddyliwch am y stabl yn stori'r Nadolig. Ydych chi'n credu y byddech chi wedi hoffi cael eich geni yno?! Dychmygwch swn yr anifeiliaid a'r arogleuon! Eto, dyna'r lle y cafodd Iesu ei eni! Meddyliwch am yr holl bobl dlawd yn y byd hwn. Onid yw hi'n wych fod Duw wedi gadael i Iesu gael ei eni yn y fath le tlawd yn hytrach na mewn palas?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am stori'r Nadolig.
Diolch i ti na chafodd Iesu ei eni mewn palas crand, ond mewn stabl dlawd.
Helpa ni i gofio am blant dros y byd i gyd sy'n cael eu geni i dlodi.
Y Nadolig hwn, helpa ni i fod yn werthfawrogol am bopeth sydd gennym.
Helpa ni i fod yn fodlon rhoi yn ogystal â derbyn.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon