Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Gog

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall mai yn ôl agwedd ein calon y byddwn ni’n cael ein cofio.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Sgwrsiwch am ba mor braf yw clywed cân yr adar yr adeg hon o’r flwyddyn. Fe allech chi ddefnyddio gwefan RSPB er mwyn rhoi cyfle i’r plant wrando ar gân adar sy’n weddol gyffredin yn eich ardal leol, gan ofyn a oes unrhyw un yn gallu dyfalu pa aderyn maen nhw’n ei glywed.

    Eglurwch fod gan rai adar gân nodedig iawn, oherwydd eu bod yn dod i’r wlad yma yn ystod yr haf, ac mai dim ond yn ystod misoedd cyntaf yr haf yr ydym yn debygol o’u clywed.

    Chwaraewch recordiad o gân y gog, a gofynnwch i’r plant ddweud pa aderyn maen nhw’n ei glywed. Mae’r gog bob amser yn atgoffa pobl o ddyddiau braf yr haf.

  2. Edrychwch ar y lluniau o’r gog oddi ar y wefan. Trafodwch faint yr aderyn, ei liw, ac ati, gan ddefnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei rhoi ar y gwefannau.

  3. Er ein bod wrth ein bodd yn clywed can y gog yn yr haf, ac er ei fod yn aderyn mor hardd, eglurwch fod pobl weithiau, ddim yn hoffi rhywbeth sy’n gysylltiedig â’r aderyn neilltuol yma. Mae’r aderyn yma’n ymddwyn yn wahanol i adar eraill.

    Eglurwch fod yr aderyn neilltuol yma, y gog, yn cael ei adnabod fel aderyn diog, hunanol ac angharedig. Fydd y gog byth yn adeiladu nyth fel mae’r adar eraill yn ei wneud. Maen nhw’n defnyddio nythod adar eraill, adar bach llai na nhw’u hunain, ac yn dodwy eu hwyau ynddyn nhw. Ac nid yn unig hynny, os yw’r adar bach wedi dodwy rhywfaint o wyau eisoes yn y nyth hwnnw, fe fydd y gog cael gwared â’r rheini. Weithiau, fe fyddan nhw'n eu bwyta neu'n eu taflu allan o’r nyth i wneud mwy o le i’r wy y mae hi yn ei ddodwy yno. Yna, fe fydd yn mynd ac yn gadael yr wy yn y nyth i’r aderyn bach ei ddeor, a bwydo’r cyw ddaw allan o’r wy wedyn.

    Dangoswch y clip fideo o’r cyw gog mawr sy’n cael ei fwydo gan yr aderyn bach, telor yr hesg.

  4. Yn y Beibl, rydyn ni’n gweld bod Iesu wedi dweud sawl tro wrth ei ddilynwyr am edrych ar adar yr awyr a blodau’r maes. Mae llawer o wersi i’w dysgu oddi wrth fyd natur.

    Mae’n debyg mai’r wers bwysicaf y gallwn ni ei dysgu wrth feddwl am y gog yw os byddwn ni’n ymddwyn yn angharedig, yn farus neu’n hunanol, dyna sut bydd pobl yn ein cofio. Does dim gwahaniaeth pa mor glyfar y byddwn ni, na pha mor hardd yr olwg, na pha mor glên y byddwn ni’n swnio. Y peth pwysicaf yw sut rai ydym ni o fewn ein calon.

Amser i feddwl

Yn aml, fe fyddwn ni’n treulio llawer o amser yn meddwl am sut rydyn ni’n edrych o’r tu allan.
Sut olwg sydd ar ein calon heddiw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y gwersi y gallwn ni eu dysgu wrth edrych ar y gog.
Helpa ni i fod yn ystyriol ac i fod â chalon garedig.
Amen.

 

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon