Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Josie a Jake a'r Helfa Wyau Pasg

Symbolaeth yr Wy Pasg

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Archwilio symbolaeth yr Wy Pasg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori yn Cam 2 sy’n dilyn.
  • Fe fydd arnoch chi angen basged a nifer dda o wyau Pasg bach. Gofalwch bod gennych chi ddigon o’r wyau Pasg bach wedi ei lapio mewn papur lliwgar, i roi dau wy i bob un o’r plant – un yn gynnar yn ystod y gwasanaeth ac un arall ar y diwedd. Gwiriwch o flaen llaw a oes alergedd gan unrhyw rai o’r plant, a gofalwch bod gennych chi rywbeth amgen i’w gynnig iddyn nhw, ond gorau oll os bydd hwnnw’n rhywbeth ar ffurf wy.
  • Cyn y gwasanaeth hwn trefnwch weithgaredd sydd yn wers ynghylch arddodiaid, a’r wers wedyn yn cael ei dilyn gan Helfa Wyau Pasg yn y dosbarth, a chithau wedi cuddio’r wyau Pasg bach ‘y tu mewn’, ‘o dan’, ‘ar ben’, ‘rhwng’, ‘yn ymyl’, ‘y tu ôl i’ rywbeth, ac ati. Wrth i’r plant ddod o hyd i’r wyau rydych chi wedi eu cuddio, gofynnwch iddyn nhw eu rhoi i mewn yn y fasged fydd gennych chi i’w cadw’n barod ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Gwasanaeth

  1. Casglwch y plant ynghyd i wrando ar y stori. Bydd eich basgedaid o wyau Pasg bach yn barod gennych chi, ynghyd â’r eitemau amgen ar gyfer plant sy’n dioddef unrhyw alergedd, os bydd angen.

  2. Adroddwch y stori.

    Josie a Jake a’r Helfa Wyau Pasg

    Roedd Josie a Jake yn ffrindiau mawr. Roedden nhw wedi bod yn mynd i’r Cylch Meithrin gyda’i gilydd pan oedden nhw’n ddwy oed. Yna, roedden nhw wedi bod yn mynd gyda’i gilydd i’r Dosbarth Meithrin yn yr ysgol. Roedden nhw wedi bod yn y Dosbarth Derbyn wedyn, ac yn awr roedden nhw wedi tyfu’n blant mawr ac mewn dosbarth uwch, ac yn dal i fod yn ffrindiau da. Roedden nhw’n hoff iawn o’r athrawes, Mrs Davies.

    Roedd plant dosbarth Mrs Davies wedi bod yn mwynhau Helfa Wyau Pasg, fel rydych chi newydd ei wneud yn y dosbarth heddiw. Roedd Josie wedi dod o hyd i dri wy Pasg: roedd un o dan y bwrdd, roedd un y tu mewn i gas pensiliau a’r trydydd ar ben y silffoedd llyfrau. Roedd Jake wedi rasio rownd yr ystafell ac wedi dod o hyd i bump o wyau Pasg: roedd un y tu mewn i gwpan Mrs Davies (Roedd Jake yn falch nad oedd coffi hefyd yn y gwpan!), roedd un y tu ôl i’r planhigyn ar silff y ffenestr, roedd un o dan ddalen o bapur, roedd un rhwng dau lyfr ymysg y llyfrau llyfrgell, ac roedd y pumed wy Pasg ar ben y cwpwrdd. Roedd rhaid i Jake ymestyn yn uchel i gael hwnnw!

    Roedd yr Helfa Wyau Pasg wedi bod yn weithgaredd mor gyffrous i fechgyn a merched y dosbarth, roedd rhai ohonyn nhw wedi bod yn gwichian yn hapus wrth ddod o hyd i’r naill wy ar ôl y llall.  Yn fuan, roedd basged Mrs Davies yn llawn o Wyau Pasg bach lliwgar.

    ‘Dewch i eistedd mewn cylch yma, os gwelwch yn dda,’ meddai Mrs Davies wrth y plant. ‘Mae gen i stori i’w dweud wrthych chi, ac efallai y gallech chi gael wy bach bob un i’w fwynhau tra byddaf yn dweud y stori.’

    Os ydych chi’n meddwl bod hynny’n briodol, fe allech chithau roi wy bach i bob un o blant eich dosbarth (neu’r eitem amgen) i’w fwyta tra byddwch chi’n dal ati i gyflwyno’r gwasanaeth.

    ‘Roedd gwraig o’r enw Mair yn byw gannoedd o flynyddoedd yn ôl mewn gwlad o’r enw Israel. Mair Magdalen oedd ei henw llawn. Un pen wythnos y Pasg fe aeth hi ar helfa, fel y gwnaethoch chi, ond doedd hi ddim yn chwilio am wyau Pasg. Roedd hi’n chwilio am rywun arbennig.

    Roedd Mair wedi cael bywyd digon trist cyn iddi gyfarfod â rhywun arbennig iawn o’r enw Iesu. Roedd Iesu wedi dod yn ffrind da iddi ac roedd hi wedi treulio dyddiau hapus iawn yn ei gwmni gyda disgyblion newydd eraill Iesu. Ond ddoe roedd Iesu wedi marw. Roedd o wedi cael ei ladd mewn ffordd greulon.

    Roedd hi’n methu’n glir â deall sut roedd hynny wedi digwydd. Roedd Iesu’n ddyn mor dda. Roedd Iesu wedi bod yn ofalgar am blant, roedd wedi dangos cariad tuag at bob math o bobl, roedd wedi iachau pobl oedd yn sâl, ac roedd wedi dysgu llawer iawn o bobl am Dduw. Sut yn y byd y gallai unrhyw un fod eisiau ei frifo? Ond roedden nhw wedi gwneud hynny, ac wedi gwneud rhywbeth gwaeth na hynny hefyd. Ddoe, roedd Iesu wedi cael ei ladd, ac roedd ei gorff wedi cael ei roi i orwedd mewn bedd a oedd yn debyg i ogof, gyda charreg fawr drom wedi cael ei rowlio ar geg yr ogof i gau arni fel drws mawr. Roedd ddoe wedi bod yn ddiwrnod ofnadwy, a doedd Mair ddim wedi cysgu winc drwy’r nos. Roedd hi’n teimlo mor drist, ac roedd ei chalon mor drom, roedd yn rhaid iddi gael mynd at y bedd. Roedd hi eisiau bod yn agos at Iesu hyd yn oed er ei fod wedi marw.

    Yn gynnar yn y bore, fel roedd hi’n dechrau goleuo wrth i’r wawr dorri, a phan oedd pob man yn dawel cyn i neb godi, fe gychwynnodd Mair o’i chartref a mynd i gyfeiriad lle’r oedd y bedd. Dyna syndod gafodd hi pan gyrhaeddodd! Roedd y garreg fawr ar wyneb y bedd wedi cael ei rholio i un ochr. Edrychodd i mewn i’r bedd yn ofnus, ac fe welodd nad oedd neb yno. Eisteddodd Mair ar y llawr yn teimlo’n flinedig ac yn drist iawn. Ble’r oedd Iesu? Ble’r oedd yr Arglwydd roedd hi’n ei garu gymaint? Fe ddechreuodd grio. Roedd hyn yn ormod iddi. Roedd wedi torri ei chalon yn lân.

    Fe ddaeth dyn a golwg garedig arno ati’n dawel. Roedd hi’n meddwl mai’r garddwr oedd y dyn.

    “Beth sy’n bod?” meddai wrthi’n garedig. “Pam rwyt ti mor drist?”
    “O, syr,” meddai wrtho, heb hyd yn oed edrych yn iawn arno. “Maen nhw wedi mynd â fy Arglwydd oddi yma, a finnau ddim yn gwybod i ble y galla i fynd i chwilio amdano.”
    “Mair!” meddai’r llais caredig yn dawel.

    Roedd Mair yn adnabod y llais! Doedd bosib mai llais Iesu oedd o! Fe gododd ei phen, ac ie, Iesu oedd yno!
    “Ie, Mair,” gwenodd Iesu, “fi sydd yma, Iesu. Rwy’n fyw eto.”

    Neidiodd Mair ar ei thraed mewn llawenydd, gan chwerthin drwy ei dagrau ac i ffwrdd â hi ar unwaith yn ôl i’r pentref! Rhedodd i lawr y bryn, mor gyflym ag y gallai, i ddeffro pawb a dweud wrthyn nhw'r newydd da bod eu ffrind Iesu yn fyw unwaith eto!’

  3. Gofynnwch i blant eich dosbarth a wnaethon nhw ddeall yn awr pan roedden nhw’n chwilio am yr wyau bach yn y dosbarth yn eu Helfa Wyau Pasg. Gofalwch eu bod yn deall arwyddocâd yr wyau Pasg, eu bod yn symbolau o stori’r Pasg. Mae’r wyau’n cynrychioli bywyd newydd, ac felly’n ein hatgoffa ni o’r bywyd newydd oedd wedi dod i Iesu pan welodd Mair ef y tu allan i’r bedd y diwrnod hwnnw.

Amser i feddwl

Eglurwch eich bod yn mynd i roi wy bach arall i bob plentyn wrth iddyn nhw ymadael â’r gwasanaeth. Fe fyddech chi’n hoffi iddyn nhw roi’r wy hwn i rywun sydd heb glywed y stori rydyn ni wedi ei chlywed heddiw. Ac fe allen nhw egluro i’r unigolyn hwnnw pam rydyn ni’n bwyta wyau ar adeg y Pasg.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am anfon dy fab, Iesu Grist, i’r byd.
Yn union fel roedd Mair yn hapus, rydyn ninnau’n hapus ei fod wedi codi o farw’n fyw, a’i fod yn dal yn fyw heddiw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon