Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cist drysor yn llawn gemau gwerthfawr

Mae teyrnas Duw’n debyg i ...

gan Becky May

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Meddwl am y trysorau sydd yn nheyrnas Duw, a meddwl sut y gallwn ni newid y byd er gwell.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cist drysor, rhai darnau o gerdyn lliwgar a phin ffelt du.
  • Copïwch yr adnod sydd i’w gweld yma, o Mathew 13.44 fel y gallwch chi neu un o’r plant ei darllen yng Ngham 3 y gwasanaeth:

    Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth rhywun o hyd iddo, fe’i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae’n mynd ac yn gwerthu’r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu’r maes hwnnw.

Gwasanaeth

  1. Helo, edrychwch beth sydd gen i yma – cist drysor! Tybed beth fyddech chi’n dod o hyd iddo y tu mewn iddi?

    Gwahoddwch y plant i rannu rhai o’u hawgrymiadau â chi ynghylch beth fydden nhw’n disgwyl ei ganfod mewn cist drysor.

  2. Am bwy y byddwch chi’n meddwl pan fyddwch chi’n gweld cist drysor?

    Pan fydda i’n gweld cist drysor, mae’n fy atgoffa i o storïau am fôr-ladron yn claddu eu trysor er mwyn ei gadw’n ddiogel rhag môr-ladron eraill. Pan fydd rhywun yn gweld cist drysor, fe fyddan nhw’n dychmygu bod pob math o bethau gwerthfawr iawn i mewn yn y gist. Fyddwch chi’n meddwl hynny?

  3. Ydych chi’n gwybod bod Iesu wedi adrodd stori ryw dro am drysor oedd wedi ei guddio. Fe adroddodd Iesu’r stori pan oedd yn addysgu gwers bwysig i’w ddilynwyr am yr hyn sy’n wir werthfawr.

    Naill ai darllenwch yr adnod o Efengyl Mathew 13.44, neu gwahoddwch y plentyn rydych chi wedi ei ddewis i’w darllen.

  4. Dychmygwch eich bod wedi dod o hyd i gist drysor wedi ei chladdu, a’ch bod gymaint o eisiau cael y gist honno i chi eich hunan fel eich bod yn gwerthu pob peth sy’n eiddo i chi er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cael y gist. Mae hynny’n dangos pa mor werthfawr yr oedd y gist, yn siwr.

  5. Pan oedd Iesu ar y Ddaear, fe adroddodd lawer o storïau wrth y bobl er mwyn eu helpu i ddeall mwy am Dduw ac am sut y dylai pethau fod yn y byd. Yn y stori hon, mae’n sôn am deyrnas Duw. Roedd y bobl yr oedd Iesu’n cwrdd â nhw’n disgwyl iddo drechu’r llywodraethwyr oedd yn rheoli eu gwlad. Roedd y llywodraethwyr hyn bob amser yn llym iawn gyda’r bobl ac yn eu rhwystro rhag dilyn rheolau Duw. Roedd y bobl eisiau i Iesu eu trechu a dod yn frenin arnyn nhw i reoli’r wlad yn hytrach na’r llywodraethwyr cas. Ond eglurodd Iesu i’r bobl nad dyna oedd teyrnas Duw. Fe fyddai’n adrodd llawer o storïau wrth y bobl i’w helpu i ddeall y ffaith pan fydden nhw’n byw bywyd fel y dymunai Duw iddyn nhw ei wneud, fe fydden nhw’n dod â theyrnas Duw i’r Ddaear.

  6. Pan siaradodd Iesu am y trysor yr oedd y dyn yn y stori hon wedi dod o hyd iddo - trysor a oedd wedi ei guddio mewn cist fel hon, efallai  - roedd arno eisiau i’w ddilynwyr ddeall bod rhai pethau’n fwy gwerthfawr nac aur ac arian a gemwaith hyd yn oed. Y pethau gwerthfawr hynny yw’r trysorau sy’n dod â theyrnas Duw i’r Ddaear. Mae’r trysorau hyn yn drysorau dydyn ni ddim yn gallu eu gweld fel gwrthrychau caled, yn hytrach maen nhw’n bethau sy’n gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu caru a’u gwerthfawrogi. Allwch chi fy helpu i feddwl pa fath o drysorau fyddai’r rheini?

    Helpwch y plant i nodi ‘trysorau’ fel hyn, gan efallai eu cysylltu â gwerthoedd yr ysgol, pethau fel cariad, heddwch, cyfeillgarwch, haelioni, ac ati. Nodwch bob ‘trysor’ ar ddarnau unigol o bapur lliwgar, gan eu tynnu allan o’r gist drysor fesul un a’u dal i fyny er mwyn i’r plant eu gweld.

  7. Allwch chi ddychmygu sut beth fyddai byw mewn byd sydd wedi ei amgylchynu â’r holl drysorau gwerthfawr hyn? Mewn gwirionedd, nid dim ond ar gyfer y bobl oedd yn byw yng ngwlad Iesu Grist ar y pryd yr oedd y neges hon. Mae’r stori hon â neges ynddi i ninnau hefyd. Allwch chi feddwl am rai pethau y gallwn ni eu gwneud er mwyn rhannu’r trysorau gwerthfawr hyn gyda’r bobl sydd yng nghymuned ein hysgol neu yn ein teuluoedd?

    Gwahoddwch y plant i rannu eu hawgrymiadau ynghylch ffyrdd ymarferol y gallwn ni i gyd arddangos y gwerthoedd hyn, trwy ddangos cariad neu garedigrwydd ac ati. Trafodwch am ychydig sut y gallai’r pethau hyn i gyd helpu i newid y byd, er gwell.

Amser i feddwl

Gadwech i ni ymdawelu wrth i ni edrych ar yr holl drysorau sydd gennym ni yn ein cist drysor a meddwl yn ddwys am rai o’r pethau y gallwn ni eu gwneud er mwyn gallu dod â’r pethau hyn i fywyd yr ysgol a’n bywyd teuluol.

Pan oedd Iesu’n addysgu ei ddilynwyr sut i weddïo, roedd yn gofyn iddyn nhw ddweud, ‘deled dy deyrnas .... megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.’ Fe allwn ni i gyd wneud pethau ymarferol er mwyn newid y byd i’w wneud yn lle gwell, ond fe allwn ni hefyd weddïo ar Dduw i newid y byd a’i wneud y math o le y mae ef yn dymuno iddo fod.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Heddiw, rydyn ni wedi bod yn meddwl am y pethau rydyn ni’n eu trysori o ddifri, a meddwl sut y gallwn ni helpu i’w rhannu yn ein cymuned er mwyn gallu newid y byd er gwell.
Helpa ni i sylwi ar y trysorau rwyt ti’n eu gweld, fel heddwch, cariad a haelioni, fel y gallwn ninnau fwynhau’r gemau gwerthfawr hyn a’u rhannu ag eraill.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Love is something if you give it away’ neu ‘Magic penny’ gan Malvina Reynolds

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon