Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pentecost

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio gwyl Gristnogol y Pentecost.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewch â ffôn symudol a bar grawnfwyd gyda chi i’r gwasanaeth.
  • Os yw hynny’n bosib, casglwch rai delweddau i ddarlunio stori’r Pentecost, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth (dewisol, a chofiwch wirio’r hawlfraint os byddwch chi’n eu defnyddio).
  • Ymgyfarwyddwch â chân Ishmael, ‘I know Jesus loves me’ (ar CD Ishmael,I Know Jesus Loves Me, Kingsway Music, 2003).

Gwasanaeth

  1. Heddiw, rydyn ni'n mynd i ddysgu am yr Wyl Gristnogol y Pentecost a darganfod pam y mae Cristnogion yn dathlu ar y diwrnod hwn.  Cyn i ni ddechrau, fodd bynnag, a fyddai ots gennych chi pe byddwn i’n gwneud galwad ffôn sydyn at fy merch am fy mod i wedi anghofio rhoi neges bwysig iddi?

    Smaliwch wneud yr alwad, ond actiwch yn rhwystredig iawn pan nad yw'r ffôn yn ymddangos ei bod yn gweithio.

    A all unrhyw un awgrymu pam nad yw fy ffôn yn gweithio?

    Gobeithio y bydd rhywun yn dweud ei bod hi angen ei gwefru.

    O dyna un gwirion ydw i! Fe wnes i anghofio rhoi plwg fy ffôn yn y soced i'w gwefru neithiwr, fe fydd yn rhaid i mi wneud fy ngalwad yn nes ymlaen!

  2. Edrychwch fel eich bod ar fin dechrau'r stori yna dechreuwch edrych yn llipa a thruenus.

    O na! Roeddwn i ar gymaint o frys y bore 'ma fel na chefais amser i gael brecwast ychwaith ac mewn gwirionedd nid yw hynny'n syniad da. A fyddai ots gennych chi pe byddwn i'n cymryd tamaid bach sydyn o fy mar grawnfwyd? Dyna welliant, mae gen i dipyn mwy o nerth yn awr.

  3. Roedd angen gwefru'r ffôn cyn y byddai'n gweithio, ac roeddwn angen tipyn o frecwast er mwyn cael digon o nerth i wneud fy ngwaith dyddiol. Yn y Beibl, roedd hi'n ymddangos bod ffrindiau arbennig Iesu, y disgyblion, angen rhyw fath o egni, neu nerth, y tu mewn iddyn nhw cyn yr oedd modd iddyn nhw ymgymryd â'r gwaith yr oedd Iesu wedi gofyn iddyn nhw ei wneud.

  4. Cyn i Iesu ddychwelyd at ei Dad i’r nefoedd, fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion fod ganddo waith arbennig iddyn nhw ei wneud. Fe ddywedodd wrthyn nhw am fynd i Jerwsalem ac aros am gynorthwyydd arbennig o'r enw'r Ysbryd Glân i ddod atyn nhw. Y drafferth oedd, nad oedd y disgyblion yn gwybod pwy oedd yr Ysbryd Glân hwn, na chwaith sut byddai'n cyrraedd atyn nhw!

    Roedden nhw i gyd gyda'i gilydd mewn goruwch ystafell yn Jerwsalem pan wnaethon nhw glywed swn y gwynt, oedd yn cynyddu'n uwch ac yn uwch! Roedd hynny'n ddigon rhyfedd, ond roedd yr hyn ddigwyddodd wedyn yn fwy rhyfeddol fyth - fflamau tân oedd i'w gweld yn ymddangos ac yn eistedd ar ben bob un, heb i neb gael ei losgi!

  5. Roedd yr hyn y gwnaethon nhw ei glywed a’i weld yn wir ryfeddol, ond yr oedd y ffordd yr oedden nhw'n teimlo yn anghyffredin dros ben! Roedden nhw’n teimlo fel petai Iesu yno gyda nhw, yn union o'u mewn, ac fe wnaethon nhw ddeall mai'r Ysbryd Glân oedd hwn a fyddai gyda nhw'n awr i ba le bynnag y bydden nhw'n mynd.

    Roedden nhw wedi cynhyrfu gymaint nes eu bod wedi gorfod mynd allan i ddweud wrth bawb.  Fe wnaethon nhw i gyd ddechrau llefaru ar unwaith, ond mewn ieithoedd gwahanol fel bod ymwelwyr o wledydd eraill oedd yno yn rhyfeddu eu bod yn gallu deall yr hyn roedden nhw'n ei ddweud.

    Roedden nhw mor gynhyrfus a llawen fel bod rhai pobl hyd yn oed yn credu eu bod wedi meddwi! Ond eglurodd Pedr, un o'r disgyblion, bod Iesu wedi codi o farwolaeth er mwyn dangos cariad a nerth Duw ac y gallen nhw, hefyd, gael profiad o Ysbryd Glân Duw os bydden nhw'n dymuno. Erbyn diwedd y diwrnod hwnnw, roedd tua 3,000 o bobl wedi dod yn ddilynwyr Iesu. Ar y diwrnod hwnnw y dechreuodd y gwaith yr oedd Iesu wedi ei roi iddyn nhw i'w wneud - y gwaith o ddweud wrth bobl eraill am Iesu.

  6. Felly, dyna paham fod Cristnogion yn dathlu ar y Sulgwyn (Sul y Pentecost) - y diwrnod pan ddaeth yr Ysbryd Glân, y diwrnod pan ddaeth llawer iawn o bobl yn ddilynwyr Iesu, a'r diwrnod pan ddechreuodd yr Eglwys Gristnogol mewn gwirionedd. Am y rheswm hwn, mae'r Pentecost hefyd yn cael ei adnabod fel diwrnod pen-blwydd yr Eglwys.

Amser i feddwl

Dychmygwch pa mor gynhyrfus y byddai'r disgyblion wedi teimlo pan ddaeth yr Ysbryd Glân i'w plith.
Dychmygwch pa mor freintiedig y bydden nhw wedi teimlo oddi mewn iddyn nhw'u hunain pan wnaethon nhw sylweddoli faint oedd Iesu'n eu caru.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y diwrnod arbennig pan ddaeth yr Ysbryd Glân at y disgyblion.
Helpa ni i sylweddoli faint wyt ti’n ein caru ni.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

‘I know Jesus loves me’ (ar y CD,I Know Jesus Loves Me, gan Ishmael, Kingsway Music, 2003)

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon