Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pethau rhyfeddol wedi eu creu!

Mae pob un ohonom yn rhan o greadigaeth Duw

gan Keith Griffin

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Dathlu’r greadigaeth a’r rhan rydyn ni’n ei chwarae ynddi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen casgliad o bethau o’r byd naturiol, fel planhigyn, ffrwythau, llysiau a rhai hadau, ond amrywiaeth da, mewn bag neu focs.
  • Gallwch addasu’r gwasanaeth hwn fel y mynnoch, fel bydd yn briodol ar gyfer yr adeg neilltuol o’r flwyddyn a’r sefyllfa yn yr ysgol.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy drafod yr adeg o'r flwyddyn, y tywydd ar y pryd, yr ardal o amgylch, a beth mae'r plant yn ei fwynhau fwyaf am yr awyr agored a byd natur.

  2. Cyflwynwch y syniad bod yr holl bethau yr ydych wedi bod yn eu trafod yn rhan o greadigaeth Duw. Gwnewch jôc o'r syniad eich bod chi wedi bod eisiau dod â rhywbeth arbennig i'r gwasanaeth heddiw, fel coeden dderw fawr, cwmwl neu'r lleuad a'r sêr, ond na fydden nhw byth wedi yn ffitio i mewn i’r ystafell!

  3. Gan nad oedd yn bosib dod ag unrhyw un o'r eitemau mawr hynny i mewn, dywedwch eich bod, yn lle hynny, wedi dod yn rhai pethau eraill o greadigaeth Duw sy’n llai ac sy’n haws eu cario i’r ysgol. Dangoswch y bag neu’r bocs sydd gennych chi’n cynnwys y ffrwythau, llysiau, planhigion, hadau, ac ati.

  4. Gofynnwch i un neu ddau o’r plant ddod atoch chi i’ch helpu i dynnu’r pethau allan o’r bag neu’r bocs, fesul un, a’u dal i fyny i bawb gael eu gweld.

    Gofynnwch i’ch cynulleidfa ddweud beth yw pob eitem, a siaradwch ychydig am bob un o’r pethau yn eu tro, neu efallai ddweud stori fach am bob un.

    Wedyn, trafodwch gyda’r plant beth yw pwrpas pob un o’r pethau, a holwch y plant pam maen nhw’n meddwl bod Duw wedi creu y peth neilltuol hwnnw. Er enghraifft, mae nionod yn ddefnyddiol iawn wrth goginio i roi blas da ar gawl neu saig arall, mae tatws yn ein llenwi pan fyddwn ni eisiau bwyd, mae banana yn fwyd iachus ac yn hwylus iawn i’w gynnwys yn ein pecyn bwyd, mae planhigion yn harddu ein hystafelloedd, ac ati.

  5. Nesaf, mewn ffordd chwareus, eglurwch i'r plant eich bod yn meddwl y dylem ni, yn fwy aml, atgoffa'r gwahanol bethau hyn, sy’n rhan o’r greadigaeth, eu bod yn perthyn i Dduw. Felly, wrth i chi neu un o’r plant ddal yr eitem gyntaf i fyny eto, gwahodd eich cynulleidfa i ddweud, ar ôl i chi gyfrif i dri, ‘Rwyt ti’n rhan o greadigaeth Duw!’

  6. Daliwch ati i wneud yr un peth gyda gweddill yr eitemau. Gyda phob eitem, cofiwch ofyn i’r plant beth yw pwrpas pob un ohonyn nhw, a chael y plant i weiddi, ar ôl i chi gyfrif i dri, ‘Rwyt ti’n rhan o greadigaeth Duw!’

  7. Pan fyddwch chi wedi trafod yr holl eitemau, trowch i ganolbwyntio ar fodau dynol. Siaradwch am bob un o'n synhwyrau. Efallai y gallech chi ddisgrifio taith gerdded y gallai'r plant fynd arni, gan ofyn iddyn nhw ddychmygu sut y bydden nhw’n defnyddio eu holl synhwyrau wrth iddyn nhw gerdded ar y daith. Er enghraifft, efallai y bydden nhw’n clywed plant yn chwarae ac yn chwerthin yn y maes chwarae, yn gallu arogli persawr y blodau, yn teimlo’r awel oer ar eu croen, neu hyd yn oed y glaw ar eu hwynebau ac ati.

    Pwysleisiwch fod pob un o’r pethau hyn yn rhan o greadigaeth Duw.

  8. Holwch y plant beth maen nhw’n dda am ei wneud. Gwrandewch ar nifer o’r plant yn ymateb.

    Gofynnwch i’r plant pam maen nhw’n meddwl fod Duw wedi eu creu nhw. Eto, gwrandewch ar nifer o’r plant yn ymateb.

Amser i feddwl

Mae Duw wedi ein gwneud ni i gyd fel y gallwn ni fwynhau popeth y mae ef wedi ei roi i ni – i fanteisio ar yr awyr iach a’r awyr agored, i ddefnyddio ein corff ac i ofalu am ein gilydd.

Mae Duw’n mwynhau gweld plant yn chwarae ac yn rhedeg o gwmpas, yn cael hwyl.

Rydyn ni i gyd yn rhan o greadigaeth Duw, yn union fel y coed, y bryniau, a’r ffrwythau a’r llysiau.

Cyfrifwch i dri unwaith eto, am y tro olaf, gan newid yr ymateb y tro hwn i:

Rydyn ni i gyd yn rhan o greadigaeth Duw!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am bopeth rwyt ti’n ei roi i ni.
Diolch i ti am y byd natur cyfan ac am y greadigaeth, am y bwyd rydyn ni’n ei dyfu, a’i fwyta a’i fwynhau.
Helpa ni i chwarae ein rhan yn y greadigaeth.
Helpa ni i ofalu am ein gilydd ac am bopeth rwyt ti wedi ei roi yn ein gofal ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon