Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwneud pethau bychain

Mae gweithredoedd bach o garedigrwydd yn gallu cael effaith fawr

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2007)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Trwy gyfrwng stori am ferch o’r enw Theresa, cyflwyno’r syniad o wneud gweithredoedd bach caredig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un blodyn a’r geiriau, ‘Yr hyn sy'n bwysig mewn bywyd yw nid gweithredoedd mawr, ond cariad mawr’ wedi eu harddangos fel y bydd yn bosib i’r plant eu darllen.
  • Chwiliwch am ddelwedd o Theresa, sydd hefyd yn cael ei galw’n Thérèse of Lisieux (fel y delweddau sydd i’w cael ar wefan y gymdeithas Society of the Little Flower, ar:www.littleflower.org/abouttherese/learn/index.asp),a threfnwch fodd o’i dangos yn ystod y gwasanaeth (dewisol, gwiriwch yr hawlfraint os byddwch yn ei defnyddio).

Gwasanaeth

  1. Heddiw, rydw i’n mynd i sôn am ferch arbennig iawn o’r enw Theresa. Roedd hi’n byw dros 140 o flynyddoedd yn ôl.

  2. Cafodd ei geni ar 2 Ionawr 1873, ac fe fu farw ar 30 Medi 1897, yn ferch ifanc dim ond 24 mlwydd oed. Roedd ei  mam wedi marw pan oedd Theresa yn ddim ond pedair oed, ac roedd gan ei thad bump o blant i ofalu amdanyn nhw. Fe wnaeth un o’r plant, merch o’r enw Mary, gymryd y cyfrifoldeb am wneud y gwaith ty, ac fe gymerodd y chwaer hynaf, Pauline, y cyfrifoldeb am ddysgu’r plant ieuengaf am Dduw.

    Pan oedd hi’n 14 oed, penderfynodd Theresa ei bod hi eisiau cysegru ei bywyd i wasanaethu Duw, felly fe aeth i fyw mewn cwfaint fel lleian (rhywun sy’n mynd i fyw gyda rhai eraill yr un fath â hi ei hun sy’n dymuno rhoi eu bywyd yn gyfan gwbl i Dduw).

    Roedd Theresa wedi dioddef afiechyd trwy gydol ei hoes, ond roedd i’n nodedig fel bod yn un a oedd bob amser yn llawen. Roedd hi’n hoffi drama, ac roedd hi’n hapus iawn yn cydweithio â’r lleianod eraill wrth wneud unrhyw weithgareddau. Ond yn 1896, fe ddechreuodd ddioddef o’r salwch difrifol sy’n cael ei alw’n tiwberciwlosis, ac fe dreuliodd fisoedd olaf ei bywyd mewn ysbyty yn y cwfaint lle’r oedd yn byw gyda’r lleianod. Ond, er gwaethaf ei gwaeledd, ni pheidiodd â bod yn hapus!

    Yn y flwyddyn 1925, penderfynwyd y byddai Theresa’n cael ei chofio fel santes. 'Sant' neu ‘Santes’ yw unigolyn sydd wedi bod yn esiampl arbennig i ni oherwydd y ffordd y gwnaeth ef neu hi fyw bywyd arbennig, neu un a oedd â doniau arbennig.

  3. Er na chafodd Theresa fywyd hir, fe ddefnyddiodd bob munud oedd ganddi i ofalu am bobl eraill. Ei dywediad mwyaf enwog oedd, ‘Yr hyn sy'n bwysig mewn bywyd yw nid gweithredoedd mawr, ond cariad mawr.’

    Tynnwch sylw’r gynulleidfa at y dyfyniad rydych chi’n ei arddangos.

    Daeth Theresa’n enwog fel rhywun a fyddai’n dangos cariad tuag at bobl eraill trwy wneud pethau bychain. Ambell dro, fe fyddai’n rhoi blodau i rywun (roedd hi wrth ei bodd â blodau, a dyna pam roedd pobl yn ei galw’n ‘flodyn bach’), ambell waith fe fyddai hi’n gweddïo, dro arall fe fyddai’n dangos cariad tuag at bobl eraill a rhoi sylw iddyn nhw pan fydden nhw’n cael eu llethu â phroblemau.

  4. Roedd Theresa’n gwybod nad oedd hi’n ddigon cryf yn gorfforol i wneud gweithredoedd mawr, ond roedd hi’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd pobl trwy wneud pethau bach iddyn nhw. Yn aml, y pethau bach hynny yw’r pethau sy’n cael yr effaith fwyaf ar fywyd pobl, y pethau bach sy’n dangos fod rhywun yn fawr eu gofal tuag atyn nhw.

Amser i feddwl

Caewch eich llygaid a meddwl am rywbeth bach y mae rhywun wedi ei wneud i chi a wnaeth i chi deimlo’n hapus, neu i deimlo’n arbennig. Efallai mai dweud rhywbeth caredig wrthych chi a wnaeth rhywun, gofyn i chi ddod i chwarae â nhw, neu efallai roi rhywbeth bach yn anrheg arbennig i chi.

Penderfynwch wneud rhywbeth heddiw a fyddai’n gwneud i rywun arall deimlo’n arbennig.

Eglurwch y byddwch chi’n oedi yng nghanol y weddi er mwyn i’r plant sy’n dymuno gwneud hynny, allu dweud ‘Diolch’ yn dawel am rywun arbennig y maen nhw’n ei adnabod.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y bobl sy’n gwneud pethau ar fy rhan sy’n gwneud i mi deimlo’n hapus a theimlo fy mod i’n cael fy ngharu.
Diolch yn arbennig am ...(saib).
Helpa fi i wneud rhywbeth heddiw i ddangos i rywun ei fod ef neu hi’n golygu llawer i mi.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon