Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cariad yw....

Mae cariad yn ymwneud â gweithredoedd y ogystal â geiriau

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried mai agwedd ar y galon yw cariad.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd ac un neu fwy o ddarllenwyr, i ddarllen y rhan allan o 1 Corinthiaid 13.4-8, sy’n sôn am beth yw cariad.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen nifer o offerynnau taro, fel gong a symbalau, a threfnwch o flaen llaw i nifer o’r plant eu taro mor swnllyd â phosib pan fydd y plant eraill yn dod i mewn i’r gwasanaeth.
  • Ysgrifennwch, neu dangoswch trwy gyfrwng o’ch dewis, y dyfyniad Saesneg canlynol, fel y bydd yn bosib i’ch cynulleidfa gyfan ei weld. ‘I like hugs . . . I like kisses, but what I love is help with the dishes!’

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant, rydych chi wedi trefnu gyda nhw o flaen llaw, wneud cymaint o swn ag sy’n bosib gyda’r gong a’r symbalau tra bydd y plant eraill yn dod i mewn i’r gwasanaeth.
  2. Dechreuwch y gwasanaeth trwy roi eich dwylo dros eich clustiau a dweud yn uchel, ‘Rhowch y gorau i wneud y swn mawr yma, ar unwaith, os gwelwch yn dda!’

    Yna, trowch at eich cynulleidfa a dweud, ‘Roeddwn i eisiau i chi gael profiad o swn mawr fel yma am ei fod yn ymwneud â’r hyn rydyn ni’n mynd i sôn amdano heddiw.’

    Yn y Beibl, mae’n dweud bod rhai pobl yn gallu bod fel y symbalau aflafar a’r gong swnllyd. Ond nid yw’n golygu bod y bobl hynny â lleisiau taranllyd, mawr. Mewn gwirionedd, fe allai’r bobl hynny ymddangos yn bobl dda, pobl grefyddol hyd yn oed. Fe allen nhw fod yn bobl wybodus a deallus iawn, ac fe allen nhw hefyd fod yn bobl glyfar iawn. Mae’n bosib iddyn nhw fod yn bobl sydd â ffydd ddofn yn yr hyn maen nhw’n ei gredu ac yn ymrwymedig i achosion da. Hefyd, fe allen nhw fod yn bobl sy’n cyfrannu llawer o arian at achosion sy’n cefnogi pobl sy’n dlawd ac mewn angen.

    Mae’r Beibl yn dweud, fodd bynnag, os yw pobl yn gwneud pob math o bethau da ondheb fod â chariad, a heb fod yn ofalgar tuag at bobl eraill, yna dim ond gong swnllyd ydyn nhw.

    Gofynnwch i’r rhai sy’n taro’r offerynnau wneud hynny unwaith eto am foment.
  3. Mae bod yn glyfar yn beth gwych iawn, wrth gwrs. Felly hefyd credu’n gryf mewn achos da neu roi cyfraniadau ariannol at elusennau. Ond y peth pwysicaf yw caru ein gilydd.

  4. Mae rhan adnabyddus iawn o’r Beibl, a gaiff ei ddarllen yn aml mewn gwasanaeth priodas, sy’n disgrifio beth yw gwir gariad.

    Gofynnwch i’r darllenydd neu’r darllenwyr ddarllen yr adnodau o 1 Corinthiaid 13.4-8.
  5. Nodwch nad yw’r darlleniad hwn yn sôn am y pethau y byddwn ni’n eu cysylltu fel arfer â chariad – pethau fel cofleidio, cusanau, neu symbol o galonnau, ac ati. Yn hytrach mae’n sôn am bethau fel amynedd, caredigrwydd, a pheidio â brolio. Mae’n sôn am yr agwedd yn ein calon tuag at bobl eraill.

  6. Dangoswch y dyfyniad i’r plant -‘I like hugs . . . I like kisses, but what I love is help with the dishes!’ – yna gofynnwch y cwestiynau canlynol iddyn nhw.

    - Pwy, tybed, allai fod wedi dweud y geiriau hyn?
    - Beth yw ystyr y geiriau?
    - Ydych chi’n meddwl eu bod yn dweud rhywbeth tebyg i’r adnodau, rydyn ni newydd eu clywed, o’r Beibl?

Amser i feddwl

Meddyliwch am y dyfyniad. Fe allwn ni ddangos ein cariad mewn llawer o wahanol ffyrdd.

Sut gallwn ni heddiw ddangos ein cariad tuag at bobl?

Efallai yr hoffech chi wrando ar amrywiaeth o atebion gan y plant.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti ein bod yn gallu profi cariad.
Diolch am y rhai sy’n amyneddgar tuag atom ni ac yn garedig wrthym ni, y rhai hynny sydd ddim yn hunanol ac sy’n gofalu amdanom. Hefyd, diolch am y rhai hynny sy’n maddau i ni pan fyddwn ni’n brifo eu teimladau, ac sydd eisiau’r gorau i ni bob amser.
Diolch dy fod ti’n ein caru ni’n fawr.
Helpa ninnau i ddangos gwir gariad tuag at eraill hefyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon