Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mam i lawer

Cyflwyniad i waith y Fam Teresa, o Calcutta

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar yr ymrwymiad o ofalu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os yw hynny’n bosib, lluniwch gyflwyniad PowerPoint, a threfnwch fodd o ddangos y cyflwyniad yn y gwasanaeth. Cynhwyswch rai delweddau o’r Fam Teresa, a rhai o’i geiriau enwog, dyfynnwch hefyd eiriau Iesu o Efengyl Mathew (pennod 25, adnodau 35–36) ac, o bosib, eiriau’r emyn Saesneg ‘Make us worthy, Lord’ (Come and Praise, 94). Caiff yr emyn hwn ei alw’n ‘Weddi’r Fam Teresa’ gan mai dyma’r weddi oedd yn cael ei hadrodd gan y Fam Teresa a’i chydweithwyr yn ddyddiol. Mae’n bosib canu hon fel cân eco, os byddech chi’n dymuno ei chanu ar y diwedd (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

  1. Dangoswch lun o’r Fam Teresa, os byddwch yn defnyddio’r cyflwyniad PowerPoint.

    Cafodd y Fam Teresa ei geni yn 1910. Hi oedd yr ieuengaf yn ei theulu, a’i henw bryd hynny oedd Agnes. Wrth iddi dyfu, fe deimlai’n fwyfwy argyhoeddedig y dylai hi fynd yn lleian.

    Eglurwch mai rhywun sy’n ymrwymo ei bywyd i weddïo a gwasanaethu Duw a phobl eraill yw lleian.

    Felly, erbyn roedd hi’n 18 oed, roedd hi wedi ymuno â chwfaint neu leiandy ac wedi dechrau ar ei bywyd fel cenhades. Cwfaint yw cymuned lle mae lleianod yn byw ac yn gweddïo gyda’i gilydd, ac mae ‘cenhadwr’ neu ‘genhades’ yn lledaenu’r ffydd Gristnogol i bobl eraill, gan deithio’n aml i wledydd eraill i wneud hynny. Cafodd Agnes ei galw yn ôl yr enw Y Chwaer Teresa. Fe fydd lleianod yn mabwysiadu enwau seintiau neu bobl ddwyfol y maen nhw’n edmygu eu hanes, er mwyn nodi’r dechreuad newydd hwn yn eu bywyd, a bod yn ysbrydoliaeth iddyn nhw wrth iddyn nhw geisio byw bywyd duwiol eu hunain. Fe gafodd y Chwaer Teresa ei hyfforddi i fod yn athrawes.

  2. Ymhen amser, fe ddechreuodd y Fam Teresa (fel yr oedd hi’n cael ei galw erbyn hynny) weithio yn ninas fwyaf India, sef Calcutta. Roedd hi wedi dychryn wrth weld cymaint o bobl sâl yn ddigartref ac yn byw ar balmentydd y strydoedd yn begio am arian ac am dameidiau o fwyd.

  3. Cofiai’r Fam Teresa eiriau Iesu, sydd i’w gweld yn Efengyl Mathew (pennod 25, adnodau 35-36):

    Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi,
    bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi  . . .
    bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i’ch cartref;
    bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf,
    bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi  . . .

    Roedd hi’n sicr bod Duw eisiau iddi hi wneud rhywbeth a oedd yn berthnasol i’r geiriau hyn. Felly, fe sicrhaodd hi ganiatâd i adael y cwfaint a mynd i fyw ymysg y bobl anghenus anffodus hyn. Dim ond y mymryn lleiaf o arian oedd ganddi. Fe dreuliodd hi amser yn addysgu plant yr oedd eu rhieni’n methu fforddio eu hanfon i’r ysgol, a helpu’r teuluoedd hynny.

  4. Fe ddaeth pobl eraill i ddechrau gweithio a gweddïo gyda hi. Roedden nhw’n cael eu hadnabod fel ‘Cydweithwyr y Fam Teresa’. Gyda’u help nhw, fe agorodd y Fam Teresa gartref hefyd i blant amddifad, a phlant oedd heb neb i ofalu amdanyn nhw.

    Wynebodd y Fam Teresa lawer o anawsterau. Roedd arni hi angen arian i helpu’r bobl hyn oedd mor anghenus, ac roedd y gwaith yn waith caled a blinedig iawn, ond fe ddaliai ati’n llawen bob amser. Roedd y Fam Teresa’n siarad ar ran y bobl dlawd ac yn herio’r bobl gyfoethog a’r llywodraethau i wneud rhywbeth i helpu. Dynes fechan oedd hi yn gorfforol, ond roedd ganddi wen fawr a charedig, a chalon fawr a hael iawn.

  5. Ar ôl i’r Fam Teresa farw yn y flwyddyn 1997, fe ddangosodd yr hyn oedd wedi cael ei ysgrifennu yn rhai o’i llythyrau pa mor galed oedd ei gwaith. Ambell dro, fe fyddai’n ei chael hi’n anodd credu yn Nuw, ond fe ddaliai ati i weddïo. Ambell dro, roedd y problemau mor enfawr, ac roedd yr hyn yr oedd hi’n gallu ei wneud yn ymddangos mor fychan, er hynny fe ddaliodd hi ati’n gydwybodol drwy’r amser.

  6. Mae bywyd y Fam Teresa’n enghraifft o beth mae bod yn wir ofalgar yn ei olygu.

    – Nid dim ond dweud wrth eraill beth i’w wneud mae pobl sy’n ofalgar yn ei wneud – maen nhw’n fodlon bod y bobl hynny sy’n helpu.
    – Nid yw pobl sy’n wir ofalgar yn digalonni ac yn rhoi’r gorau iddi – maen nhw’n parhau i weddïo ac yn glynu at eu hamcanion.
    – Mae pobl sy’n wir ofalgar yn gwybod bod gweithredoedd bach o garedigrwydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

    Roedd gan y Fam Teresa ddywediad: ‘Nid yw pawb ohonom yn gallu gwneud pethau mawr. Ond fe allwn ni wneud pethau bach gyda chariad mawr.

Amser i feddwl

Gadewch i ni fyfyrio ar y geiriau canlynol oedd yn rhan o’r hyn a ddywedodd y Fam Teresa.

Carwch eraill fel y mae Duw’n eich caru chi.
Cofiwch fod gweithredoedd cariad yn weithredoedd o heddwch.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon