Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mesur enfawr!

Mae rhai pethau’n anfesuradwy

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2007)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried na all rhai pethau pwysig gael eu mesur.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o wrthrychau y mae’n bosib i chi eu mesur, er enghraifft, bag o flawd (pwysau), cylchyn hwla (cylchedd) a'r neuadd (hyd neu led).
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen offer mesur a fydd yn addas i chi i fesur y gwrthrychau hyn, er enghraifft, clorian, pren mesur, tâp mesur, olwyn metr a chloc.
  • Efallai y byddwch chi hefyd yn dymuno cael ffordd o gofnodi atebion y plant, a glôb.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod angen gwirfoddolwyr er mwyn helpu i fesur rhai pethau. Dangoswch i'r plant y gwrthrychau rydych chi eisiau eu mesur, neu dywedwch beth yn yr ystafell sydd angen ei fesur, er enghraifft, hyd y neuadd neu uchder cwpwrdd.

  2. Eglurwch eich bod yn mynd i fesur llawer o bethau, ond nad ydych yn siwr pa offer i'w defnyddio. Gofynnwch am gymorth wrth benderfynu pa offer y dylech ei ddefnyddio ar gyfer pob gwrthrych. Rhowch rai enghreifftiau anghywir, fel 'A ddylwn i ddefnyddio’r glorian i fesur hyd pensil?'

  3. Gwahoddwch nifer o blant atoch chi i'r blaen i wneud y mesuriadau. Cofnodwch y canlyniadau.

  4. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i’r plant.

    - Ydych chi wedi bod ar daith hir ryw dro?
    - Oes gennych chi ryw syniad pa mor bell y gwnaethoch chi deithio ar y daith honno?
    - Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi teithio o amgylch y byd?

  5. Dangoswch y glôb, a gofynnwch i'r plant ddyfalu beth yw hyd cylchedd y Ddaear. (Yr ateb yw 40,075.16 km.)

  6. Gofynnwch y cwestiynau canlynol, gan oedi rhwng pob un er mwyn annog y plant i feddwl am yr atebion.

    - A yw’n bosib mesur cariad?
    - A yw’n bosib mesur cyfeillgarwch, caredigrwydd, neu’r weithred o helpu eraill?
    - Er na allwn ni fesur y pethau hyn, a yw hynny’n golygu nad ydyn nhw’n bwysig?

  7. Os yw hynny’n briodol, darllenwch Salm 103.11-12: ‘Y mae ei gariad ef dros y rhai sy’n ei ofni; cyn belled ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin.’ Neu fe allech chi ddarllen Effesiaid 3.18: ‘Boed i chwi, sydd â chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist.’
    Eglurwch i’r plant bod Cristnogion yn credu bod Duw’n caru pawb yn fawr iawn. Mewn gwirionedd, mae’r Beibl yn disgrifio cariad Duw fel rhywbeth anfesuradwy. Mae Cristnogion yn credu bod cariad Duw yn enfawr ac yn ddiddiwedd.

Amser i feddwl

Meddyliwch am rywun yr ydych chi’n ei garu.
Sut gallwch chi ddangos i’r person hwnnw eich bod yn hoff ohono ef neu ohoni hi?
Beth fyddwch chi'n gallu ei wneud heddiw, na ellir ei fesur, ond a fydd yn bwysig iawn?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi rhoi Iesu i’r byd.
Diolch dy fod ti’n ein caru ni mor fawr.
Helpa ni i ddangos ein cariad tuag at bobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon