Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Stori am ddwy chwaer

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cadarnhau ein bod i gyd yn wahanol i’n gilydd, a bod gennym ni i gyd ein lle ym mywyd yr ysgol ac ym mywyd ein teuluoedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r naratif sydd wedi ei gosod isod, fe fyddai’n bosib cyflwyno’r sgript gan ddefnyddio tri llais os hoffech chi wneud hynny.
  • Fe fyddwch angen arweinydd, a dau oedolyn neu blant eraill i ddarllen rhannau Martha a Mair yng Ngham 2 os ydych yn dewis cyflwyno'r gwasanaeth trwy ddefnyddio tri llais
  • Gellir gosod pethau ar fwrdd i ganolbwyntio arnyn nhw, a chyferbynnu casgliad o lestri a sosbenni â phentwr bach o lyfrau.

Gwasanaeth

  1. Gwahoddwch y plant i fyfyrio'n dawel ynghylch y tro diwethaf iddyn nhw ddadlau â brawd, chwaer neu ffrind. Nodwch y ffaith bod anghytuno'n digwydd o bryd i'w gilydd. Nid yw pawb yr un fath. Weithiau fe fydd dadl yn codi ynghylch tasg sydd angen ei gwneud, efallai.

  2. Cyflwynwch y stori Feiblaidd sy’n dilyn, stori sy’n sôn am ddwy chwaer. Roedden nhw'n byw dan yr un to, (gyda'u brawd Lasarus), ond roedd ganddyn nhw bersonoliaethau gwahanol iawn.  Gwahoddwch y plant i wrando'n astud. Pa chwaer y maen nhw'n fwyaf tebyg iddi?

    Stori am ddwy chwaer

    Roedd Martha'n hoffi bod yn brysur.                      Roedd Mair yn hoffi myfyrio.
    Roedd Martha'n gallu bod yn ddiamynedd iawn.    Roedd Mair yn dawel iawn.
    Roedd Martha'n hoffi coginio.         Doedd Mair ddim!

    Felly, pan gafodd Iesu ei wahodd i'w cartref gan Martha a Mair dyma beth ddigwyddodd.

    Gosododd Martha'r bwrdd bwyd.      Eisteddodd Mair ar y llawr.
    Gwyliodd Martha'r popty.             Gwrandawodd Mair ar Iesu.
    Coginiodd Martha'r cinio.      Wnaeth Mair ddim!

    Roedd Martha'n boeth yn y gegin.                Arhosodd Mair yn y cysgod oer.
    Fe ferwodd cynnwys un sosban drosodd.    Ni sylweddolodd Mair.

    Yn y diwedd fe ferwodd dicter Martha drosodd hefyd! ‘Mair, pa fath o chwaer wyt ti? Iesu, dweud wrthi am ddod i roi help llaw i mi!’

    ‘Martha,’ atebodd Iesu, ‘Rwy'n gwybod dy fod yn ffwdanus, ond mae Mair yn mwynhau amser arbennig y bydd hi’n ei gofio am byth.’

    Felly aeth Martha yn ôl at ei choginio . . . Parhaodd Mair i wrando.

  3. Caniatewch i'r plant ymateb i'r stori . . . Pa gyngor fydden nhw'n ei gynnig i Martha a Mair? A wnaeth Mair helpu Martha wedyn i weinyddu'r pryd bwyd arbennig, a chlirio'r llestri ar ôl hynny? A wnaeth Mair anwybyddu ymbil ei chwaer am help?

  4. Nodwch fod y stori hon yn adlewyrchu'r rhwystredigaeth a deimlwn pan fydd pobl ddim yn ymddwyn yn unol â'n dymuniadau ni, neu ddim yn gwneud yr hyn yr ydym yn ei deimlo y dylen nhw ei wneud. Eglurwch fod cyfeillgarwch cryf yn caniatáu i eraill y rhyddid i fod yn nhw eu hunain. Mae cyfeillgarwch o'r fath hefyd yn golygu, fodd bynnag, bod yn sensitif i deimladau'r naill a'r llall a bod yn barod i helpu.  Fel y canfu Martha a Mair, gall cadw at y cydbwysedd hwn fod yn dasg anodd weithiau.  Fe wnaeth Iesu annog y ddwy chwaer i ddeall eu gwahanol ddoniau a'u gwahanol anghenion.

Amser i feddwl

Gwahoddwch y plant i fyfyrio ar sut y bydd/sut y mae helpu a gwrando wedi bod yn bwysig yn ystod eu diwrnod yn yr ysgol.

Gweddi
Arglwydd Dduw,
Weithiau, rydym yn gallu bod yn gas ac yn teimlo’n rhwystredig gyda ein chwiorydd, ein brodyr a'n ffrindiau.
Rydym yn edifarhau am yr adegau hynny pan fyddwn yn colli'n tymer.
Helpa ni i feddwl am deimladau pobl eraill, i ganiatáu lle i'r naill a'r llall ohonom, ac i gynnig help pan fyddwn yn gallu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon