Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cofio nawr

Cysylltu’r gorffennol a’r presennol ar gyfer Sul y Cofio

gan Keith Griffin

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Egluro ystyr Sul y Cofio, gan ystyried heddwch a rhyfel, y presennol a’r gorffennol, a’r dioddefwyr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pedair croes goffa, pabïau coch, neu symbolau eraill rydyn ni’n eu cysylltu â rhyfel. Neu, fe allech chi gasglu ynghyd rai eitemau i gynrychioli milwr, nyrs, ffermwr a gwraig ty. Hefyd, fe fydd arnoch chi angen cannwyll a thaniwr neu fatsis, os dymunwch chi.
  • Fe fyddai’n bosib i chi arddangos rhai delweddau o adeg rhyfel, ond dewisol yw hyn.
  • Nodwch, yn ystod y cyfnod o goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf, efallai yr hoffech chi ystyried ble gallech chi gyfeirio at hynny, neu fe allech chi addasu’r gwasanaeth i gynnwys hynny.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gerddoriaeth ‘Nimrod’ allan oEnigma Variationsgan Elgar, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gan dybio eich bod yn cyflwyno'r gwasanaeth hwn yn ystod yr wythnos cyn Sul y Cofio, gofynnwch i'r plant, ‘Beth sy'n arbennig am y Sul sy'n dod?’ Arhoswch i rywun ateb, ‘Mae'n Sul y Cofio.’

  2. Yna gofynnwch, ‘Beth ydyn ni'n ei “gofio”?’ Disgwyliwch atebion fel, 'Pobl fu farw mewn rhyfel', 'Milwyr', 'Y ddau Ryfel Byd'.

  3. Cadarnhewch atebion y plant a gofynnwch am wirfoddolwr o'u plith. Gosodwch ef neu hi i sefyll yn y tu blaen a gofynnwch, ‘Beth yw eich enw?’

    Gadewch i ni feddwl mai Jac yw ei enw. Rhowch iddo’r enw 'Corporal Jac' ac adroddwch stori fach am Jac fel milwr a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd. Ar gyfer geneth fe allech chi roi iddi'r enw Hannah, er enghraifft, a galwch hi yn ‘Nyrs Hannah’. Adroddwch stori fach am nyrs Hannah yn gweithio mewn ysbyty ar faes y gad, ac a gafodd ei lladd mewn ffrwydrad.

    Gorffennwch trwy gyflwyno croes gofio, pabi coch, neu symbol arall, neu gelfi milwr neu nyrs i'ch gwirfoddolwr. Gofynnwch i’r Corporal Jac neu Nyrs Hannah wynebu'r gynulleidfa.

  4. Eglurwch, pan fyddwch chi'n dweud, 'Dyma Gorporal Jac/Nyrs Hannah' a phwyntio ato ef neu hi, y byddwch am i’r plant eraill ateb, 'Fe wnawn ni gofio'. Yna ail-adroddwch y geiriau hyn, gyda naws o ddifrifwch a chael eich cynulleidfa i ymateb.

  5. Wedyn, gofynnwch i'r plant, 'Pwy arall ydyn ni'n eu cofio?'

    Gwrandewch ar eu hatebion a nodwch bwysigrwydd cofio am bobl gyffredin sy'n marw o ganlyniad i ryfel, hefyd, gan o bosib egluro'r gair 'dinasyddion'.

    Ail-adroddwch Gam 3 gydag ail wirfoddolwr, ond y tro hwn adroddwch stori am ffarmwr sifil sy'n cael ei orfodi i dyfu cymaint ag sy'n bosib o fwyd gyda nifer cyfyngedig o weithwyr, oherwydd bod y cyfan o'r dynion ifanc wedi mynd i ryfela. Neu wraig ty, yn ymdrechu i fwydo'i theulu ar y bwyd dogni oedd ar gael a chadw ei phlant yn ddiogel yn ystod y Blits. Fel ag o'r blaen, rhowch iddo ef neu hi, groes gofio, pabi coch, neu symbol arall, neu gelfi perthnasol i ffermwr neu wraig ty.

  6. Fel ag o'r blaen, dywedwch, 'Dyma . . . ‘, gan bwyntio ato ef neu hi fel y gall y plant ateb, 'Fe wnawn ni gofio.’

  7. Siaradwch yn awr am bwysigrwydd cofio'r milwyr estron sy'n marw mewn rhyfeloedd. Maen nhw i gyd yn ddioddefwyr.

    Yn awr, gwahoddwch drydydd gwirfoddolwr, gan ei alw ef y tro hwn yn ‘Johann’/ neu hi yn ‘Ulrike’, i gynrychioli milwr Almaenaidd y Rhyfel Byd Cyntaf neu nyrs o'r un cyfnod. Ewch ymlaen fel o'r blaen gan roi iddo ef neu hi, groes neu eitem arall neu gelf a gorffen gyda phawb yn dweud, ‘Fe wnawn ni gofio.’

  8. Yn awr, siaradwch am ‘gofio’ yng nghyd-destun perthyn i'r gorffennol.

    Gofynnwch, ‘Ydych chi'n cofio beth gawsoch chi i fwyta amser brecwast heddiw?’ Yna eglurwch sut yr ydym yn gallu cofio mewn perthynas â'r presennol a'r dyfodol yn ogystal â'r gorffennol. Fe wnawn hyn pan fyddwn, er enghraifft, yn cofio beth sy'n rhaid i ni ei wneud ar ôl y gwasanaeth hwn, neu beth fydd y wers nesaf yn yr ysgol, ac ati.

  9. Eglurwch, ochr yn ochr â chofio rhai fel Jac, Hannah, Johann ac Ulrike o'r gorffennol ar Sul y Cofio, rydym hefyd yn cofio milwyr, nyrsys ac eraill sy'n cael eu hunain yng nghanol rhyfeloedd heddiw, yn ogystal â dioddefwyr o blith sifiliaid mewn gwrthdrawiadau cyfoes a rhyfel ym mhob cwr o'r byd.

    Soniwch am wrthdrawiad cyfoes a gofynnwch i wirfoddolwr gamu 'mlaen i gynrychioli dioddefwyr y gwrthdrawiad hwnnw, efallai gyda'r pwyslais ar blant sydd wedi dioddef, os yw hynny'n berthnasol.

    Gofynnwch i'r plentyn hwn eistedd o flaen y lleill a rhowch iddo ef neu hi, groes neu eitem arall, hefyd. Fel o'r blaen, gofynnwch beth yw ei enw ef neu hi, a dywedwch, 'Dyma  . . .  ' a chan bwyntio ato ef neu hi, gymell y plant i ddweud, ‘Fe wnawn ni gofio.’

  10. Yn olaf, soniwch ein bod yn cofio'r gobaith am heddwch. Goleuwch y gannwyll, os yn ei defnyddio, a gofynnwch am un gwirfoddolwr arall i'w dal.  Treuliwch ychydig funudau mewn tawelwch, gan arddangos delweddau o ryfel, os gwnaethoch chi benderfynu eu cynnwys.

Amser i feddwl

Heddiw, rydym yn meddwl am y milwyr Jac a Johann, nyrsys Hannah ac Ulrike a'r bobl eraill a fu farw mewn brwydrau yn ystod y Rhyfeloedd Byd.

Heddiw, rydym yn meddwl am y dynion, y merched a’r plant sy'n cael eu hunain yng nghanol rhyfeloedd y funud hon.

Heddiw, rydym yn meddwl am yr holl ddioddefwyr sy'n rhan o wrthdrawiadau mewn gwledydd drwy'r byd.

Rydym yn meddwl am filwyr a sifiliaid mewn gwahanol wledydd a all farw heddiw.

Cyd-ddywedwn am y tro olaf, ‘Fe wnawn ni gofio.’

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Rho i ni’r gobaith y daw rhyfeloedd i ben.
Helpa ni i fod yn heddychlon.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Nimrod’ allan oEnigma Variations gan Elgar

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon