Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gadewch bethau fynd!

Pam y dylem ni faddau i’r rhai hynny sy’n brifo ein teimladau?

gan Becky May

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Amlygu pam y dylem ni ddatrys dadleuon yn sydyn, a pheidio â gadael iddyn nhw gynyddu a mynd yn broblem fawr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen delweddau o Dy Opera Sydney, a map o’r byd. Trefnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth. Nodwch Denmarc ac Awstralia ar y map, fel bydd y plant yn gallu gweld ble mae’r ddwy wlad.

Gwasanaeth

  1. Helo. Tybed oes un ohonoch chi’n adnabod yr adeilad hwn?

    Dangoswch y ddelwedd o Dy Opera Sydney, a gwahoddwch y plant i geisio dyfalu pa adeilad yw hwn, ac ymhle y mae.

  2. Felly, dyma Dy Opera Sydney. Oes rhywun yn gwybod ym mha ran o’r byd y mae’r adeilad hwn?

    Dangoswch y map o’r byd i’r plant, a helpwch nhw weld ble mae Awstralia, ac yna Sydney.

  3. Rwyf am ddweud rhai ffeithiau diddorol wrthych chi am yr adeilad nodedig hwn.

    Neuadd gyngerdd enfawr yw’r Ty Opera ar lan Harbwr Sydney, heb fod ymhell o’r bont enwog Sydney Harbour Bridge.

    Agorwyd yr adeilad yn swyddogol yn 1973, gan y Frenhines Elizabeth II, sydd hefyd yn frenhines Awstralia.

    Bob blwyddyn, mae mwy na 3,000 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn y Ty Opera, yn cynnwys operâu, cyngherddau a gwyliau.

    Mae cyfanswm o 1,000 o ystafelloedd yn y Ty Opera - yn cynnwys swyddfeydd, tai bwyta a’r neuaddau cyngerdd - ac mae mwy na miliwn o deils i gyd ar y to!

    Y pensaer a ddyluniodd y Ty Opera oedd dyn o’r enw Jørn Utzon, fu’n llwyddiannus yn erbyn 232 o ymgeiswyr eraill mewn cystadleuaeth i ddylunio’r adeilad.

  4. Mewn gwirionedd, fe hoffwn i siarad ychydig bach mwy gyda chi heddiw am Jørn Utzon. Roedd yn ‘bensaer’, sef un sy’n dylunio adeiladau, ac roedd Jørn Utzon yn byw yng ngwlad Denmarc.

    Dangoswch i’r plant ble mae Denmarc ar y map o’r byd, gan sylwi pa mor bell yw Denmarc o Awstralia.

  5. Dyluniodd Jørn Utzon y Ty Opera er nad oedd erioed wedi gweld lle y byddai’n cael ei adeiladu! Roedd beirniaid y gystadleuaeth yn hoffi ei gynllun gymaint fel y gwnaethon nhw roi’r gwaith o drefnu adeiladu’r Ty Opera i Jørn Utzon ei hun. Felly, fe aeth i Awstralia.

    Tra roedd y gwaith adeiladu’n digwydd, datblygodd rhai problemau, ac roedd Jørn Utzon yn anghytuno â phobl eraill a oedd yn ymwneud â’r prosiect ynghylch y ffordd y dylen nhw orffen y dyluniad. Yn y pen draw, roedd Mr Utzon mor ddig ynghylch y newidiadau yr oedden nhw eisiau eu gwneud i’w gynllun, fe ymadawodd ag Awstralia a mynd yn ei ôl i Ddenmarc.

    Daliodd pobl eraill ymlaen â’r gwaith adeiladu nes yr oedd yr adeilad wedi ei orffen, ac mae pobl bellach yn gallu mwynhau ei ddyluniad ar gyfer y Ty Opera, ond aeth Jørn Utzon ei hun byth yn ôl i weld yr adeilad ar ôl iddyn nhw orffen ei adeiladu!

  6. Ymhen llawer o flynyddoedd wedyn, a Jørn Utzon yn ddyn oedrannus, fe wnaeth perchnogion y Ty Opera wneud iawn ag ef ac ymddiheuro am y problemau a achoswyd ganddyn nhw. Ar ôl hynny, fe fu Jørn Utzon yn ymwneud â helpu gyda datblygiadau a newidiadau i’r adeilad, ond oherwydd ei fod mewn gormod o oed ni allodd deithio yn ei ôl i Awstralia i weld y gwaith gorffenedig.

    Allwch chi ddychmygu adeiladu rhywbeth mor enwog â Thy Opera Sydney, ond heb erioed gael ei weld drosoch eich hun? A hynny dim ond oherwydd dadl!

    Yn ffodus, fe gafwyd maddeuant, ac fe ddaeth y berthynas yn well, ond oni fyddai wedi bod yn well pe gallen nhw fod wedi datrys eu problemau ynghynt?

  7. Pan fyddwn ni’n dadlau ac yn cweryla gyda’n ffrindiau neu ein brodyr a’n chwiorydd, mae’n gallu bod yn anodd bod yr un cyntaf i ddweud ‘sori’, yn enwedig os ydyn ni’n meddwl eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth i’n brifo ni. Ond yn wir, fe all dweud sori ar unwaith helpu i ddatrys problem yn fuan a’i rhwystro rhag troi’n rhywbeth mawr a allai fynd allan o reolaeth..

    Yn y Beibl, fe ysgrifennodd un o ddilynwyr Duw, sef Paul, hyn, ‘peidiwch â gadael i’r haul fachlud ar eich digofaint’ (Effesiaid 4.26). Hynny yw, fe ddylem geisio datrys unrhyw ddadl neu gweryl rydyn ni wedi ei chael â rhywun cyn diwedd y diwrnod hwnnw– nid gadael i anghydfod barhau am flynyddoedd lawer, fel a ddigwyddodd yn achos Jørn Utzon a phrosiect adeiladu Ty Opera Sydney.

Amser i feddwl

Gadewch i ni ymdawelu, fel y gallwn ni feddwl am y ffordd rydyn ni’n delio â dadleuon y gallem eu cael gyda’n ffrindiau neu aelodau ein teulu.

Allwch chi feddwl am amser pryd y gallech chi fod wedi dweud sori ar unwaith fel y byddai dadl wedi dod i ben yn gynt nag y gwnaeth? Ceisiwch gofio stori heddiw, fel y byddwch chi y tro nesaf y cewch chi anghydfod i’w ddatrys yn gallu gwneud hynny’n gyflym.

Gweddi
Annwyl Dduw.
Diolch i ti fod y Beibl yn dweud wrthym y byddi di’n maddau i ni pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth o’i le.
Helpa ni i gofio datrys unrhyw anghydfod yn gyflym, trwy ddweud sori a maddau i bobl eraill pan fyddan nhw wedi brifo ein teimladau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon